Dringodd Caerdydd i frig tabl Super Rygbi Cymru ar ôl trechu Cwins Caerfyrddin 35-12 ar Barc yr Arfau – ond doedd eu Prif Hyfforddwr Dan Fish ddim yn ddyn cwbl fodlon.
Sgoriodd clwb y Brifddinas bum cais, pedwar o’r rheiny yn yr ail hanner, i sicrhau’r chwe phwynt llawn a’i gwneud hi’n bum buddugoliaeth o bum gêm.
Nhw hefyd bellach yw’r unig dîm sydd heb golli gêm yn Super Rygbi Cymru’r tymor yma.
Y cefnwr Ben Coomer, yr asgellwyr Dewi Cross ac Iwan Pyrs-Jones, y mewnwr Siôn Davies a’r bachwr Tom Howe oedd sgorwyr ceisiau Caerdydd. Trosodd Lloyd Lucas bedwar o’r rheiny a Coomer un.
Sgoriodd yr asgellwr Iori Badham gais yn y naill hanner a’r llall i’r Cwins, oedd yn haeddu bod yn gyfartal 7-7 ar yr egwyl. Trosodd Carwyn Leggatt-Jones y cais cyntaf.
Dywedodd Dan Fish: “Ro’n i’n hapus gyda’r canlyniad, ond nid gyda’r perfformiad i fod yn onest. O ystyried yr hyn wnaethon ni yng Nglyn Ebwy yr wythnos ddiwethaf, ac yn erbyn Pont-y-pŵl yr wythnos gynt, doedd hwn ddim yn berfformiad digon da.
“Rhaid rhoi clod i’r Cwins wrth gwrs. Fe wnaethon nhw frwydro am bopeth yn yr hanner cyntaf, a doedden ni ddim yn gallu gosod ein stamp ein hunain ar y gêm. Fe fuon ni’n onest gyda’n gilydd ar yr egwyl ac fe wnaeth y bechgyn ymateb yn dda’n yr ail gyfnod – yn enwedig yn ystod y chwarter awr cyntaf wedi troi.
“Roedd hi’n bwysig ein bod ni wedi sicrhau’r fuddugoliaeth yn y diwedd, ond mae digon o waith i’w wneud o hyd os y’n ni am gyflawni’r hyn ry’n ni eisiau ei wneud cyn diwedd y tymor.”
Colled gynta’r tymor i Gasnewydd yn dilyn perfformiad syfrdanol gan Rygbi Gogledd Cymru
Daeth dechrau campus Casnewydd i dymor Super Rygbi Cymru i ben yn ddramatig ym Mae Colwyn, wrth i’r Gogleddwyr berfformio’n arbennig a chipio buddugoliaeth ryfeddol o 65-28.
Roedd Casnewydd wedi ennill eu pedair gêm gyntaf o’r tymor, gan gipio’r chwe phwynt mewn tair gêm yn olynol.
Ond dim ond un pwynt bonws am sgorio pedwar cais lwyddon nhw i’w hawlio ym Mae Colwyn – tra i RGC sgorio 9 o geisiau a chipio pwyntiau llawn.
Sgoriodd y canolwr Danny Cross gais yn y ddau hanner i Rygbi Gogledd Cymru, gyda’r bachwr Osian Burt, yr wythwr Sam Williams, yr asgellwyr Ieuan Cornelius a Sam Jones, y mewnwr Tudor Jones, yr blaen-asgellwr Dafydd Thirsk a’r eilydd Niall Povall hefyd ymhlith y sgorwyr.
Ar achlysur ei 100fed ymddangosiad dros y clwb, ciciodd y maswr dylanwadol Billy McBryde, saith trosiad a dwy gôl gosb i sicrhau cyfanswm personol o 20 pwynt erbyn y chwiban olaf.
Dywedodd prop pen rhydd Rygbi Gogledd Cymru, Gareth Parry: “Da ni wedi gweithio’n galed ar gryfhau ein perfformiad yn ardal y dacl yn ddiweddar ac roedd hynny’n amlwg yn ein chwarae ni heddiw.
“Roedden ni eisiau bod yn gryf wrth gadw’r meddiant, cystadlu yn y dacl a defnyddio’r cyflymder sydd ganddon ni yn ein tîm ac fe weithiodd hynny i’r dim heddiw.
