Mae Casnewydd wedi parhau â’u dechrau da i dymor diweddaraf Super Rygbi Cymru gan iddyn nhw drechu Cwins Caerfyrddin o 52-24 dros y penwythnos, gan sicrhau pedair buddugoliaeth o bedair gêm yn y broses.
Hon oedd y drydedd gêm yn olynol i dîm Ty Morris gipio chwe phwynt cynghrair ynddi, ac fe groeson nhw am wyth cais arall, i godi eu cyfanswm hyd yma i 31.
Daeth chwech o wyth cais Casnewydd yn ystod yr hanner cyntaf, ac fe sicrhaodd hynny fantais o 40-0 iddyn nhw erbyn yr egwyl.
Sgoriodd y bachwr Henry Palmer ddwywaith yn gynnar cyn i’r asgellwr Fin Baker, y chwaraewyr rheng ôl Hunter Ward a Kobi Rees, a’r maswr Will Ford hawlio ceisiau wedi hynny hefyd. Trosodd Ford bump o’r ceisiau hynny.
Ond, er clod iddyn nhw, fe ddangosodd Caerfyrddin gryn gymeriad wrth sgorio pedwar cais eu hunain a chipio pwynt bonws.
Y blaen-asgellwr Joe Denman, y maswr Carwyn Leggett-Jones, yr asgellwr Eilir George (ar achlysur ei 50fed ymddangosiad dros y Cwins) – a’r eilydd Luca Giannini groesodd dros Gaerfyrddin, gyda Leggett-Jones yn ychwanegu dau drosiad.
Sgoriwyd ceisiau Casnewydd yn yr ail hanner gan yr eilydd o fachwr Wade Langley a’r cefnwr Sam Morgan, gyda Ford yn trosi’r cais olaf hwnnw.
Gan i Gasnewydd ennill eto ar eu tomen eu hun – maen nhw’n cadw’u gafael ar Darian Her Super Rygbi Cymru.
Roedd Prif Hyfforddwr Caerdydd, Dan Fish, yn falch iawn o berfformiad diweddaraf ei dîm wedi iddyn nhw hefyd sicrhau pedair buddugoliaeth o’u pedair gêm gynghrair gyntaf gyda’u llwyddiant o 59-14 yng Nglyn Ebwy.
Hon oedd buddugoliaeth gyntaf Caerdydd yng Nglyn Ebwy ers sefydlu Super Rygbi Cymru.
Croesodd y cefnwr Matty Young a’r asgellwr Dewi Cross ddwywaith yr un, a llwyddodd Alun Rees, Tom Cottle, Joe Cowell, Siôn Davies a Joe Goodchild i hawlio ceisiau hefyd.
Flwyddyn ynghynt roedd Caerdydd wedi cael eu chwalu o 60-20 ar Barc Eugene Cross, ac felly roedd y ffaith i fechgyn y Brifddinas sgorio 9 o geisiau yn achos dathlu a boddhad mawr i Fish:
“Ro’n i’n falch iawn gyda’n perfformiad ni. Roedden ni’n gorfforol iawn heddiw ac yn yr ail hanner fe gymron ni’n cyfleoedd yn arbennig o dda. I fod yn onest fe chwaraeon ni’n dda am 80 munud er i Lyn Ebwy ein rhoi dan dipyn o bwysau yn ystod y gêm.”
Sgorwyr: Glyn Ebwy: Ceisiau: D Franchi, J Rees-Weldon; Trosiadau: K Kinsey (2). Caerdydd: Ceisiau: M Young (2), D Cross (2), A Rees, T Cottle, J Cowell, S Davies, J Goodchild; Trosiadau: L Lucas (5), B Coomer (2).
Wedi dwy golled drom y tymor yma llwyddodd Pont-y-pŵl i drechu 14 dyn Rygbi Gogledd Cymru o 31-26.
Sgoriodd yr asgellwr Carrick McDonough gais yn y ddau hanner i Bont-y-pŵl, ac fe diriodd Marcus Jones a’r eilydd Rakhat Clarkson hefyd. Ychwanegodd Kieran Meek 11 pwynt gyda’i droed.
Sam Jones a’r wythwr Sam Williams sgoriodd geisiau’r Gogleddwyr ac roedd anel Billy McBryde wrth gicio’n gwir eto dros y penwythnos wrth iddo hawlio 16 o bwyntiau.
Roedd Meek a McBryde wedi cyfnewid ciciau cosb yn ystod y chwarter agoriadol cyn i dacl uchel yn y 25ain munud arwain at weld Scott Matthews o Bont-y-pŵl yn cael ei ddanfon i’r cell cosb, tra dangoswyd cerdyn coch i asgellwr yr ymwelwyr Ieuan Cornelius am ei gyfraniad ef i’r ffrwgwd.
Manteisiodd McDonough yn syth wedi’r digwyddiad hwnnw – a thra bod Cornelius ar yr ystlys yn cadw cwmni i’r asgellwr Sam Jones oedd wedi gwled cerdyn melyn – croesodd McDonough ddwywaith, brofodd yn allweddol ym muddugoliaeth ei dîm.
Mae Abertawe yn dal i chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf o’u hymgyrch, er iddyn nhw gael gêm gyfartal yn erbyn Pen-y-bont ar Faes y Bragdy.
Roedd yr ymwelwyr ar y blaen o 26-12 ar yr egwyl ond 14 pwynt y tîm cartref oedd unig sgoriau’r ail gyfnod.
Sgoriodd y mewnwr Matthew Aubrey ddwywaith i Abertawe, gyda’r bachwr Jamie Cox a’r cefnwr Lewis Edwards yn hawlio dau gais arall y Gwynion. Trosodd Josh Phillips dri o’r ceisiau hynny.
Y bachwr Dominiko Manaseitava groesodd am ddau gais Pen-y-bont yn ystod y 40 munud cyntaf, cyn i’r canolwr Ryan Wilkins a’r eilydd o fewnwr Nick Fisk-Jones dirio ceisiau’r tîm cartref yn ystod yr ail hanner. Ciciodd Fraser Jones dri throsiad cywir.
