Ledled Cymru yr wythnos hon, mae cenhedlaeth newydd o ferched y cael eu profiad cyntaf o feithrin hyder, cyfeillgarwch a’r teimlad o berthyn trwy gyfrwng rygbi.
Bydd Wythnos Merched mewn Rygbi 2026 – #GIRW26 – yn dathlu’r cyfleoedd cynyddol sydd ar gael i ferched gymryd rhan yn y gêm, gan ysbrydoli mwy o ysgolion, clybiau a chymunedau i helpu newid dyfodol y gamp i ferched a menywod.
Os ydych yn ferch sy’n awyddus i roi cynnig ar rygbi am y tro cyntaf, yn rhiant sy’n chwilio am gyfleoedd newydd i’ch plentyn, yn athro neu’n athrawes sy’n gobeithio cyflwyno’r gamp yn yr ysgol, neu’n wirfoddolwr sy’n helpu clwb lleol i ffynnu, mae croeso cynnes i chi ymuno gyda’r cynllun yma.
Gall merched a theuluoedd sydd â diddordeb mewn cymryd rhan lenwi ffurflen Undeb Rygbi Cymru i ddod o hyd i dîm yn eu hardal. Gall pawb hefyd ledaenu’r neges drwy ddilyn @welshrugbyunion ac @wru_community a rhannu straeon a gweithgareddau gan ddefnyddio #GIRW26.
Drwy ddod ag ysgolion, clybiau, teuluoedd a chymunedau at ei gilydd, mae Cymru’n cymryd camau pwysig tuag at greu dyfodol lle mae pob merch yn cael cyfle i brofi rygbi, ac ymuno gyda chymuned newydd a phwysig.
Mae dyfodol rygbi merched eisoes yn datblygu’n gyflym ledled Cymru, ac mae pob merch sy’n cael y cyfle i chwarae yn helpu i gryfhau’r gêm.
Doedd rygbi ddim ar gael i nifer fawr o chwaraewyr rhyngwladol presennol Cymru yn yr ysgol. Trwy eu clybiau lleol y cawson nhw eu cyfle i syrthio mewn cariad gyda’r gêm.
Heddiw, mae Undeb Rygbi Cymru yn benderfynol o newid hynny, wrth gydweithio ag ysgolion cynradd ac uwchradd i sicrhau bod mwy o ferched yn cael y cyfle i godi pêl rygbi, gwireddu eu potensial a phrofi’r wefr a’r undod o fod yn rhan o dîm.
Mae Wythnos Merched mewn Rygbi yn llawer mwy nag ymgyrch genedlaethol: mae’n ddathliad o ddatblygiad camp lle mae croeso i bob merch gymryd rhan ynddi. Mae #GIRW26 yn agor drysau ac yn creu llwybrau i ferched ddod o hyd i’w lle yn y gêm.
Mae’r ymgyrch yn cefnogi uchelgais yr Undeb i greu gêm gymunedol ffyniannus ac i gyflymu twf rygbi menywod a merched ledled Cymru.
Gyda tharged uchelgeisiol o gyrraedd 10,000 o fenywod a merched wedi eu cofrestru erbyn mis Mehefin 2029, mae’r cynnydd sydd eisoes wedi ei wneud yn cynnig gwir hyder y gall hynny gael ei wireddu.
Yn ystod tymor 2025/26, cyrhaeddodd nifer y menywod a’r merched oedd wedi cofrestru garreg filltir arwyddocaol, sef 7,000. Mae hyn yn dangos y diddordeb cynyddol sydd yn y gêm bellach ac effaith y buddsoddiad y mae’r Undeb a’r clybiau’n ei wneud er mwyn cynnig cyfleoedd i ferched.
Cofiwch ferched bod darpar chwaraewraig, hyfforddwraig, dyfarnwraig, gwirfoddolwraig neu seren ryngwladol y dyfodol yn aros i gael eu cyfle a’u meithrin.
