Mae cefnogwyr sy’n teithio i Stadiwm Principality ar gyfer Pencampwriaeth Cenhedloedd yr Hydref yn cael eu hannog i fanteisio i’r eithaf ar brofiad diwrnod y gêm, wrth fynd i Fanzone Cymru yng nghanol y Brifddinas.
Mae’r ddarpariaeth arbennig yma wedi’i leoli ym Mharc yr Arfau, a bydd Fanzone swyddogol Cefnogwyr Rygbi Cymru unwaith eto yn ganolbwynt i bobl o bob oedran brofi awyrgylch hwyliog cyn y gic gyntaf ac ymhell wedi’r chwiban olaf.
Mae cyhoeddi Fanzone Cymru yn ychwanegu at raglen gyffrous o adloniant sydd eisoes wedi’i threfnu ar gyfer diwrnodau gemau Pencampwriaeth Cenhedloedd yr Hydref yng Nghaerdydd.
Bydd cefnogwyr sy’n mynychu’r gêm rhwng Cymru a Japan yn cael mwynhau perfformiad arbennig gan Gôr Bechgyn Ysgol Glantaf yn ystod yr egwyl. Llwyddodd y côr i gyrraedd rownd derfynol Britain’s Got Talent wrth gwrs.
Gall cefnogwyr sy’n mynychu’r gêm rhwng Cymru ac Awstralia edrych ymlaen at berfformiad hanner amser egniol gan y grŵp poblogaidd, Stickmen.
Bydd Fanzone Cymru yn agor am 11 y bore, drwy’r prif fynediad ar Heol y Porth. Bydd mynediad am ddim, a bydd digonedd o adloniant, gweithgareddau, bwyd a diod ar gael, er mwyn sicrhau bod cefnogwyr yn gallu mwynhau cyffro diwrnod y gêm o’r eiliad gyntaf un y byddant yn cyrraedd canol y ddinas.
Bydd cerddoriaeth fyw ar gael drwy’r dydd, ac ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Japan, bydd amrywiaeth o weithgareddau i’r teulu cyfan, gan gynnwys paentio wynebau ac adloniant arbennig ar gyfer y plant. Bydd nifer o gystadlaethau yn cael eu trefnu hefyd gyda nifer o gyfleoedd i gefnogwyr ennill gwobrau.
Bydd dewis eang o fwyd a diod ar gael hefyd, gan gynnig y lleoliad a’r diwrnod perffaith i ffrindiau a theuluoedd ddod at ei gilydd cyn un o gemau mwyaf yr Hydref.
Bydd Parc yr Arfau hefyd yn cynnal gŵyl rygbi tag i blant ar y cae chwarae chwedlonol, gan gynnig y cyfle i gannoedd o chwaraewyr ifanc fod yn rhan o brofiad diwrnod gêm ryngwladol fawr. Mae dros 38 o glybiau eisoes wedi cofrestru, gyda’r 50 lle sydd ar gael yn llenwi’n gyflym. Anogir clybiau sy’n dymuno sicrhau lle i’w timau iau i gysylltu ag adran Gymunedol Rygbi Caerdydd ar frys i wneud cais am le.
Gyda miloedd o gefnogwyr yn debygol o heidio i Gaerdydd ar gyfer yr ornest yn erbyn Japan, anogir pawb i gyrraedd yn gynnar a manteisio ar yr holl adloniant a gweithgareddau fydd ar gael ar ddiwrnod y gêm.
Cofiwch wisgo Crysau Coch Cymru hefyd a helpu i greu awyrgylch cofiadwy wrth i Gymru herio Japan ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd.
Mae tocynnau ar gyfer holl gemau y Bencampwriaeth Cenhedloedd ar werth nawr, gyda phrisiau’n dechrau o ddim ond £13.50 i rai dan 18 oed a £26 i oedolion.
Mae gan fyfyrwyr tan ddydd Llun i fanteisio ar y cynnig arbennig o docynnau am £10 yn unig ar gyfer y gêm yn erbyn Awstralia!
Gallwch brynu tocynnau ar gyfer holl gemau Pencampwriaeth Cenhedloedd yr Hydref, gan gynnwys tocynnau cynnig arbennig y myfyrwyr ar gyfer gêm Awstralia, drwy ymweld â: WRU.WALES/TICKETS. Peidiwch â cholli’ch cyfle!