“Mae sgorio 65 pwynt yn erbyn y tîm oedd ar frig y tabl yn ddatganiad mawr ganddon ni. Da ni wedi cael rhai gemau agos iawn yn ystod yr wythnosau diwethaf sydd heb fynd o’n plaid, felly roedd hi’n wych gallu perfformio mor dda heddiw a dangos beth da ni’n gallu ei wneud.
“Mae’n rhaid i ni adeiladu ar hwn rwan ac mae ganddon ni daith bwysig i lawr i Gaerfyrddin yr wythnos nesaf. Wrth gwrs fe wnaethon ni fwynhau curo Casnewydd ond mae’n rhaid i ni edrych ymlaen ac adeiladu ar y fuddugoliaeth yma.”
Casnewydd sgoriodd gyntaf ddydd Sadwrn wrth i’r canolwr Joe Westwood ddod o hyd i fwlch yn yr amddiffyn a phlymio dros y llinell gais wedi 14 munud o chwarae. Trosodd Will Ford y cais cyntaf hwnnw.
Fe wnaeth y tîm cartref ymateb gyda chic gosb gan McBryde funud yn ddiweddarach, cyn sgorio eu cais cyntaf tua hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf. Pasiodd Tudur Jones y bêl yn gampus i Cross, gasglodd y bas ar garlam cyn hyrddio ei hun dros y llinell. Trosodd McBryde.
Llwyddodd y Gogleddwyr i ymestyn eu mantais yn y 33ain munud pan arweiniodd sgarmes symudol rymus at gais i Burt. Chwe munud yn ddiweddarach, croesodd Williams am drydydd cais y tîm cartref. Gyda throsiad arall gan McBryde, roedd Rygbi Gogledd Cymru ar y blaen o 24-7.
Ymatebodd Casnewydd gyda chais gan yr asgellwr Fin Baker cyn yr egwyl, droswyd gan Ford, ond RGC gafodd y gair olaf yn yr hanner cyntaf wrth i’r asgellwr Cornelius blymio dros y llinell i roi mantais o 29-14 i’r tîm cartref ar yr egwyl.
Dechreuodd Rygbi Gogledd Cymru yr ail hanner yn yr un modd ag y gorffennon nhw’r cyfnod cyntaf, gan chwarae ar y droed flaen a symud y bêl yn gyflym.
Daeth pum cais arall i ran Rygbi Gogledd Cymru yn yr ail hanner, gyda Tudor Jones, Sam Jones, Cross am yr eildro, Povall a Thirsk i gyd yn llwyddo i groesi.
Ychwanegodd McBryde bedwar trosiad arall cyn cael y gair olaf wrth ychwanegu gôl gosb hwyr at ei gyfrif personol.
Sgoriodd Ed Thompson a Chay Foster-Smith geisiau ail hanner i Gasnewydd i sicrhau pwynt bonws, ond dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ildio mwy na 60 pwynt mewn gêm gystadleuol ers cael eu chwalu o 93-0 gan Newcastle yng Nghwpan Prydain ac Iwerddon ym mis Rhagfyr 2012.
Bydd y Prif Hyfforddwr Ty Morris yn disgwyl dim llai nag ymateb cadarnhaol iawn gan ei dîm pan fyddan nhw’n croesawu’r Pencampwyr presennol, Llanymddyfri, ddydd Sadwrn – bedair wythnos ar ôl iddyn nhw drechu’r Porthmyn o 46-26 ar Fanc yr Eglwys.
Rygbi Gogledd Cymru: Ceisiau: D Cross (2), O Burt, S Williams, I Cornelius, T Jones, S Jones, N Povall, D Thirsk; Trosiadau: B McBryde (7); Cic cosb: B McBryde (2).
Casnewydd: Ceisiau: J Westwood, F Baker, E Thompson, C Foster-Smith; Trosiadau: W Ford (4).

Wedi dechrau araf mae’r Pencampwyr presennol, Llanymddyfri, bellach wedi ennill tair gêm yn olynol.
Daeth y ddiweddaraf o’r rheiny gyda buddugoliaeth o 31-15 dros Bont-y-pŵl ar Fanc yr Eglwys, wrth i’r Porthmyn ddial am eu colled ar noson agoriadol y tymor ar y Parc.
