News

Patchell a Pivac yn dychwelyd i Barc y Scarlets y penwythnos yma

Mae Rhys Patchell bellach yn Hyfforddwr Cicio Benetton Rugby

Bydd ambell wyneb cyfarwydd yn dychwelyd i Barc y Scarlets yfory wrth i Benetton Rugby ddod i herio’r clwb lleol. (cic gyntaf am 5.30pm).

Mae cyn Brif Hyfforddwr tîm tre’r Sosban a’u cyn faswr Rhys Patchell bellach yn ennill eu bara menyn gyda’r Eidalwyr.

Mae gan y ddau le amlwg yn hanes diweddar Parc y Scarlets – a daeth eu heiliad fawr gyda’r clwb yn Nulyn yn 2017 pan gurwyd Munster o 46-22 i gipio teitl Cynghrair y PRO12.

Arweiniodd Pivac y Scarlets at ail rownd derfynol yn 2018 hefyd, yn ogystal â rownd gynderfynol Cwpan y Pencampwyr. Wedi hynny cafodd y cyfle i hyfforddi Cymru wrth gwrs, gan olynu gŵr arall o Seland Newydd, Warren Gatland.

Dechreuodd ar ei swydd yn Treviso dros yr haf  – ac nid yw pethau wedi bod yn fêl i gyd o safbwynt eu canlyniadau’n y cynghrair hyd yma.

Cafwyd gêm gyfartal (19-19) gyda’r Dreigiau yn Treviso, cyn colli ar eu tomen eu hunain o 22-19 yn erbyn Connacht.

Mae hynny’n golygu y bydd y ddau dîm yn chwilio am eu buddugoliaethau cyntaf o’r tymor ar Barc y Scarlets nos yfory.

Bydd Cyfarwyddwr Rygbi’r Scarlets, Nigel Davies wrth ei fodd o gael Fletcher Anderson yn ôl ar y fainc, tra bydd canolwr Cymru, Johnny Williams, hefyd yn dychwelyd wedi anaf.

Bydd canolwr Cymru, Joe Hawkins, yn dechrau ei gêm gyntaf o’r tymor cyntaf o’r tymor â’i gyd-chwaraewr rhyngwladol Eddie James yng nghanol cae, tra bydd Henry Thomas a Will Evans yn dychwelyd i’r pac.

Dywedodd Nigel Davies: “Doedden ni ddim eisiau colli ein dwy gêm gyntaf o’r tymor wrth gwrs ac ry’n ni wedi dweud yn glir wrth y chwaraewyr yr wythnos hon beth ry’n ni’n ei ddisgwyl ganddyn nhw’n erbyn Benetton. Roedd colli dwy gêm ddarbi yn boenus i ni ond mae’n rhaid i ni gadw persbectif a chadw ffydd yn beth ry’n ni’n ei adeiladu fel carfan.

“Er mai ychydig dros 30 y cant o’r meddiant ac ychydig dros 30 y cant o diriogaeth gawson ni yn erbyn y Dreigiau ddydd Sadwrn diwethaf, roedden ni’n dal yn gallu creu cyfleoedd ac aros yn y gêm.

“Ry’n ni’n edrych ymlaen at groesawu dau gyn ‘Scarlet, Wayne Pivac a Rhys Patchell, yn ôl i Lanelli, ac ry’n ni’n gwybod y byddan nhw yn benderfynol iawn o gael canlyniad da yn erbyn eu hen dîm.”

Y TIMAU

Scarlets: Blair Murray; Ellis Mee, Eddie James, Joe Hawkins, Macs Page; Sam Costelow, Dane Blacker; Kemsley Mathias, Ryan Elias, Henry Thomas, Will Evans, Alex Groves, Sam Lousi, Josh Macleod (capten), Osian Williams.

Eilyddion: John McKee, Sam O’Connor, Harri O’Connor, Harvey Cuckson, Fletcher Anderson, Gareth Davies, Joe Roberts, Johnny Williams.

Benetton Rugby: Matt Gallagher; Louis Lynagh, Francois Mey, Leonardo Marin, Onisi Ratave; Jacob Umaga, Alessandro Garbisi; Mirco Spagnolo, Siua Maile, Giosuè Zilocchi, Niccolò Cannone, Mattia Midena, Giulio Marini, Federico Ruzza, Michele Lamaro (capten).

Eilyddion: Bautista Bernasconi, Matias Medrano, Simone Ferrari, Sootala Fa’aso’o, Jadin Kingi, Louis Werchon, Jean Smith, Federico Zanandrea.

Related Topics