Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dechrau’r broses o drosglwyddo perchnogaeth a gweithrediadau tîm Super Rygbi Cymru, Rygbi Gogledd Cymru, i ddwylo preifat o bosibl.
Mae’r corff llywodraethu yn gweithio’n agos gyda chynrychiolwyr Cyngor Rygbi Gogledd Cymru i nodi buddsoddwyr posibl sy’n barod i gymryd perchnogaeth o’r clwb fel endid annibynnol, ac mae diddordeb sylweddol eisoes wedi’i fynegi.
Roedd Rygbi Gogledd Cymru yn un o dimau gwreiddiol cynghrair lled-broffesiynol Super Rygbi Cymru yn 2024/25, ac mae wedi dod o dan berchnogaeth Undeb Rygbi Cymru ers 2011.
Mae’r datblygiad yma’n cyd-fynd ag ymrwymiad gan Undeb Rygbi Cymru i symud RGC i gyfeiriad model ariannu newydd sy’n gyson â holl glybiau eraill Super Rygbi Cymru (SRC). Y bwriad yw sicrhau y bydd Rygbi Gogledd Cymru yn derbyn cyllid uniongyrchol gan yr Undeb sy’n gymesur â’r hyn sy’n cael ei ddarparu i glybiau eraill SRC – gan greu sefyllfa gyfartal i bawb – ond sefyllfa sy’n gallu cynnig annibyniaeth weithredol i’r clwb gan groesawu buddsoddiad allanol hefyd.
Mae buddsoddiad presennol Undeb Rygbi Cymru yn Rygbi Gogledd Cymru yn cynnwys cyfrifoldebau dros Academi Ranbarthol Gogledd Cymru, sy’n rhan annatod o’r system llwybr datblygu chwaraewyr newydd, ynghyd â chynnig cefnogaeth barhaus i’r Ganolfan Datblygu Chwaraewyr ar gyfer Merched, sy’n hynod o lwyddiannus.
“Mae hwn yn gyfle gwych i fuddsoddwyr ymuno â chlwb rygbi yng Ngogledd Cymru sydd â photensial sylweddol wrth gystadlu mewn cynghrair ddomestig lled-broffesiynol sy’n mynd o nerth i nerth,” meddai Cyfarwyddwr Rygbi a Pherfformiad Elît Undeb Rygbi Cymru, Dave Reddin.
“Rydym wedi ymrwymo i’n buddsoddiad yn y llwybr datblygu chwaarewyr, yn y gêm ar gyfer y dynion a’r menywod, fel rhan o gynllun datblygu pum mlynedd i osod ac adeiladu sylfeini llawer cryfach ar gyfer adnabod a datblygu talent ledled Cymru.
“Mae rhanbarth Gogledd Cymru yn parhau i fod o bwys strategol i rygbi Cymru ac mae Rygbi Gogledd Cymru wedi chwarae rhan sylweddol wrth gynyddu cyfranogiad, darparu cynrychiolaeth i’n timau hŷn, a chreu llwybr addas sy’n gallu cadw a datblygu talent o fewn y rhanbarth.
“Y cam nesaf i Rygbi Gogledd Cymru fydd dod yn endid annibynnol fel y gallant fanteisio ar y cyfleoedd masnachol cadarnhaol a ddaw yn sgil hynny. Mae ymateb ac adborth gan fuddsoddwyr posibl hyd yma wedi awgrymu bod potensial masnachol RGC wedi ei gyfyngu gan ei fod wedi ei integreiddio gydag Undeb Rygbi Cymru. Rydym yn awyddus i helpu i wireddu’r potensial hwnnw er lles y cyhoedd sy’n cefnogi rygbi yng Ngogledd Cymru.
“Y tu hwnt i Rygbi Gogledd Cymru, byddwn yn buddsoddi mewn strwythur cynaliadwy sy’n cefnogi’r gêm broffesiynol a’r gêm amatur. Byddwn yn datblygu chwaraewyr ifanc ac yn darparu cyfleoedd i bobl ledled rhanbarth Gogledd Cymru i adeiladu dyfodol mewn rygbi.”
Mae trwyddedau presennol Super Rygbi Cymru yn para tan dymor 2026/27, ond mae Undeb Rygbi Cymru eisoes wedi ymrwymo i fuddsoddi £500,000 ychwanegol yn y gystadleuaeth ac yn ei gweld fel rhan ganolog o’i gyfeiriad strategol yr Undeb ar gyfer y dyfodol.
