News

Atgofion Dan Lydiate am ei unig gais dros Gymru

Dan Lydiate
Dan Lydiate yn sgorio ei unig gais dros Gymru'n erbyn Japan

Ddeng mlynedd ar ôl iddo sgorio ei unig gais dros Gymru yn erbyn Japan, a hynny mewn gyrfa ryngwladol o 72 cap – fe siaradodd Dan Lydiate, Hyfforddwr Cyswllt Amddiffynnol Cymru, gydag Undeb Rygbi Cymru (WRUtv) i rannu ei atgofion am yr eiliad arbennig ac unigryw honno yn ei yrfa: “Yn amlwg, wnes i ddim sgorio llawer o geisiau yn ystod fy ngyrfa ryngwladol,” meddai Lydiate. “Dydw i ddim yn gwybod pam ro’n i’n sefyll mas ar yr asgell i ddweud y gwir. Mae’n rhaid fy mod yn cael hoe fach i fod yn onest!

“Ro’n i bron â phlymio fel asgellwr yn y gornel – ond ro’n i’n ofni y byddwn yn cael fy ngwthio dros yr ystlys ac felly fe wnes i dorri’n ôl i mewn oddi ar fy nhroed dde a llwyddo sgorio. Dwi dal mor falch na wnes i ollwng y bêl!

“Yn naturiol, byddai hi wedi bod yn braf sgorio mwy o geisiau dros Gymru – ond dwi dal wrth fy modd fy mod i wedi llwyddo hawlio’r cais hwnnw a dwi dal yn cofio’r wefr a’r rhyddhad o groesi’r llinell gais y diwrnod hwnnw.”

Roedd un o’i gyd-chwaraewr rhyngwladol, sef George North hefyd yn falch iawn o weld Dan Lydiate yn hawlio’i gais yn erbyn Japan, fel yr eglura Lydiate ei hun.

“Doedd George North ddim yn chwarae y diwrnod hwnnw, ond roedd e’n eistedd wrth ymyl fy ffrind yn y Stadiwm,” meddai Lydiate. “Roedd e’n gwybod nad o’n i wedi sgorio o gwbl yn ystod fy ngyrfa ryngwladol [hyd at y pwynt hwnnw] ac fe ddathlodd yn wyllt yn yr eisteddle.”

Yr Hydref hwn, bydd Cymru’n chwarae Japan yn Stadiwm Principality – y tro hwn ym mhedwaredd rownd y gemau ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd: “Mae Japan wastad yn brwydro tan yr eiliad olaf un,” ychwanegodd Lydiate. “Maen nhw’n dda iawn yn dechnegol, ac mae hi wastad yn frwydr galed rhwng y ddwy wlad.

“Roedd hi’n dda ein gweld yn eu curo’r Hydref diwethaf a does dim amheuaeth y byddan nhw’n cynnig gwir her i ni unwaith eto fis Tachwedd yma. Wedi dweud hynny, ry’n ni gyd yn edrych ymlaen at yr her honno a brwydr gystadleuol iawn arall.”

Peidiwch â cholli’ch cyfle nesaf i weld Cymru’n chwarae Japan gartref ddydd Sadwrn 7 Tachwedd, ym mhedwaredd rownd Pencampwriaeth y Cenhedloedd.

Mae tocynnau ar gyfer holl gemau Pencampwriaeth y Cenhedloedd yr Hydref hwn, gan gynnwys Cymru yn erbyn y Crysau Duon ac Awstralia, ar werth nawr. Mae’n bosib prynu tocynnau am £13.50 yn unig i rai dan 18 oed a £26 i oedolion drwy WRU.WALES/TICKETS.

Related Topics