News

Cyfle cynnar i glybiau SRC dalu’r pwyth am y penwythnos agoriadol

Scott Matthews
Scott Matthews

Dechreuodd Pont-y-pŵl eu tymor yn llawn gobaith gyda buddugoliaeth gartref o 43-41 dros Lanymddyfri – Pencampwyr presennol Super Rygbi Cymru, Llanymddyfri.

Ond ers y dechrau addawol hwnnw, mae pethau wedi bod yn herol i Bont-y-pŵl. Yn eu hail gêm o’u hymgyrch fe gawson nhw eu curo o 50-38 o flaen eu cefnogwyr eu hunain gan Ben-y-bont cyn colli o 43-5 yn erbyn Caerdydd ar Barc yr Arfau.

Yn y drydedd rownd o gemau, llwyddwyd i guro Rygbi Gogledd Cymru o 31-26 ar y Parc, ond y penwythnos yma ar Fanc yr Eglwys, does dim amheuaeth y bydd Llanymddyfri eisiau talu’r pwyth am yr hyn ddigwyddodd ar y penwythnos agoriadol.

Dywedodd Capten Pont-y-pŵl, Scott Matthews: “Ry’n ni’n hyderus y gallwn ni guro unrhyw ar Barc Pont-y-pŵl, ac roedd hi’n hawdd codi’n perfformiad o flaen y camerau teledu yn erbyn y Pencampwyr ar ddiwrnod cynta’r tymor.

“Fe wnaeth Pen-y-bont ein synnu ni rhywfaint gan eu bod nhw mor gorfforol. Does dim gêm hawdd yn y cynghrair yma.

“Mae’r heriau a’r dulliau chwarae’n amrywio o wythnos i wythnos, ond mae’n rhaid i ni ddysgu i fod yn gyson yn ein perfformiadau.

“Fe gawson ni fuddugoliaeth dda yn erbyn Rygbi Gogledd Cymru ac roedd hi’n braf gweld y chwaraewyr yn cymryd cyfrifoldeb am ein perffomiad y diwrnod hwnnw. Wedi dweud hynny mae dal angen i ni wella’n chwarae gosod a sicrhau pêl gyflymach i’n holwyr.

“Fel roedd y diweddar Ray Prosser yn arfer ei ddweud, ‘dylai’r blaenwyr wneud y gwaith corfforol fel nad oes yn rhaid i’r olwyr wneud hynny’.

“Mae ganddon ni chwaraewyr arbennig o dda’n ymosodol ac mae angen i ni roi’r cyfleoedd a’r rhyddid iddyn nhw arddangos eu doniau.”

Bydd gan y Porthmyn dri chwaraewr o’r Scarlets yn eu llinell ymosodol, sef Isaac Murray-McGregor, Tomi Lewis a Gruff Watkins, ac un blaenwr sef Kai Jones ar gael ar gyfer y pac. Fe wnaethon nhw guro Aberafan o 66-21 ar Fanc yr Eglwys y penwythnos diwethaf gan roi momentwm i Euros Evans a’i dîm ers eu dechrau sigledig i’r tymor newydd.

Wedi eu colled ar Barc Pont-y-pŵl, fe gollon nhw’n gymharol drwm yn erbyn Casnewydd (46-26) o flaen eu torf eu hunain. Wedi hynny fe guron nhw Ben-y-bont o drwch blewyn (29-26) ar y Banc cyn sicrhau buddugoliaeth arall yn erbyn Aberafan.

Ar frig y tabl mae Casnewydd bwynt ar y blaen i Gaerdydd, sydd hefyd wedi ennill pob un o’u pedair gêm hyd yn hyn. Taith i Fae Colwyn sy’n wynebu carfan Ty Morris y penwythnos yma ac fe fyddan nhw’n gobeithio efelechu eu llwyddiant yn erbyn Rygbi Gogledd Cymru ar y penwythnos cyntaf pan gurwyd y Gogleddwyr o 34-21.

Ers y fuddugoliaeth honno, mae Casnewydd wedi ennill eu gemau o 20, 40 a 28 pwynt. Dechrau da i’w hymgyrch i ennill Super Rygbi Cymru am y tro cyntaf ers iddyn nhw wneud hynny yn nhymor cynta’r gystadleuaeth yn 2024-25.

Bydd Caerdydd yn awyddus i barhau gyda’u dechrau addawol nhw i’w hymgyrch hefyd wrth iddyn groesawu Cwins Caerfyrddin i Barc yr Arfau. Roedd eu buddugoliaeth nodedig wrth guro Glyn Ebwy 59-14 ym Mharc Eugene Cross y penwythnos diwethaf yn rybudd o fwriad tîm y Brifddinas y tymor hwn.

Matty Young

Yn sgîl ei ddau gais yn y gêm honno, a’i berfformiadau disglair ers dechrau’r tymor, mae cyn gefnwr tîm dan 20 Cymru, Matty Young, wedi cael ei ddyrchafu i garfan ranbarthol Caerdydd i wynebu Leinster yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig, yn Nulyn heno. Bydd Ben Coomer yn cymryd ei le, gyda Lloyd Lucas a Siôn Davies wedi eu dewis yn haneri.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Caerdydd, Dan Fish:”Fe gawson ni berfformiad gwych yr wythnos ddiwethaf yng Nglyn Ebwy ac ry’n ni eisiau adeiladu ar hynny. Fe gawson ni gêm anodd oddi cartref yn erbyn y Cwins yn ein gêm gyntaf o’r tymor, ac mae’n bwysig cofio iddyn nhw ein curo ni yma y tymor diwethaf.

“Ry’n ni eisiau gwneud yn siŵr na fydd hynny’n digwydd eto’r penwythnos yma. Ry’n ni’n gwybod pa fygythiadau y byddan nhw’n eu cynnig i ni, ac ry’n ni wedi gweithio’n galed ar rheiny yn ystod yr wythnos. Os na fyddwn yn perfformio’n dda – fyddwn ni ddim yn ennill.”

Mae Abertawe yn dal i chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf o’r tymor a byddan nhw’n gobeithio bod y ffaith eu bod yn dychwelyd i Sain Helen yn eu hysbrydoli i guro Glyn Ebwy. Ers yr holl waith ar y maes, hon fydd y gêm gyntaf i gael ei chwarae ar y cae synthetig newydd yng nghartref traddodiadol y clwb.

Bydd chwaraewr rhyngwladol Cymru, Cai Evans, ar gael i Lyn Ebwy ar gyfer yr ornest hon, ond fe fyddan nhw heb wasanaeth eu capten dylanwadol Siôn Parry unwaith eto, wedi iddo gael ei anafu wrth chwarae dros Ganada yng Nghwpan Cenhedloedd y Môr Tawel.

Related Topics