Pont-y-pŵl oedd ar y blaen 8-7 ar yr egwyl diolch i gais yr asgellwr Carrick McDonough a gôl gosb Kieron Meek. Y cefnwr Isaac Murray-Macgregor sgoriodd gais cyntaf Llanymddyfri, droswyd gan Ioan Hughes.
Newidiodd y fantais deigwaith yn ystod yr ail gyfnod. Rhoddodd yr eilydd Tom Hughes y tîm cartref yn ôl ar y blaen gyda chais droswyd gan Ioan Hughes, cyn i’r prop Harri Rock groesi’r llinell gais i Bont-y-pŵl. Rhoddodd trosiad Meek fantais o 15-14 i’r ymwelwyr.
Unwaith eto, profodd eilyddion y Porthmyn eu gwerth wrth i Ben Evans sgorio trydydd cais Llanymddyfri i adennill y fantais gydag 11 munud ar ôl, gyda Ioan Hughes yn trosi unwaith yn rhagor.
Ychwanegodd Hughes gôl gosb hefyd cyn trosi ail gais Murray-Macgregor, gan sicrhau dau bwynt bonws ychwanegol i Lanymddyfri.
Glyn Ebwy yn cipio buddugoliaeth ddramatig yn erbyn Abertawe
Ar achlysur dychwelyd i Faes Sain Helen, colli’n hwyr o 27-26 fu hanes Abertawe yn erbyn Glyn Ebwy.
Yn anffodus cafodd yr achlysur a’r ornest eu cysgodi gan anaf cas i goes asgellwr y Gwynion, Iwan Glynn.
Roedd Abertawe, wedi arwain 21-5 a 26-10 yn ystod yr ornest ond llwyddodd Gwŷr y Dur i ymateb i’w colled drom gartref yn erbyn Caerdydd y penwythnos blaenorol, a sicrhau eu pedwaredd buddugoliaeth mewn pum gêm.
Dathlodd y cefnwr Mat Protheroe ei ben-blwydd yn 30 oed wrth sgorio’r cais cyntaf ar y maes hanesyddol ar ei newydd wedd wedi dim ond tri munud o chwarae. Sgoriodd eto yn yr ail hanner, gyda’r mewnwr Matthew Aubrey a’r maswr Josh Phillips hefyd yn croesi am geisiau i Abertawe. Ychwanegodd Phillips dri throsiad.
Sgoriodd y wythwr Ryan Jenkins a’r bachwr Ieuan Morris geisiau hanner cyntaf i Lyn Ebwy ond roedd eu tîm ar ei hôl hi o 16 phwynt pan sgoriodd Protheroe ei ail gais.
Ond wedi ail gais Morris, sgôr y prop pen rhydd Luke Garrett, a dau drosiad Cai Evans, roedd Glyn Ebwy yn ôl o fewn dau bwynt i’r tîm cartref.
Yna’n anffodus bu saib hir yn y chwarae wrth i Glynn dderbyn triniaeth cyn cael cymorth i adael y cae.
Pan ail-ddechreuodd y chwarae, roedd cic gosb Evans yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth ryfeddol i Glyn Ebwy, gan adael Abertawe ar waelod y tabl heb fuddugoliaeth hyd yma.
Pen-y-bont yn taro’n ôl a thalu’r pwyth i Aberafan
Daeth Pen-y-bont yn ôl o fod 19-5 ar ei hôl hi ar yr egwyl i sgorio 19 pwynt heb ymateb yn yr ail hanner, gan sicrhau buddugoliaeth o 24-19 yn erbyn, Aberafan, ar Faes y Bragdy nos Iau. Hawliodd bechgyn Scott Baldwin bwynt bonws am eu hymateb a’u hymdrechion hefyd.
Roedd y fuddugoliaeth hefyd yn golygu bod Pen-y-bont wedi dial am eu colled o 36-17 yn erbyn y Dewiniaid ar benwythnos agoriadol y tymor, pan oedden wedi arwain 17-0 ar un cyfnod.
Ryan Conbeer, Callum Donoghue-Proud, Edd Howley a Cameron Ellis oedd sgorwyr ceisiau Pen-y-bont, gyda Ben Burnell yn ychwanegu dau drosiad.
Roedd ceisiau gan Ashton Evans, Scott Delnevo a Luke Davies a dau drosiad Charlie Thomas wedi rhoi’r fantais gynnar i Aberafan – ond noson Pen-y-bont oedd hi fod yn y glaw trwm.
