News

I’R GAD: Tocynnau Pencampwriaethau Chwe Gwlad Guinness ar werth

I'r Gad To Battle
Ticket information has now been confirmed

Bydd tocynnau ar gyfer gemau cartref Cymru ym Mhencampwriaethau Chwe Gwlad Guinness 2027 yn mynd ar werth i’r cyhoedd am hanner dydd heddiw, gan gynnig y cyfle i gefnogwyr fwynhau pedwar diwrnod cyffrous o rygbi rhyngwladol yng Nghaerdydd.

Wrth i’r cyffro gynyddu cyn i’r gwerthiant cyhoeddus agor am hanner dydd Gwener 2 Hydref, mae Undeb Rygbi Cymru wedi ymuno â’r bardd Georgia Griffiths i nodi’r achlysur wrth gyhoeddi cerdd newydd bwerus sy’n dathlu’r berthynas barhaus rhwng rygbi Cymru a’r genedl gyfan.

Mae’r gerdd deimladwy hon yn crisialu’r hiraeth, yr angerdd a’r balchder sydd wedi bod yn amlwg ymhlith cefnogwyr rygbi Cymru dros y blynyddoedd.

Mae Cymru’n paratoi i groesawu gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness yn ôl i Gaerdydd, gyda thîm y dynion yn wynebu Iwerddon ddydd Sadwrn 20 Chwefror a Lloegr yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn 6 Mawrth. Bydd tîm y menywod yn wynebu Lloegr yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn 10 Ebrill cyn herio Iwerddon ar Barc yr Arfau, ddydd Sadwrn 24 Ebrill.

Mae tocynnau ar werth o hanner dydd heddiw ymlaen wru.wales/tickets.

Mae categorïau prisio newydd yn cael eu cyflwyno’r tro hwn – gyda mwy o docynnau gyda chonsesiwn nag erioed o’r blaen ar gael. Bydd mwy na chwarter seddi’r Stadiwm ar gael am lai na £100.

Mae tocynnau i rai dan 18 oed hefyd ar gael am 50% o bris tocyn oedolyn, tra bydd myfyrwyr yn cael gostyngiad o 30%. Am y tro cyntaf ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness, bydd tocynnau i rai dan 18 oed ar gael drwy’r haen isaf a thocynnau myfyrwyr ar gael yn yr haen uchaf.

Gall y cefnogwyr ymuno â charfan Steve Tandy wrth iddyn nhw fynd ‘I’r Gad’ yn erbyn Iwerddon yn nhrydedd rownd o gemau’r Bencampwriaeth, cyn i Loegr deithio i Gaerdydd am un o frwydrau mwyaf traddodiadol y byd rygbi. Gan bo’r galw eisoes wedi bod yn uchel, dim ond nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar ôl yn y categorïau poblogaidd iawn yn haen ganol y Stadiwm erbyn hyn. Sicrhewch eich lle’n gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi.

Bydd trydedd ymgyrch Sean Lynn ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Menywod yn dechrau yn Stadiwm Principality, yn erbyn Lloegr. Cafwyd y dorf uchaf erioed o safbwynt gêm gartref Menywod Cymru (21,186) yn y Stadiwm ar gyfer y gêm gyfatebol yn 2025. Bydd y tîm wedyn yn mabwysiadu Parc yr Arfau’n gartref ar gyfer yr ornest yn erbyn Iwerddon.

Related Topics