News

Undeb Rygbi Cymru’n rhannu gwybodaeth am y broses o symud at dri thîm proffesiynol

WRU logo
URC

Dyma ddolen – https://futurerugby.cymru/cy/  – ar gyfer meicrosafle newydd Undeb Rygbi Cymru fydd ar gael o 4yp heddiw.

Mae’n cynnwys dogfennau, adroddiadau manwl a thystiolaeth ychwanegol sy’n sail i Fodel Gweithredu’r Undeb ar gyfer dyfodol y gêm broffesiynol yng Nghymru.

Mae’r safle’n cynnwys amrywiaeth o wybodaeth hanesyddol, data ac adroddiadau sy’n olrhain y daith y mae rygbi Cymru wedi’i dilyn wrth benderfynu ar ei gyfeiriad strategol presennol.

Ar y safle mae’n bosib gweld yr adroddiad annibynnol diweddaraf, gomisiynwyd yn allanol, sydd wedi cyfrannu at y penderfyniad am leoliadau’r tri thrwydded newydd o’r tymor 2028/29 ymlaen.

Mae bod yn agored ac yn dryloyw drwy gydol y broses o bontio’r cyfnod tuag at wireddu Model Undeb Rygbi Cymru ar gyfer y dyfodol, yn rhan hollbwysig o brosesau Bwrdd yr Undeb. Mae’r meicrosafle hefyd yn cynnig amserlen a gwybodaeth gynhwysfawr am sut y bydd y broses yn cael ei llunio.

Bydd y broses yn dechrau mewn difrif gyda chynhadledd ‘Cyflwr y Gêm’ ym gynnar ym mis Rhagfyr. Bryd hynny bydd holl randdeiliaid perthnasol sy’n ymwneud â champ broffesiynol y dynion yn dod at ei gilydd i ddysgu a deall y gwir heriau sy’n wynebu rygbi ar hyn o bryd – yma yng Nghymru a ledled y byd hefyd. Bydd timau rheoli ac aelodau Bwrdd clybiau proffesiynol Cymru’n mynychu’r gynhadledd hon ynghŷd ag aelodau o dîm arweinyddiaeth Undeb Rygbi Cymru.

Mae’r Undeb wedi ymrwymo i ddiweddaru’r meicro-safle newydd hwn gydag unrhyw newyddion neu ddatblygiadau perthnasolyn nghyd-destun cynllunio a dyfarnu’r tri thrwydded. Bydd Undeb Rygbi Cymru yn cyhoeddi eu penderfyniadau am y trwyddedau erbyn diwedd mis Mehefin 2027.

Related Topics