News

Undeb Rygbi Cymru yn Penodi Cadeirydd Newydd – Lyndon Faulkner

Lyndon Faulkner
Lyndon Faulkner

Wedi cyfnod o chwilio trylwyr, mae Undeb Rygbi Cymru wedi penodi’r gŵr busnes llwyddiannus o Gymru, Lyndon Faulkner yn Gadeirydd newydd.

Bu’r Undeb yn chwilio ledled y byd am ymgeisydd â’r cymwysterau a’r profiad priodol i arwain Bwrdd yr Undeb ar adeg hynod dyngedfennol i’r gamp yng Nghymru.

Bellach, mae’r Undeb wedi llwyddo i ddenu Faulkner, unigolyn sy’n meddu ar y profiad a’r statws i ennyn parch y gêm ar lefel gymunedol a phroffesiynol, yn ogystal â’r byd busnes ehangach.

Mae Lyndon Faulkner yn hynod falch o’i wreiddiau Cymreig. Mae wedi datgan droeon i’r sgiliau ddysgodd wrth chwarae rygbi – sef bod yn benderfynol. cystadleuol a meithrin sgiliau arweinyddol – wedi bod yn allweddol wrth iddo sicrhau llwyddiant ym myd busnes drwy gydol ei yrfa nodedig.

Dywedodd Faulkner, fydd wedi dechrau yn ei swydd fel Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru erbyn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Undeb, fydd yn cael ei gynnal ddydd Sul 22 Tachwedd:

“Rwy’n gwybod o brofiad personol pa mor bwysig yw rygbi Cymru i’r genedl mewn cymaint o wahanol ffyrdd.

“Felly, mae’n fraint aruthrol i mi gael fy mhenodi’n Gadeirydd ar yr Undeb ac fy mwriad yw rhoi rhywbeth yn ôl i gamp sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn fy natblygiad fel unigolyn, ac sy’n golygu cymaint i mi, fy nheulu, fy ffrindiau a phobl Cymru.

“Mae’r ffaith bod y broses gyfweld wedi bod mor drylwyr ac agored wedi rhoi hyder mawr i mi. Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod â’r clybiau ac aelodau eraill yr Undeb yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Tachwedd. Byddaf yn gwrando arnyn nhw a phrif randdeiliaid eraill rygbi Cymru sy’n gwasanaethu’r gêm gymunedol a phroffesiynol ac rwy’n edrych ymlaen at ddysgu ganddyn nhw dros yr wythnosau nesaf.

“Mae hon yn adeg dyngedfennol i’r gamp. Byddaf yn gwrando ar bobl a byddaf yn bendant yn parhau i fod yn agored i heriau adeiladol, dilys ac ymarferol.”

Prif gyfrifoldeb Faulkner fel Cadeirydd annibynnol newydd Undeb Rygbi Cymru fydd parhau i arwain y Bwrdd wrth bennu cyfeiriad strategol y gêm yng Nghymru, a sicrhau bod tîm gweithredol yr Undeb a’r staff yn gyfrifol ac atebol am roi’r strategaeth honno ar waith.

Bydd yn neilltuo cryn dipyn o’i amser bob wythnos i gyflawni ei ddyletswyddau proffesiynol fel Cadeirydd, a bydd hefyd yn cynrychioli Undeb Rygbi Cymru fel llysgennad o’r radd flaenaf yn y byd rygbi rhyngwladol.

Dywedodd Is-gadeirydd Undeb Rygbi Cymru, John Manders:

“Ry’n ni wrth ein bodd gallu cadarnhau penodiad Lyndon a’i groesawu atom i arwain Bwrdd Undeb Rygbi Cymru.

“Mae llwyddo i ddenu unigolyn o safon mor uchel, sydd â phrofiad busnes mor amlwg ac sydd hefyd â chysylltiadau mor gryf â threftadaeth rygbi Cymru, yn gamp arbennig. Mae hefyd yn cadarnhau pa mor drylwyr ac effeithiol oedd ein proses benodi.”

Dywedodd Alison Thorne, aelod arall o’r Bwrdd ac Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol Undeb Rygbi Cymru:

“Mae profiad Lyndon o arwain, ei ysbryd o fentergarwch a’r hyn y mae wedi llwyddo ei gyflawni yn y byd busnes yn hynod drawiadol, ac mae hwn yn benodiad i’w groesawu gan rygbi Cymru.

“Bydd Lyndon yn cynnig safbwyntiau newydd o bosib a bydd yn ychwanegu gwerth sylweddol at ein ffordd o feddwl am rygbi ac am fusnes hefyd. Rwy’n gwybod y bydd yn gaffaeliad mawr i’r Undeb ac i’r gamp.”

