News

Awstralia’n curo Cymru am y pedwerydd tro o’r bron

Awstralia fu'n fuddugol yn Stadiwm Principality

Yn dilyn gorfoledd y penwythnos diwethaf o guro’r Crysau Duon, colli o 29-26 fu hanes Cymru yn erbyn Awstralia yn Stadiwm Principality o flaen torf o 66,307.

Ers i’r Crysau Cochion hawlio’r fuddugoliaeth gofiadwy o 40-6 yng Nghwpan y Byd yn Ffrainc dair blynedd yn ôl, mae’r Wallabies bellach wedi ennill y pedair gornest ddiwethaf rhwng y ddwy wlad. Hon oedd eu buddugoliaeth gyntaf yn Hemisffer y Gogledd ers iddyn nhw guro Cymru o 52-10 ddwy flynedd yn ôl.

Hon oedd gornest olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd cyn y gemau terfynol yn Twickenham y penwythnos nesaf.

Yn dilyn y golled fain heno, bydd Steve Tandy a’i garfan yn wynebu Japan am y 5ed safle am 1.10pm ddydd Sadwrn, gwta dair wythnos wedi i Gymru eu curo o 28-21 yn Stadiwm Principality.

Fe ddewisodd Tandy yn un pymtheg cychwynnol ag y gwnaeth ar gyfer y gêm yn erbyn Japan ar gyfer gornest heddiw tra i Brif Hyfforddwr Awstralia Les Kiss, wneud 5 newid i’w dîm gollodd o 15-12 ym Murrayfield chwe niwrnod ynghynt.

Gan bod Max Llewellyn yn ennill cap rhif 16 i’w wlad heddiw, ynghyd â 92 cap Gareth ei dad, mae’r teulu Llewellyn bellach wedi curo cyfanswm capiau’r teulu Quinnell o safbwynt y nifer o weithiau y mae tadau a meibion wedi cynrychioli Cymru.

Ond dechrau digon anffodus gafodd Max i’r ornest wrth iddo dderbyn cerdyn melyn am dacl anghyfreithlon wedi llai na dau funud o chwarae.

Erbyn yr amser i ganolwr Caerloyw ddychwelyd i’r maes, doedd dim pwyntiau ar y sgorfwrdd o hyd, a phedwar dyn ar ddeg Cymru ddaeth agosaf at sgorio ddwywaith yn ystod y cyfnod hwnnw.

Penderfynodd Eric Gauzins y dyfarnwr teledu bod Louis Rees-Zammit wedi colli rheolaeth o’r bêl wrth dirio wedi 8 munud ac yn ystod ymosodiad nesaf y Crysau Cochion, llwyddodd amddiffyn Awstralia i atal Dewi Lake rhag tirio cais agoriadol y noson.

Yn anffodus daeth y cais cyntaf hwnnw i’r ymwelwyr pan garlamodd Taniela Tupou dros y gwyngalch wedi 20 munud o chware. Ychydig funudau ynghynt roedd hi’n ymddangos fod y prop wedi taro Alex Mann, ond penderfynodd Luc Ramos nad oedd hi’n drosedd.

21.11.26.  Taniela Tupou yn croesi am ei gais

Dri munud wedi hynny tro Tomos Williams oedd cael ei ddal i fyny wedi iddo groesi llinell gais Awstralia a chosbwyd y Cymry am beidio â chymryd eu cyfleoedd yn ystod yr hanner awr agoriadol.

Er gwaetha goruchafiaeth y Cymry o ran tiriogaeth a meddiant, bachwr Awstralia Brandon Paenga-Amosa oedd y nesaf i sgorio 8 munud cyn yr egwyl. Daeth y cais hwnnw o sgarmes symudol effeithiol – pumed y bachwr yn ei wyth gêm ryngwladol ddiwethaf. Llwyddodd Ryan Lonergan gyda’r trosiad i agor bwlch o 12 pwynt rhwng y timau.

