Mae’r prif hyfforddwr Sean Lynn wedi enwi’r tîm a fydd yn wynebu Japan yn ail gêm brawf y gystadleuaeth WXV. Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn Stadiwm Rygbi Kumgaya, Llywyddiaeth Saitama, Kumagaya, ddydd Sadwrn, Hydref 31 (Y Gic Gyntaf: 7am amser y DU).
Y blaenasgellwyr Alex Callender a Kate Williams fydd yn capteinio’r tîm, sydd â phum newid yn dilyn y fuddugoliaeth dros Japan yn y gêm brawf gyntaf.
Enillodd Cymru o 17-0 yn erbyn y Sakura Fifteen yn y prawf cyntaf yn Tokyo y penwythnos diwethaf.
Dyna’r tro cyntaf i dîm Cymru beidio ag ildio pwynt ers iddyn nhw guro Hong Kong 65-0 ym mis Medi 2018.
Bydd Courtney Keight yn ymuno â Carys Cox yng nghanol y cae, gan gymryd lle’r canolwr Freya Bell, sydd allan ag anaf i’w phen-glin.
Lleucu George sydd wedi’i henwi yn safle’r maswr, a Seren Lockwood, a sgoriodd ddau gais yn y prawf cyntaf yn erbyn Japan, yw’r mewnwr.
Gwenllian Pyrs sydd wedi’i dewis yn brop, gyda Kelsey Jones yn fachwr, a’i chyd-brop Sisilia Tuipulotu yn ffurfio rheng flaen Cymru.
Yn yr ail reng, bydd Gwen Crabb yn ymuno â Branwen Metcalfe.
Bethan Lewis sydd wedi’i henwi’n wythwr, gyda’r blaenasgellwyr Callender a Williams yn ffurfio gweddill rheng ôl Cymru.
Dewiswyd y cefnwr Lisa Neumann a’r asgellwyr Nel Metcalfe ac Amy Williams yn driawd cyffrous yn y cefn.
Dywedodd Sean Lynn, Prif Hyfforddwr Cymru: “Rydyn ni wedi newid pethau er mwyn gwobrwyo’r chwaraewyr a orffennodd y gêm yn Tokyo. Maen nhw’n haeddu’r cyfle i ddechrau dros eu gwlad yn ngêm brawf olaf 2026.
“Mae’r chwaraewyr yn gwybod mai’r tîm sy’n dod yn gyntaf, ac mae cystadlu am safleoedd yn codi safonau ac yn annog pherfformiadau, mae’n helpu’r tîm i wella.
“Rydyn ni’n amlwg yn siomedig ag anaf Freya Bell, ond bydd hi’n cael y gofal a’r goruchwyliaeth orau gan staff Undeb Rygbi Cymru, ac rydyn ni’n gobeithio ei gweld yn ôl yn fuan.
“Fe lwyddon ni i ddod o hyd i ffordd ymlaen yn y prawf cyntaf yn Tokyo, ac roedd y ffordd y gwnaeth y chwaraewyr ddatrys problemau yn ystod y gêm yn allweddol i’r holl hyfforddwyr.
“Ond rhaid i ni fod yn fwy cywir, a chynhyrchu perfformiad cyson am yr wyth deg munud, er mwyn curo tîm Japan cryf a fydd yn awyddus i dalu’r pwyth yn ôl.
“Mae angen i ni adeiladu ar ein perfformiad yn y prawf cyntaf a gorffen y bloc 11 wythnos hwn o’r ymgyrch WXV ar uchafbwynt yn Kumagaya.”
Tîm Cymru (v Japan)
15 Lisa Neumann (Leicester Tigers) 55 cap, 35 pwynt
14 Nel Metcalfe (Gloucester-Hartpury) 17 cap, 20 pwynt
13 Carys Cox (Ealing Trailfinders) 28 cap, 30 pwynt
12 Courtney Keight (Sale Sharks) 36 cap, pum pwynt
11 Amy Williams (Brython Thunder) Tri chap
10 Lleucu George (Gloucester-Hartpury) 43 cap, 15 pwynt
9 Seren Lockwood (Brython Thunder) 11 cap, 20 pwynt;
1 Gwenllian Pyrs (Sale Sharks) 57 cap, 20 pwynt
2 Kelsey Jones (Sale Sharks) 60 cap, 45 pwynt
3 Sisilia Tuipulotu (Harlequins) 39 cap, 45 pwynt
4 Branwen Metcalfe (Brython Thunder) 9 cap
5 Gwen Crabb (Brython Thunder) 45 cap, 15 pwynt
6 Kate Williams (cyd-gapten, Gloucester-Hartpury) 29 cap, 25 pwynt
7 Bethan Lewis (Bristol Bears) 67 cap, 35 pwynt
8 Alex Callender (cyd-gapten, Gloucester-Hartpury) 50 cap, 50 pwynt
Eilyddion
16 Molly Reardon (Gwalia Lightning) 19 cap, 10 pwynt
17 Maisie Davies (Exeter Chiefs) 20 cap, 5 pwynt
18 Elan Jones (Brython Thunder) 2 gap
19 Jorja Aiono (Gloucester-Hartpury) 8 cap
20 Georgia Evans (Saracens) 51 cap, 15 pwynt
21 Bryonie King (Gwalia Lightning) 20 cap
22 Keira Bevan (Bristol Bears) 86 cap, 167 pwynt
23 Jenna De Vera (Brython Thunder) 3 chap
Gemau Cymru yng Nghystadleuaeth y WXV.
- Sad, 24 Hydref: Japan v Cymru, Stadiwm Coffa’r Tywysog Chichibu, Tokyo, Ennill 17-0
- Sad, Hydref 31: Japan v Cymru, Stadiwm Rygbi Kumagaya, Llywyddiaeth Saitama, Kumagaya (Y Gic Gyntaf am 7am amser y DU)
