News

Adams am geisio cyrraedd Cwpan y Byd am y trydydd tro

Adams yn croesi yng Nghwpan y Byd 2023 yn erbyn Fiji

Gyda blwyddyn i fynd tan i gystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd gael ei chynnal yn Awstralia, mae Josh Adams ar dân i geisio cyrraedd ei drydedd pencampwriaeth.

Asgellwr Caerdydd oedd prif sgoriwr ceisiau’r gystadleuaeth yn Japan yn 2019 wedi iddo hawlio saith cais. Llwyddodd y Cymry i gyrraedd y rownd gynderfynol y flwyddyn honno cyn gorffen yn bedwerydd yn y pendraw. Yn ystod yr un cyfnod fe gododd y Crysau Cochion i frig rhestr detholion y byd rygbi am gyfnod ac enillwyd y Gamp Lawn hefyd. Cyfnod cofiadawy iawn!

Cafodd Josh Adams ei gyfle i gymryd rhan yn ei ail Gwpan y Byd yn Ffrainc yn 2023. Cyrraedd yr wyth olaf oedd tynged y Cymry bryd hynny – wedi iddyn nhw ennill pob un o’u gemau yn y grŵp. Bellach, mae Adams ddau gais yn brin o record Shane Williams o sgorio 10 cais dros Gymru yng Nghwpan y Byd (2003, 2007 a 2011).

Cais i Adams yn y rownd gyn-derfynol yn erbyn De Affrica yn 2019

CEISIAU JOSH ADAMS YNG NGHWPAN Y BYD

2019
1 v Georgia – 23 Medi, Toyota (Grŵp)
3 v Fiji – 9 Hydref, Oita (Grŵp)
1 v Uruguay – 13 Hydref, Kumamoto (Grŵp)
1 v De Affrica – 27 Hydref, Yokohama (Rownd Gyn-derfynol)
1 v Seland Newydd – 1 Tachwedd, Chofu (Gêm am y Trydydd Safle)

2023
1 v Fiji – 10 Medi, Bordeaux (Grŵp)

Josh Adams scores for Wales
Josh Adams yn croesi eto dros Gymru

“Dwi ar dân i fynd i Gwpan y Byd y flwyddyn nesaf – wrth gwrs fy mod i! “meddai Adams

“Mae llawer iawn o rygbi i’w chwarae dros y 12 mis nesaf, a’r peth pwysig i fi yw ceisio gwneud yn ddigon da yn ystod y tymor i gael fy nghynnwys yng Ngharfan Cymru y flwyddyn nesaf.

“Dydw i erioed wedi bod i Awstralia  – ar gyfer rygbi, gwyliau nac unrhyw beth arall – felly byddai cael fy newis ar gyfer Cwpan y Byd am y trydydd tro’r flwyddyn nesaf yn eithaf sbeshial i ddweud y gwir.

“Bydd hi bron yn amhosib i ni ail-greu’r canlyniadau a’r hyder oedd gan y garfan cyn Cwpan y Byd 2019. Fe enillon ni bopeth yn yr Hydref cyn symud ymlaen i ennill y Gamp Lawn. Roedden ni’n garfan sefydlog a phrofiadol oedd wedi chwarae gyda’n gilydd ers blynyddoedd.

“Mae’n grŵp presennol ni yn dal i greu’n hunaniaeth ein hunain. Ry’n ni’n gwybod pa steil o chwarae sydd fwyaf addas i ni erbyn hyn – ac ry’n ni’n newid ambell beth bach fel y byddwn ni mewn lle da erbyn y gystadleuaeth ymhen blwyddyn.

“Fe gawson ni Haf o dyfu a datblygu. Roedd ein perfformiad gartref yn erbyn Fiji yn un da – ond mae’r grŵp yma o fois yn ddigon agored a gonest i gyfaddef ein bod ni’n eithaf siomedig wrth adael Ariannin.

