Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Steve Tandy, wedi cadarnhau carfan o 39 o chwaraewyr wrth i Gymru ddychwelyd adref ar gyfer tair o gemau fis Tachwedd yng nghystadleuaeth gyntaf Pencampwriaeth y Cenhedloedd.
Ar ôl chwarae tair gêm oddi cartref ym mis Gorffennaf yn erbyn Fiji, Ariannin a De Affrica, bydd Pencampwriaeth y Cenhedloedd yn parhau fis Tachwedd, gyda Chymru’n croesawu Japan, Seland Newydd ac Awstralia i Stadiwm Principality ar gyfer pedwaredd, pumed a chweched rownd eu gemau yn y gystadleuaeth – a hynny ar dri phenwythnos yn olynol.
Dewi Lake fydd capten y garfan ar gyfer yr ymgyrch. Mae aelodau’r garfan wedi cynrychioli Cymru ar 1,042 o weithiau.
Mae tri chwaraewr sydd eto i ennill cap ymhlith y 22 o flaenwr a’r 17 o olwyr sydd wedi eu dewis: Rhys Barratt, prop pen rhydd Caerdydd, a deuawd y Dreigiau, y mewnwr Che Hope a’r canolwr Aneurin Owen.
Nid oedd Liam Belcher, Tomas Francis, Archie Griffin, Louie Hennessey na Dafydd Jenkins ar gael ar gyfer gemau Pencampwriaeth y Cenhedloedd ym mis Gorffennaf, ond maen nhw’n dychwelyd i garfan ddiweddaraf Steve Tandy.
Mae Taine Basham, Seb Davies a Rio Dyer hefyd wedi cael eu galw i’r garfan, sydd ag oedran cyfartalog o 27.

Dywedodd Steve Tandy: “Mae’n braf gallu galw ar wasanaeth rhai chwaraewyr nad oedd ar gael i ni ar gyfer tair gêm gynta’r Bencampwriaeth.
Mae’r ffaith bod nifer o’n chwaraewyr wedi cael dechrau arbennig i’r tymor gyda’u clybiau wedi sicrhau eu llefydd yn y garfan ar gyfer ein gemau’r Hydref yma.
“Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at chwarae tair gêm gartref. Mae Stadiwm Principality yn lle arbennig ac mae chwarae yno’n golygu llawer iawn i’n chwaraewyr. Pan fyddwn yn dod at ein gilydd yr wythnos nesaf – byddwn yn canolbwyntio’n llwyr ar herio Japan a gwneud popeth o fewn ein gallu i berfformio’n dda o flaen ein cefnogwyr ein hunain.”
Daw’r gystadleuaeth newydd i ben gyda Phenwythnos y Rowndiau Terfynol, pan fydd chwe gêm yn cael eu chwarae dros dri diwrnod yn Stadiwm Allianz, Twickenham.
Bydd pob un o’r 12 tîm yn cystadlu er mwyn penderfynu ar eu safle terfynol ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd. Yn ogystal, bydd y gwledydd yn ennill pwyntiau i’w hemisffer er mwyn penderfynu ai Hemisffer y Gogledd neu Hemisffer y De fydd yn fuddugol eleni.
Bydd pob gêm yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C ac ITV.
