News

Ben Whitehouse yn ymuno â charfan Cymru mewn rôl hyfforddi arbenigol

Ben Whitehouse
Bydd Whitehouse yn gweithio’n agos gyda hyfforddwyr a chwaraewyr carfan Steve Tandy

Mae Ben Whitehouse wedi ymuno â charfan genedlaethol dynion Cymru fel hyfforddwr arbenigol llawn amser.

Bydd Whitehouse yn gweithio’n agos gyda hyfforddwyr a chwaraewyr carfan Steve Tandy, gan ganolbwyntio’n benodol ar egwyddorion rheolau’r gêm, disgyblaeth, gwneud penderfyniadau a chyfathrebu.

O ganlyniad i’w rôl newydd, bydd Whitehouse yn ymddeol o ddyfarnu ar ôl gêm y Gweilch yn erbyn y Dreigiau ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig BKT ddydd Sadwrn.

Dechreuodd Whitehouse ei yrfa ddyfarnu yn ystod tymor 2009/10 ac yntau’n 19 oed.

Datblygodd yn gyflym drwy rengoedd dyfarnu Undeb Rygbi Cymru. Ar ôl cael ei benodi i ddyfarnu ei gêm gyntaf yn y Pro12 rhwng Connacht a Zebre ym mis Tachwedd 2014, aeth ymlaen i ofalu am dros 100 o gemau yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig – y trydydd person yn unig yn hanes y gystadleuaeth i gyrraedd y garreg filltir honno.

Yn ystod ei yrfa ryngwladol, dyfarnodd Whitehouse naw gêm Brawf a bu’n Ddyfarnwr Teledu (TMO) mewn 60 o gemau Prawf hefyd (43 o gemau dynion a 17 o gemau menywod).

Cafodd y profiad o fod yn Ddyfarnwr Teledu yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2021a Chwpan y Byd yn 2023 hefyd. Yn ystod yr ail gystadleuaeth honno, bu Ben Whitehouse yn Ddyfarnwr Teledu ar gyfer gêm y gyn-derfynol rhwng Ariannin a Seland Newydd ac hefyd yr ornest am y trydydd safle.

Mae Whitehouse hefyd wedi dyfarnu ym Mhencampwriaethau Chwe Gwlad Guinness y Dynion a’r Menywod, y Bencampwriaeth Rygbi a Phencampwriaeth y Cenhedloedd yn ogystal.

Dywedodd Steve Tandy: “Mae Ben eisoes wedi cael effaith sylweddol drwy ei waith gyda ni’n barod eleni, ac mae’n wych gallu dod i drefniant ffurfiol am ei rôl bellach. Mae ei wybodaeth am y gêm, sy’n deillio o’i brofiad o ddyfarnu, yn hynod werthfawr – nid yn unig o ran rheolau’r gêm, ond hefyd o ran sut i gyfathrebu’n effeithiol gyda dyfarnwyr. Byddwn yn gweithio’n galed fel grŵp i barhau i ddatblygu a gwella yn yr agwedd honno yn ystod ein gemau nesaf ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd fis Tachwedd.”

Wrth sôn am ei benodiad, ychwanegodd Ben Whitehouse: “Dwi wedi mwynhau fy amser yn gweithio gyda Steve, yr hyfforddwyr a’r chwaraewyr yn fawr iawn hyd yma. Mae rygbi wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd ers pan o’n i’n ifanc, ac mae Cymru’n golygu popeth i mi.

“Dwi’n hynod o falch o ymuno â’r tîm yn llawn amser fel hyfforddwr arbenigol. Mae’n anrhydedd cael y cyfle i chwarae fy rhan gyda’r garfan genedlaethol, a dwi’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r grŵp wrth i ni baratoi ar gyfer ein cyfres nesaf o gemau yr Hydref hwn.”

Dywedodd Dave Reddin, Cyfarwyddwr Rygbi a Pherfformiad Elît Undeb Rygbi Cymru: “Mae creu’r rôl yma’n rhan o’n gwaith i ddatblygu hunaniaeth rygbi Gymreig sy’n glir a chadarn. Mae’r arbenigedd technegol, tactegol a strategol y bydd Ben yn parhau i’w gynnig i’n hyfforddwyr a’n chwaraewyr yn hynod werthfawr wrth i ni geisio cyflymu ein datblygiad ym mhob elfen o’n gêm.”

Related Topics