Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Sean Lynn, wedi enwi carfan o 30 o chwaraewyr ar gyfer y ddwy gêm brawf yn Japan cyn ddiwedd y mis.
Bydd y ddwy ornest yn dod ag ymgyrch Cymru’n y WXV eleni i ben. Ar hyn o bryd mae Japan yn safle rhif 11 ar restr detholion y byd, un safle yn uwch na Chymru.
Yn eu dwy gêm ddiwethaf yn y gystadleuaeth mae tîm Sean Lynn wedi curo De Affrica o 50-19 cyn colli o drwch blewyn, 26–24, yn erbyn yr Unol Daleithiau ar Barc yr Arfau y penwythnos diwethaf.
Mae’r blaen-asgellwyr Alex Callender a Kate Williams wedi’u henwi’n gyd-gapteiniaid unwaith eto, ac mae’r garfan hon yn cynnwys dau o chwaraewr sydd eto i ennill cap, sef y propiau Stella Orrin a Crystal James.
Mae’r asgellwr Amy Williams, y prop Elan Jones a’r bachwr Shanelle Williams, enillodd eu capiau cyntaf dros Gymru yn erbyn De Affrica ym Mharc yr Arfau, hefyd wedi eu dewis i deithio.
Mae carfan Cymru’n cynnwys 23 o chwaraewyr sydd wedi cynrychioli naill ai Brython Thunder neu Gwalia Lightning yn yr Her Geltaidd.
Er i’r cefnwr Nel Metcalfe, golli holl ymgyrch Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026 o ganlyniad i anaf, mae hi bellach yn holliach ac wedi ei dewis yn y garfan ddiweddaraf hon.
Dywedodd Sean Lynn, Prif Hyfforddwr Cymru: “Ar ôl ein perfformiadau yn erbyn De Affrica a’r Unol Daleithiau, roedd dewis y garfan yma i deithio i Japan yn anodd iawn. Fe wnaethon ni fel tîm hyfforddi ofyn i’r garfan godi safon eu chwarae yn y ddwy gêm ddiwethaf – ac fe wnaethon nhw hynny’n bendant.
“Fe sgorion ni wyth cais yn erbyn De Affrica, ac roedd y ffaith bod y chwaraewyr mor siomedig ein bod wedi colli o ddeubwynt yn erbyn yr Unol Daleithiau – sef chweched tîm gorau’r byd – yn dangos y newid meddylfryd sydd wedi digwydd o fewn ein carfan yn ddiweddar.
“Roedd yr holl waith caled wnaethon ni wrth baratoi ar gyfer y ddwy gêm brawf honno yn amlwg i bawb ddaeth i’n gwylio. Ry’n ni bellach hefyd wedi gosod sylfeini cadarn o safbwynt ein harddull chwarae a’n hunaniaeth fel carfan.
“Ry’n ni gyd yn gwybod bod ganddon ffordd bell i fynd o hyd cyn cyrraedd ble’r ry’n ni eisiau bod yn y pendraw, ond mae’r daith yma i Japan yn gam pwysig iawn arall i ni ar ein siwrnai – ac mae pawb yn edrych ymlaen yn fawr at y ddwy gêm brawf yno.”
Carfan Cymru ar gyfer y WXV yn Japan
Blaenwyr: Gwenllian Pyrs (Sale), Maisie Davies (Caerwysg), Crystal James (Ealing), Shanelle Williams (Brython Thunder), Molly Reardon (Gwalia Lightning), Kelsey Jones (Sale), Elan Jones (Brython Thunder), Stella Orrin (Brython Thunder), Sisilia Tuipulotu (Harlequins), Gwen Crabb (Brython Thunder), Branwen Metcalfe (Brython Thunder), Georgia Evans (Saraseniaid), Alex Callender (Cyd-gapten, Harlequins), Bryonie King (Gwalia Lightning), Kate Williams (Cyd-gapten, Hartpury-Caerloyw), Jorja Aiono (Hartpury-Caerloyw), Bethan Lewis (Bryste).
Olwyr: Keira Bevan (Bryste), Seren Lockwood (Brython Thunder), Sian Jones (Hartpury-Caerloyw), Lleucu George (Hartpury-Caerloyw), Courtney Keight (Sale), Freya Bell (Gwalia Lightning), Jenna De Vera (Brython Thunder), Carys Cox (Ealing), Hannah Dallavalle (Hartpury-Caerloyw), Nikita Prothero (Gwalia Lightning), Amy Williams (Brython Thunder), Lisa Neumann (Caerlŷr), Nel Metcalfe (Hartpury-Caerloyw).
Gemau Cymru yng Nghyfres y WXV
- Ddydd Sadwrn, 24 Hydref: Japan v Cymru, Stadiwm Goffa’r Tywysog Chichibu, Tokyo (10.30am, amser Cymru)
- Ddydd Sadwrn, 31 Hydref: Japan v Cymru, Stadiwm Kumagaya, Dinas Kumagaya (7am, amser Cymru)