Ganwyd Faulkner ger Casnewydd ac fe dderbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Basaleg. Chwaraeodd rygbi i’r ysgol cyn ymuno â thîm ieuenctid Casnewydd. Yn ystod y cyfnod hwnnw fe enillodd y tîm Gwpan Ieuenctid Cymru.

Chwaraeodd dros dîm cyntaf Casnewydd cyn ymuno â Phont-y-pŵl yn ystod un o gyfnodau mwyaf llwyddiannus y clwb.

Yn ystod ei gyfnod yno, enillodd y tîm Gwpan Cymru a’r Cynghrair am dair blynedd yn olynol. Yn ogystal â chynrychioli ei sir ar sawl achlysur, chwaraeodd hefyd yn y Cynghrair Eingl-Gymreig ac hefyd yn erbyn tîm teithiol cenedlaethol Awstralia.

Bu’n rhaid iddo ymddeol o’r gamp yn gynnar o ganlyniad i anaf i’w ben – ond llwyddodd i drosglwyddo ei ddoniau a’i sgiliau o’r maes chwarae i’r byd busnes.

Trwy gydol ei yrfa fusnes, mae Faulkner wedi derbyn clod a chydnabyddiaeth am ei waith mewn swyddi arweinyddol, gan gyfrannu at gynhyrchu biliynau o bunnoedd mewn refeniw i gwmnïau ar restr y ‘Fortune 100’, gan gynnwys Technicolor®/Nimbus CD International a Microsoft®.

Chwaraeodd ran allweddol wrth gyflwyno technolegau chwyldroadol newydd megis y Cryno Ddisg (CD) a’r Ddisg Fideo Ddigidol (DVD) i’r diwydiannau cerddoriaeth, cyfrifiaduron a ffilmiau.

Arweiniodd Faulkner y broses o lansio cyfranddaliadau cwmni Cymreig Nimbus CD International ar farchnad stoc NASDAQ yn yr Unol Daleithiau. Fe gododd hynny’r cyfalaf angenrheidiol ar gyfer nifer o fuddsoddiadau corfforaethol eraill, arweiniodd at ddatblygiadau technolegol o safon byd-eang ar draws y byd.

Yn ystod y broses honno adeiladodd Faulkner, gwmni Technicolor i fod yn un o’r rhai mwyaf proffidiol yn y byd ym maes cyfryngau digidol ac adloniant cartref.

Wedi hynny fe chwaraeodd ran allweddol wrth lansio cynnyrch adnabyddus pellach megis XBOX®, Windows XP a Microsoft Office 2000.

Ymunodd Faulkner â Pelican Products Inc yn 2006. Yn ystod ei gyfnod gyda’r cwmni, tyfodd ac ehangodd y busnes yn sylweddol. Bellach mae’r cwmni’n gweithredu mewn 26 o wledydd, gyda saith o gyfleusterau gweithgynhyrchu ledled y byd.

Ym mis Gorffennaf 2017, derbyniodd Peli Biothermal wobr y Frenhines am ddyfeisgarwch a Faulkner gynrychiolodd gwmni Pelican yn y derbyniad hwnnw ym Mhalas Buckingham. Y flwyddyn ganlynol derbyniodd Pelican wobr arall am Fentergarwch a Masnach Ryngwladol gan y Frenhines.

Pan werthwyd Pelican i’r cawr ecwiti preifat Platinum Capital yn 2021, penderfynodd Lyndon Faulkner adael y cwmni.

Mae Faulkner wedi derbyn nifer o wobrau busnes rhyngwladol, gan ennill Gwobr nodedig E&Y (Ernst & Young) am Entrepreneur y Flwyddyn ddwywaith, gan wneud hynny gyda dau fusnes gwahanol. Mae hefyd wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau busnes blaenllaw, gan gynnwys Forbes, Fortune a’r New York Times.

Fe wnaeth ymddangosiad hefyd yn y gyfres deledu Americanaidd ‘The Mentor’, ac mae wedi darlithio yn Ysgol Fusnes Prifysgol Stanford ac Ysgol Fusnes Darden ym Mhrifysgol Virginia.

Ychwanegodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu Lyndon aton ni i Undeb Rygbi Cymru.

“Mae sefydlu perthynas waith rhwng Prif Weithredwr a Chadeirydd, sy’n sicrhau’r cydbwysedd cywir o safbwynt herio a chefnogi, yn hanfodol mewn unrhyw sefydliad er mwyn sicrhau cynnydd cadarnhaol a chynnal diwylliant iach a blaengar.

“Rwy’n gwybod bod Lyndon a minnau’n barod i ffurfio tîm cryf ac effeithiol fydd yn datblygu rygbi Cymru ar bob lefel.”

Related Topics