News

Faletau’n dychwelyd wedi chwe mis heb chwarae

Mae'n noson fawr i Faletau yn Nulyn heno

Bydd Taulupe Faletau yn dychwelyd i’r maes chwarae yn Nulyn heno (10 Hydref – 7.45pm) ac yn mynd benben â Jack Conan – ei gyd-aelod o reng ôl y Llewod.

Heno fydd ymddangosiad cyntaf Faletau ers mis Mawrth a does dim mwy o her yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig na theithio i gartref y Pencampwyr presennol, Leinster.

Fe anafodd yr wythwr 35 oed ei ysgwydd yn erbyn y Sharks, ddaeth â’i dymor i ben ar ôl iddo hefyd gael trafferthion gyda’i ben-glin a’i goes.

Mae Faletau yn un o saith newid i dîm Caerdydd – sydd wedi curo’r Scarlets a Zebre’n barod y tymor hwn.

Bydd y cefnwr Matty Young,  sydd wedi cynrychioli tîm dan 20 Cymru, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Bencampwriaeth, tra bydd y capten Liam Belcher yn dychwelyd i’r rheng flaen. Bydd Mason Grady, Aled Davies, Danny Southworth a Dan Thomas hefyd yn dechrau, tra bydd blaenwr Tonga, Semisi Paea, yn gobeithio gwneud ei ymddangosiad cyntaf oddi ar y fainc.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Caerdydd Corniel van Zyl am Faletau. “Mae’n wych ei gael yn ôl ac mae hynny wedi rhoi hwb i bawb o fewn ein carfan.

“Ry’n ni wedi cael dechrau digon boddhaol i’r tymor o ran canlyniadau, ond mae digon o waith i’w wneud o hyd i wella’n perfformiadau. Ein bwriad yw gwella hynny yn erbyn Leinster.”

Mae’r clo Josh McNally yn sicr yn edrych ymlaen at groesawu’r wythwr, sydd wedi ennill mwy na 100 o gapiau dros Gymru, yn ôl i rengoedd Caerdydd:

“Mae Faletau yn chwaraewr mor arbennig, fyddai neb yn cael sioc pe byddai’n chwarae am 80 munud, ennill gwobr ‘Seren y Gêm’ a sgorio dau gais – ar ôl bod mas ers chwe mis!

“Mae pawb yn gwybod beth mae’n gallu ei gynnig a pha mor dda ac allweddol yw e fel chwaarewr.”

Mae blaen-asgellwr Cymru, James Botham, yn dal i wella o anaf i’w law, tra bod y canolwr Ben Thomas yn dioddef gydag anaf i’w goes ar hyn o bryd. Bydd y prop Scott Sio, sydd wedi cynrychioli Awstralia a Samoa ar y llwyfan rhyngwladol, ar yr ystlys am rai wythnosau wedi iddo dorri asgwrn yn ei wyneb yn erbyn Zebre.

Mae Prif Hyfforddwr Leinster, Leo Cullen, wedi gwneud 15 newid i’r tîm chwaraeodd y penwythnos diwethaf. Mae’n croesawu wyth o Lewod yn ôl i’r pymtheg cychwynnol, ac mae dau arall yn dychwelyd ar y fainc.

Dechreuodd Leinster eu hymgyrch gyda dwy golled yn Ne Affrica yn erbyn y Lions a’r Sharks ac felly mae angen perfformiad a chanlyniad cadarnhaol arnyn nhw o flaen eu cefnogwyr eu hunain am y tro cyntaf y tymor hwn.

Hon fydd y gêm gystadleuol gyntaf i Leinster ei chwarae yn Arena Laya – sef hen faes y Sioe – ac wedi’r datblygiadau diweddar yno, mae’r maes bellach yn gallu dal 20,500 o gefnogwyr.

Y TIMAU

Leinster: Hugo Keenan; Joshua Kenny, Garry Ringrose, Jamie Osborne, Jimmy O’Brien; Sam Prendergast, Oliver Coffey; Alex Usanov, Dan Sheehan (capten), Tadhg Furlong, Joe McCarthy, James Ryan, Max Deegan, Scott Penny, Jack Conan.

Eilyddion: Rónan Kelleher, Peter Dooley, Thomas Clarkson, Alan Spicer, Josh Ericson, Fintan Gunne, Caspar Gabriel, Robbie Henshaw.

Caerdydd: Matty Young; Jacob Beetham, Harri Millard, Le Roux Malan, Mason Grady; Callum Sheedy, Aled Davies; Danny Southworth, Liam Belcher (capten), Javan Sebastian, Josh McNally, Teddy Williams, Alex Mann, Dan Thomas, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Evan Lloyd, Rhys Barratt, Sam Wainwright, George Nott, Semisi Paea, Johan Mulder, Jarrod Evans, Steff Emanuel.

Related Topics