Efelychu camp Paenga-Amosa wnaeth Dewi Lake yn symudiad olaf y cyfnod cyntaf, i ychwanegu at ei gais yn erbyn y Crysau Duon wythnos ynghynt, ac yn dilyn trosiad Sam Costelow, 5 pwynt oedd yn gwahanu’r timau ar yr egwyl.

Hanner Amser: Cymru 7 Awstralia 12

21.11.26 – Dewi Lake yn dathlu ei ail gais o fewn wythnos, ac roedd un arall i ddilyn!

Er bod yr asgellwr Max Jorgensen wedi rhedeg yn glir i sgorio trydydd cais Awstralia 6 munud wedi troi, taro’n ôl – a hynny’n fuan – wnaeth y Cymry.

Yn dilyn sgarmes symudol oedd yn cynnwys yr olwyr – Dewi Lake gododd o waelod y pentwr cyrff am ei ail gais o’r noson.

Bum munud wedi hynny roedd y Crysau Cochion ar y blaen am y tro cyntaf.

Yn dilyn rhediad gwefreiddiol Louis Rees-Zammit, plymiodd Blair Murray’n orfoleddus i hawlio trydydd cais y Cymry. Anel gywir Sam Costelow roddodd ddeubwynt o fantais i’r tîm cartref.

21.11.26. Cais Blair Murray

Dim ond am 10 munud y llwyddodd y tîm cartref i ddal eu gafael ar eu mantais gan i’r canolwr Len Ikitau hawlio pwynt bonws i’r Wallabies. Ychwanegodd Carter Gordon y trosiad i’w gwneud hi’n 26-21.

Mewn gêm brawf gampus a chystadleuol, ychwanegodd Gordon gôl gosb allweddol gyda 7 munud ar ôl – olygodd bod angen i’r Cymry sgorio ddwywaith yn hwyr.

Cafodd y Cymry gais gyda 90 eiliad yn weddill wrth i Ryan Elias hawlio pwynt bonws i’r Crysau Cochion tra roedd capten Awstralia Harry Wilson yn y cell callio – ond methiant fu eu holl ymdrechion i sgorio unwaith eto ac felly Awstralia oedd yn dathlu ar y chwiban olaf.

Roedd cais Elias yn golygu bod 15 o 32 cais diwethaf y Cymry wedi cael eu sgorio gan chwaraewyr y rheng flaen.

Er gwaetha’r golled hon, bydd Kane James yn cofio’r diwrnod am weddill ei ddyddiau, gan iddo gael ei alw o’r fainc yn Stadiwm Principality am y tro cyntaf i ychwanegu at y cap yr enillodd yn Ariannin dros yr haf.

O ganlyniad i fuddugoliaeth y Wallabies, mae Cymru’n ildio Tarian Raeburn i Awstralia ac mae carfan Les Kiss yn cadw’u gafael ar Dlws James Bevan.

Canlyniad: Cymru 26-29 Awstralia

Wedi’r chwiban olaf dywedodd Jac Morgan: “Roedd hi’n gêm galed ac roedden ni’n gwybod y byddai Awstralia’n gorfforol iawn. Fe gymron nhw eu cyfleoedd a phob clod iddyn nhw am hynny.

“Fe frwydron ni am yr 80 munud ond fe adawon ni gwpl o geisiau mas yna.

“Ar ôl y fuddugoliaeth yn erbyn y Crysau Duon yr wythnos ddiwethaf, ac eto heddiw, ry’n ni wedi dangos ein bod ni’n gallu cystadlu gyda phrif dimau’r byd a dylen ni fod yn falch iawn o hynny.”

Pencampwriaeth y Cenhedloedd 2026

Sadwrn, 4 Gorffennaf: Fiji 24-39 Cymru

Sadwrn, 11 Gorffennaf: Ariannin 35-21 Cymru

Sadwrn, 18 Gorffennaf: De Affrica 43-0 Cymru

Sadwrn, 7 Tachwedd: Cymru 28- 21Japan

Sadwrn, 14 Tachwedd: Cymru 35-28 Seland Newydd

Sadwrn, 21 Tachwedd: Cymru 26-29 Awstralia

 

 

 

 

 

 

 

Related Topics