CARFAN CYMRU AR GYFER GEMAU MIS TACHWEDD – PENCAMPWRIAETH Y CENHEDLOEDD
(Rowndiau 4 i 6 y gystadleuaeth, cyn Penwythnos y Rowndiau Terfynol)
Blaenwyr (22)
Rhys Barratt (Caerdydd – heb gap eto)
Taine Basham (Caerdydd – 17 cap)
Adam Beard (Montpellier – 68 cap)
Liam Belcher (Caerdydd – 5 cap)
James Botham (Caerdydd – 24 cap)
Rhys Carré (Saraseniaid – 31 cap)
Ben Carter (Dreigiau – 21 cap)
Seb Davies (Dreigiau – 17 cap)
Ryan Elias (Scarlets – 51 cap)
Tomas Francis (Sale – 82 cap)
Archie Griffin (Caerfaddon – 16 chap)
Kane James (Caerwysg – 1 cap)
Dafydd Jenkins (Caerwysg – 31 cap)
Dewi Lake (Caerloyw – 34 cap) Capten
Dillon Lewis (Dreigiau – 60 cap)
Alex Mann (Caerdydd – 18 cap)
Jac Morgan (Caerloyw – 27 cap)
Taine Plumtree (Scarlets – 15 cap)
Nicky Smith (Sale – 66 chap)
Gareth Thomas (Gweilch – 44 cap)
Aaron Wainwright (Caerlŷr – 70 cap)
Teddy Williams (Caerdydd – 10 cap)
Olwyr (17)
Josh Adams (Caerdydd – 72 cap)
Sam Costelow (Scarlets – 22 cap)
Rio Dyer (Dreigiau – 24 cap)
Dan Edwards (Gweilch – 13 chap)
Gabriel Hamer-Webb (Caerlŷr – 1 cap)
Joe Hawkins (Scarlets – 13 chap)
Louie Hennessey (Caerfaddon – 1 cap)
Che Hope (Dreigiau – heb gap eto)
Eddie James (Scarlets – 11 cap)
Max Llewellyn (Caerloyw – 13 chap)
Ellis Mee (Scarlets – 11 cap)
Reuben Morgan-Williams (Gweilch – 3 chap)
Blair Murray (Scarlets – 19 cap)
Aneurin Owen (Dreigiau – heb gap eto)
Louis Rees-Zammit (Bryste – 43 chap)
Tom Rogers (Gweilch – 13 chap)
Tomos Williams (Saraseniaid – 75 cap)
Gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd
TACHWEDD 2026
Bydd pob gêm yn cael ei chwarae yn Stadiwm Principality a’i darlledu’n fyw ar S4C ac ITV.
Prynwch docynnau nawr drwy wru.wales/tickets.
• Rownd 4: Ddydd Sadwrn 7 Tachwedd 2026 – Cymru v Japan, am 16.40
• Rownd 5: Ddydd Sadwrn 14 Tachwedd 2026 – Cymru v Seland Newydd, am 14.10
• Rownd 6: Ddydd Sadwrn 21 Tachwedd 2026 – Cymru v Awstralia, am 20.10
Penwythnos y Rowndiau Terfynol
Ddydd Gwener 27 Tachwedd
• Gêm 1: Hemisffer y Gogledd 6 v Hemisffer y De 6
• Gêm 2: Hemisffer y Gogledd 3 v Hemisffer y De 3
Ddydd Sadwrn 28 Tachwedd
• Gêm 1: Hemisffer y Gogledd 5 v Hemisffer y De 5
• Gêm 2: Hemisffer y Gogledd 2 v Hemisffer y De 2
Ddydd Sul 29 Tachwedd
• Gêm 1: Hemisffer y Gogledd 4 v Hemisffer y De 4
• Gêm 2: Hemisffer y Gogledd 1 v Hemisffer y De 1
CANLYNIADAU MIS GORFFENNAF
Rownd 1: Ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf 2026 – Fiji 24 v 39 Cymru, Stadiwm Dinas Caerdydd
Rownd 2: Ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf 2026 – Ariannin 35 v 21 Cymru, Estadio San Juan del Bicentenario, San Juan.
Rownd 3: Ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf 2026 – De Affrica 43 v 0 Cymru, Hollywoodbets Kings Park, Durban.
Timau Hemisffer y Gogledd
Lloegr
Ffrainc
Iwerddon
Yr Eidal
Yr Alban
Cymru
Timau Hemisffer y De
Ariannin
Awstralia
Seland Newydd
De Affrica
Japan
Fiji