“Wedi hynny, roedd pawb yn gwybod yn iawn y byddai’r her o wynebu De Affrica’n anferth – ond fe ddysgon ni wersi pwysig o hynny hefyd.

“Ry’n ni erbyn hyn yn gwybod yn llawer gwell ble’r ry’n ni arni hi wrth edrych ymlaen at y tymor sydd i ddod.

“Mae’r bois yn siarad am Gwpan y Byd ac fe edrychon ni’n ôl ar uchafbwyntiau’r gystadleuaeth ym 1987, pan ddaeth Cymru yn drydydd yn Awstralia a Seland Newydd.

“Ry’n ni am wneud ein gorau er mwyn creu argraff yn Awstralia eto’r flwyddyn nesaf ac mae’r gwaith caled ry’n ni’n ei wneud wrth ymarfer yn rhoi tipyn o hyder i ni gyda blwyddyn arall i fynd.”

Wedi i Josh Adams wella o anaf i’w goes dros yr Haf, mae bellach yn barod i frwydro am ei le gyda Chaerdydd a Chymru. Ei obaith a’i nod pendant yw ychwanegu at y 72 o gapiau a’r 25 o geisiau y mae eisoes wedi eu hawlio dros ei wlad.

Bydd Cymru’n wynebu Japan, Seland Newydd ac Awstralia yn Stadiwm Principality ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd fis nesaf, cyn cystadlu am eu safle terfynol yn y gystadleuaeth yn Twickenham.

Ar ôl y pedair gêm nesaf yn ystod yr Hydref, bydd pum gêm arall yn dilyn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y flwyddyn newydd. Bydd hyd a bedair gêm arall yn cael eu trefnu wedyn cyn i Gymru deithio i Awstralia ar gyfer Cwpan y Byd.

Bydd Cymru yng Ngrŵp F gyda Lloegr, Tonga a Zimbabwe, a byddant yn dechrau eu hymgyrch yn Adelaide yn erbyn Zimbabwe ar 2 Hydref 2027.

Bydd y gemau yn erbyn Tonga a Lloegr yn dilyn ar 8 Hydref ym Melbourne ac ar 16 Hydref yn Sydney.

Japan fydd gwrthwynebwyr nesaf Cymru, cyn i garfan Steve Tandy wynebu’r Crysau Duon ac yna Awstralia. Yn naturiol, mae Josh Adams wedi bod yn dilyn a dysgu wrth wylio eu gemau diweddar:

“Mae Seland Newydd yn edrych fel tîm sydd wedi cael adfywiad yn ddiweddar. Maen nhw’n symud y bêl yn llydan iawn, ac fe wnaethon nhw dorri drwy amddiffyn De Affrica (mewn cyfres pedair prawf) yn eithaf aml,” meddai Adams.

“Er y byddan nhw’n cynnig her mawr iawn i ni, dwi wedi bod yn ddigon lwcus i fod yng ngharfan Cymru ers rhai blynyddoedd erbyn hyn a dwi’n bendant yn credu ein bod yn gwella.

“Bydd maeddu Awstralia’n dipyn o dasg hefyd. O dan arweiniad eu prif hyfforddwr newydd, Les Kiss, mae nhw’n amlwg yn symud i’r cyfeiriad iawn.

“Fe guron nhw Dde Affrica wrth gwrs ac fe fyddan nhw yn cymryd balchder mawr yn y ffaith mai yn eu gwlad nhw fydd Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf.

“Mae’n bwysig cofio hefyd i Japan ennill Cwpan Cenhedloedd y Môr Tawel yn ddiweddar, pan faeddon nhw Fiji yn y rownd derfynol. Mae Japan wastad yn dîm anodd i chwarae’n eu herbyn ac mae’r gemau wastad yn glou iawn. Bydd honno’n siwr o fod yn gêm anodd a chyffrous hefyd.”

Related Topics