Yn bwysicach fyth, mae pobl ifanc yn datblygu fel unigolion o fewn ein camp unigryw trwy waith tîm, penderfynoldeb a gwydnwch.
Chwalu Rhwystrau a Magu Hyder
Mae gan ferched ifanc nifer o rwystrau i’w goresgyn yn y byd chwaareon: mae 61% o ferched yn eu harddegau yn teimlo eu bod yn cael eu barnu wrth gymryd rhan mewn chwaraeon, nid oes gan 50% ddigon o hunanhyder i wneud hynny, ac mae saith o bob deg yn osgoi gweithgarwch corfforol yn ystod eu mislif.
Gall y rhwystrau hyn atal merched rhag profi’r manteision lu y gall chwaraeon eu cynnig iddyn nhw. Fe all rygbi newid hynny, drwy ddarparu amgylchedd lle gall merched herio’u hunain, cefnogi ei gilydd a magu hyder heb deimlo bod rhaid iddyn nhw gydymffurfio â disgwyliadau rhai pobl eraill.
Ledled Cymru, mae chwaraewyr rygbi benywaidd yn sôn am yr hyder y maen nhw wedi’i fagu, y cyfeillgarwch y maen nhw wedi’i feithrin a’r ymdeimlad o berthyn y maen nhw’n ei brofi drwy’r gêm.
Does dim amheuaeth bod creu amgylcheddau croesawgar a chynhwysol mor bwysig er mwyn i hyn lwyddo.
Mae’r neges yn syml: mae pob merch yn haeddu’r cyfle i gymryd rhan, teimlo ei bod yn cael ei chefnogi a gweld beth all hi ei chyflawni yn y pendraw.
Dod â Rygbi i Ysgolion a Chymunedau Ledled Cymru
Drwy gydol yr wythnos, mae ysgolion uwchradd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn gwyliau rygbi ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 i Flwyddyn 9, gan gyflwyno’r gamp i ferched drwy weithgareddau hwyliog a chynhwysol.
Bydd ysgolion cynradd hefyd yn elwa o’r sesiynau sgiliau a’r gemau sy’n cael eu darparu ar eu rhan. Bydd hyn yn gosod sylfeini cadarn i ferched ifanc ar gyfer eu taith ym myd rygbi o oedran ifanc.
Bydd yr ymgyrch “Rho gais ar rygbi!”, yn cysylltu merched â sesiynau blasu agored mewn clybiau lleol a chanolfannau rygbi. Bydd y cyfleoedd hynny yn helpu i bontio’r ddarpariaeth yn yr ysgolion a’r clybiau cymunedol, gan roi cyfle i ferched ddatblygu eu sgiliau, gwneud ffrindiau newydd a darganfod angerdd dros y gamp – fydd yn parhau am byth.
Drwy Dysgu WRU, bydd gweminarau am ddim yn cynnig cymorth ac arweiniad ymarferol i wirfoddolwyr a phwyllgorau clybiau ar bynciau sy’n cynnwys sut i wneud clybiau’n fwy croesawgar i fenywod a merched, ynghyd â sesiynau fel “Cylch Misol 101”.
Drwy feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth ymhlith y rhai sy’n cefnogi chwaraewyr, mae Undeb Rygbi Cymru yn helpu clybiau i fod yn fwy cynhwysol ac addas ar gyfer anghenion merched.
Gall gwirfoddolwyr a chynrychiolwyr clybiau ddod o hyd i fanylion am y cyfleoedd dysgu sydd ar gael drwy fynd i https://dysguwru.wales/.
Drwy #HERstory, mae’r Undeb yn annog pobl ledled Cymru i rannu straeon am y menywod a merched sy’n haeddu cael eu cydnabod am eu cyfraniad at y gamp.
Fe all hynny godi proffil rygbi merched a menywod gan hefyd ddathlu cyfraniadau unigolion arbennig ac ysbrydoledig sy’n arwain y ffordd at ddyfodol cyffrous i rygbi Cymru.
Gellir cyflwyno stori drwy’r ffurflen gyflwyno HERstory.
