Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Sean Lynn, wedi enwi tîm Cymru ar gyfer y gêm Brawf gyntaf yn erbyn Japan yn Stadiwm Coffa’r Tywysog Chichibu, Tokyo, ddydd Sadwrn, 24 Hydref (cic gyntaf: 10.30am, amser Cymru).
Bydd y blaen-asgellwyr Alex Callender a Kate Williams yn arwain y tîm ar y cyd unwaith eto – ac mae Lynn wedi gwneud pedwar newid – dau o’r rheiny’n newidiadau o ran safle – i’r pymtheg cychwynnol wynebodd Yr Unol Daleithiau.
Bydd Callender, wnaeth ei hymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2019, yn ennill ei 50fed cap dros ei gwlad yn erbyn Japan.
Ar gyfer y gêm ddiweddaraf hon yng Nghyfres y WXV, mae Nel Metcalfe yn dychwelyd i’r tîm wedi iddi golli holl ymgyrch ddiweddar Cymru’n y Chwe Gwlad. Ar gyfer y Prawf cyntaf hwn o ddau yn erbyn Japan, mae Metcalfe wedi ei dewis ar yr asgell.
Mae Seren Lockwood yn dychwelyd i safle’r mewnwr tra bydd Keira Bevan yn symud yn ôl i safle’r maswr.
Mae’r clo Jorja Aiono wedi’i henwi yn yr ail reng gyda Branwen Metcalfe, tra bod Carys Cox yn symud i safle’r canolwr i ffurfio partneriaeth â Freya Bell yng nghanol y cae.
Mae 12 o’r chwaraewyr fydd yn dechrau’r ornest hon dros Gymru yn Tokyo wedi cynrychioli Brython Thunder neu Gwalia Lightning yn yr Her Geltaidd.
Yn eu dwy gêm ddiwethaf yng Nghyfres y WXV llwyddodd carfan Sean Lynn i sicrhau buddugoliaeth nodedig o 50-19 dros Dde Affrica, cyn colli o 26-24 yn erbyn chweched detholion y byd – sef yr Unol Daleithiau – wythnos yn ddiweddarach.
Dywedodd Sean Lynn, Prif Hyfforddwr Cymru: “Ry’n ni wedi gwneud rhai newidiadau er mwyn gwobrwyo chwaraewyr sydd wedi gweithio’n galed iawn wrth ymarfer, ac mae rhoi cyfle i ambell chwaraewr hefyd yn cryfhau dyfnder y garfan.
“Bydd Japan yn cynnig her wahanol iawn o’u cymharu â’r timau eraill ry’n ni wedi eu herio hyd yn hyn yn y WXV. Maen nhw’n hoffi chwarae gêm gyflym iawn a lledu’r bêl ar bob cyfle.
“Fe fyddan nhw’n cynnig heriau gwahanol iawn i ni, a bydd yn rhaid i ni ymdopi â hynny a dod o hyd i atebion effeithiol. Bydd y gêm yma’n brawf go iawn o’n gallu ni fel tîm i reoli’r gêm.
“Mae’n dda croesawu Nel Metcalfe a Seren Lockwood yn ôl i’r garfan ar ôl anafiadau, ac ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at eu gweld yn chwarae yn erbyn Japan.
“Bydd Alex Callender yn ennill ei 50fed cap dros Gymru, ac mae pob un aelod o’r garfan yma —y chwaraewyr, yr hyfforddwyr a’r staff—yn gwybod yn union beth fydd hynny’n ei olygu iddi hi a’i theulu.
“Al Cal yw curiad calon y garfan hon yn emosiynol ac mae’n cael ei pharchu’n fawr ledled y byd rygbi. Mae ei hangerdd dros ei gwlad yn ysbrydoliaeth i bob un ohonon ni”
Tîm Cymru (v Japan)
15 Lisa Neumann (Caerlŷr) — 54 cap, 35 pwynt
14 Nel Metcalfe (Hartpury-Caerloyw) — 16 chap, 20 pwynt
13 Carys Cox (Ealing) — 27 cap, 30 pwynt
12 Freya Bell (Gwalia Lightning) — 4 cap, 14 pwynt
11 Amy Williams (Brython Thunder) — 2 gap
10 Keira Bevan (Bryste) — 85 cap, 167 pwynt
9 Seren Lockwood (Brython Thunder) — 10 cap, 10 pwynt;
1 Maisie Davies (Caerwysg) — 19 cap, 5 pwynt
2 Kelsey Jones (Sale) — 59 cap, 40 pwynt
3 Sisilia Tuipulotu (Harlequins) — 38 cap, 45 pwynt
4 Branwen Metcalfe (Brython Thunder) — 8 cap
5 Jorja Aiono (Hartpury-Caerloyw) — 7 cap
6 Kate Williams (cyd-gapten, Hartpury-Caerloyw) — 28 cap, 25 pwynt
7 Alex Callender (cyd-gapten, Harlequins) — 49 cap, 50 pwynt
8 Bryonie King (Gwalia Lightning) — 19 cap
Eilyddion
16 Molly Reardon (Gwalia Lightning) — 18 cap, 10 pwynt
17 Gwenllian Pyrs (Sale) — 56 chap, 20 pwynt
18 Elan Jones (Brython Thunder) — 1 cap
19 Gwen Crabb (Brython Thunder) — 44 cap, 15 pwynt
20 Georgia Evans (Saraseniaid) — 50 cap, 15 pwynt
21 Bethan Lewis (Bryste) — 66 chap, 35 pwynt
22 Lleucu George (Hartpury-Caerloyw) — 42 cap, 15 pwynt
23 Courtney Keight (Sale) — 35 cap, 5 pwynt
Gemau Cymru yn Japan yng Nghyfres WXV 2026
· Ddydd Sadwrn, 24 Hydref: Japan v Cymru, Stadiwm Coffa’r Tywysog Chichibu, Tokyo (cic gyntaf: 10.30am, amser Cymru)
· Ddydd Sadwrn, 31 Hydref: Japan v Cymru, Stadiwm Rygbi Kumagaya, Prefecture Saitama (cic gyntaf: 7am, amser Cymru)
