News

Y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn tyfu’n ei phoblogrwydd

Roedd dros 7,000 o dorf ar Rodney Parade y penwythnos diwethaf

Pa un yw’r cynghrair anoddaf i’w ennill yn Hemisffer y Gogledd? Y Prif Gynghreiriau yn Ffrainc, Lloegr, neu’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig?

Mae’r Ffrancwyr wedi ennill Cwpan y Pencampwyr am y chwe thymor diwethaf sy’n dipyn o gamp, ond mae tîm o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig wedi cyrraedd pedair o’r chwe rownd derfynol hynny.

Dim ond unwaith mae tîm o brif gynghrair Lloegr wedi cyrraedd y Ffeinal yn ystod y cyfnod hwnnw.

Ers i bedwar prif dîm De Affrica ymuno â’r Bencampwriaeth i gadw cwmni â’r gwledydd Celtaidd a’r Eidalwyr, mae’r pum tymor diwethaf wedi gweld y gystadleuaeth yn cryfhau ac yn tyfu’n fwy cystadleuol.

Y penwythnos yma mae gêm ddarbi Gymraeig sy’n tynnu dŵr i’r dannedd wrth i’r Dreigiau (sydd heb golli eto) groesawu’r Gweilch i Rodney Parade (Gwener, 9 Hydref – 7.45pm), tra bydd y Scarlets yn croesawu Benetton Rugby ddiwrnod yn ddiweddarach (5.30pm). Bydd Caerdydd yn teithio i Ddulyn i herio’r Pencampwyr presennol, Leinster, am 7.45pm nos Sadwrn.

MAE POB PWYNT YN CYFRIF

Dim ond 50% o’r 16 gêm sydd wedi’u hennill gan y tîm cartref y tymor hwn

Mae 62.5% o’r holl gemau wedi gorffen gyda 7 pwynt neu lai rhwng y timau

Dim ond 3 buddugoliaeth mewn 8 gêm sydd gan Bencampwyr y gystadleuaeth yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf  (2021-26) – sef y DHL Stormers, Munster, Glasgow a Leinster)

Mae’r niferoedd sy’n mynychu’r gemau wedi cynyddu 13% o gymharu â dau benwythnos agoriadol y tymor diwethaf.

HANES DIWEDDAR Y BENCAMPWRIAETH

Pedwar Pencampwr gwahanol mewn pum tymor

Mae 14 o’r 16 chlwb wedi cyrraedd y Gemau Ail Gyfle

Roedd 7 pwynt neu lai’n gwahanu’r timau mewn 37% o’r gemau’r tymor diwethaf
– canran uwch na phrif gystadlaethau eraill Ewrop

Cyfartaledd o 6.9 cais y gêm – Dim ond 6 chais oedd y cyfartaledd ym mlwyddyn gynta’r cystadlu

Mae tua 325 o chwaraewyr sydd wedi ennill capiau rhyngwladol yng ngharfanau’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig bob tymor

HEMISFFER Y GOGLEDD A’R DE

164 o fuddugoliaethau i dimau De Affrica o gymharu â 96 i dimau’r gogledd, ac eto dim ond un tîm o Dde Affrica sydd wedi ennill y Bencampwriaeth er bod tîm o’r wad honno wedi cyrraedd y rownd derfynol bob blwyddyn

BETH SY’N GWNEUD Y BENCAMPWRIAETH MOR ANODD I’W HENNILL?

Gemau darbi mawr, gemau oddi cartref anodd, trefniadau teithio heriol, brwydrau tactegol, amodau tywydd amrywiol iawn, corfforoldeb yn profi dyfnderoedd carfanau.

MWY O GEFNOGWYR

Tua 1.7 miliwn o gefnogwyr ym mhob un o’r tri thymor diwethaf

Mwy o bobl yn dilyn y Cynghrair: cynyddodd y gynulleidfa deledu o 53% o rhwng blwyddyn gyntaf a phedwaredd flwyddyn y cystadlu o 34.6m i 53m.  Cynyddodd gwylio OTT 28% y tymor diwethaf

Mae’r niferoedd sy’n dilyn y Bencampwriaeth ar y cyfryngau cymdeithasol bellach wedi cynyddu i 1.9m

Related Topics