News

Cross yn parhau i groesi’r llinell gais yn Super Rygbi Cymru

Dewi Cross o glwb Caerdydd

Wedi pum rownd o gemau yn Super Rygbi Cymru, mae Dewi Cross o glwb Caerdydd wedi ymuno â’r ras am y prif sgoriwr ceisiau.

Mae umed cais yr asgellwr o’r tymor ym muddugoliaeth ei dîm  o 35-12 yn erbyn Cwins Caerfyrddin wedi ei roi o fewn un sgôr i chwe chais Frankie Jones o Aberafan a Sam Williams o Rygbi Gogledd Cymru.

Bydd Cross yn ffyddiog o ychwanegu at ei gyfanswm yn fuan gan bod Caerdydd yn perfformio mor dda yn Super Rygbi Cymru ar hyn o bryd.

Mae Cross hefyd yn amlwg ar y rhestr o ran bylchu – gan ei fod ef a Fin Baker o Gasnewydd ar frig y tabl hwnnw gyda 9 yr un – ddau fylchiad yn fwy na Brogan Leary o Gasnewydd.

Fe gollodd Casnewydd am y tro cynta’r tymor dros y penwythnos ac roedd yr 20 pwynt o droed Billy McBryde yn allweddol ym muddugoliaeth y Gogleddwyr.

Mae maswr Rygbi Gogledd Cymru bellach wedi sgorio 73 o bwyntiau, ac mae hefyd wedi llwyddo gydag 88% o’i ymdrechion at y pyst. Will Ford o Gasnewydd sy’n ail yn y tabl, gyda 44 o bwyntiau, ac mae chwaraewr ifanc arall, Ben Coomer o Gaerdydd, yn drydydd gyda 40.

Mae McBryde, Sam Williams, Dafydd Thirsk a Tudur Jones i gyd yn amlwg mewn gwahanol gategorïau ar ôl pum rownd o gemau.

Super Rygbi Cymru: Ystadegau – Rownd 5

Pwyntiau a Sgoriwyd (Canran Llwyddiant Ciciau) Chwaraewr Clwb
73 (88%) Billy McBryde RGC
44 (79%) Will Ford Casnewydd
40 (75%) Ben Coomer Caerdydd
36 (85%) Ioan Hughes Llanymddyfri
34 (58%) Josh Phillips Abertawe
Ceisiau Chwaraewr Clwb
6 Frankie Jones Aberafan
6 Sam Williams RGC
5 Dewi Cross Caerdydd
Ryciau Ymosodol Chwaraewr Clwb
112 Sean Moore Caerdydd
109 Joseff Powell Llanymddyfri
97 Morgan Jones Llanymddyfri
96 Ben Williams Pont-y-pŵl
87 Ethan Phillips Casnewydd
Dadlwytho Chwaraewr Clwb
11 Brogan Leary Casnewydd
10 Jack Hoskins Abertawe
9 Chay Foster-Smith Casnewydd
8 Ben Williams Pont-y-pŵl
8 Josh Phillips Abertawe
Cario’r Bêl (& Goruchafiaeth) Chwaraewr Clwb
84 (63%) Ryan Jenkins Glyn Ebwy
56 (68%) Sam Williams RGC
54 (43%) Ben Williams Pont-y-pŵl
50 (62%) Hunter Ward Casnewydd
50 (56%) Jacob Hopkins Abertawe
Torri’r Llinell Amddiffynnol Chwaraewr Clwb
9 Dewi Cross Caerdydd
9 Fin Baker Casnewydd
7 Brogan Leary Casnewydd
6 Matty Young Caerdydd
Curo Gwrthwynebwyr Chwaraewr Clwb
19 Matty Young Caerdydd
16 Hunter Ward Casnewydd
16 Ryan Jenkins Glyn Ebwy
15 Dafydd Thomas Glwyn Ebwy
15 Dion Jones RGC
Taclo Dominyddol Chwaraewr Clwb
8 Joseph Rees-Weldon Glyn Ebwy
8 McKenzie Scales Pen-y-bont
6 Celt Roberts RGC
6 Dafydd Thirsk RGC
6 Iori Badham Cwins Caerfyrddin
Taclo (Canran gyda Goruchafiaeth) Chwaraewr Clwb
57 (60%) Lewys Millin Cwins Caerfyrddin
51 (78%) Joseph Rees-Weldon Glyn Ebwy
48 (79%) Thomas Curry Llanymddyfri
47 (66%) Tom Jevons Pen-y-bont
45 (80%) Lewis Morgan Cwins Caerfyrddin
Colli Meddiant Chwaraewr Clwb
11 Hunter Ward Casnewydd
10 Alfie Prygodzicz Caerdydd
10 Ieuan Morris Glyn Ebwy
9 Dafydd Thirsk RGC
8 Jack Hoskins Swansea
“Gwaith Wedi’r Dacl” Chwaraewr Clwb
41 Sam Williams RGC
37 Dafydd Thirsk RGC
31 Alfie Prygodzicz Caerdydd
31 Lewys Millin Cwins Caerfyrddin
29 Hunter Ward Casnewydd
Pasio/Dadlwytho (Cywirdeb) Chwaraewr Clwb
323/3 (88%) Tudur Jones RGC
303/2 (95%) Lucca Setaro Llanymddyfri
285/2 (93%) Matthew Aubrey Aberatwe
225/0 (95%) Alfie Luger Cwins Caerfyrddin
199/5 (97%) Jonathan Evans Glyn Ebwy
“Gwaith + Tacl” (Cyfanswm %) Chwaraewr Clwb
15 (37%) Alfie Prygodzicz Caerdydd
14 (33%) Hunter Ward Casnewydd
8 (35%) Ryan Jones Pont-y-pŵl
8 (28%) Jack Hoskins Abertawe
8 (27%) Sean Moore Caerdydd

Related Topics