News

Aberafan yn gobeithio gwneud y dwbl dros Ben-y-bont

Chris Davies

Bydd Prif Hyfforddwr Aberafan, Chris Davies, yn gobeithio y gall hanes ailadrodd ei hun heno wrth iddo fynd â’i dîm i Faes y Bragdy ar gyfer gornest Super Rygbi Cymru yn erbyn Pen-y-bont.

Bydd yn ornest yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C heno gyda’r gic gyntaf am 7.30pm.

Mae’r Dewiniaid yn dathlu 150 o flynyddoedd ers eu sefydlu ac fe ddechreuon nhw’r dathliadau hynny mewn steil gyda buddugoliaeth o 36-17 dros eu gwrthwynebwyr heno ar Faes y Talbot Athletic ar benwythnos agoriadol y tymor.

Yn anffodus i Chris Davies a’i garfan, dydyn nhw heb ennill ers yr ornest honno.

Y penwythnos diwethaf, fe gawson nhw dipyn o wers gan y Pencampwyr presennol, wrth i Lanymddyfri ennill o 66-21 ar Fanc yr Eglwys.

Davies yw hyfforddwr tîm Prifysgol Caerdydd hefyd a neithiwr fe guron nhw Met Caerdydd o’r sgôr uchaf erioed rhwng y ddau dîm, sef 38-14, yng nghyngrair y Prifysgolion. Bydd felly’n gobeithio am ddwy fuddugoliaeth nodedig o fewn pedair awr ar hugain.

Mae Prif Hyfforddwr Pen-y-bont, Scott Baldwin, wedi gwneud nifer o newidiadau’n dilyn eu gêm gyfartal o 26-26 yn erbyn Abertawe y penwythnos diwethaf. Mae’r cyn fachwr rhyngwladol wedi gwneud tri newid ymhlith yr olwyr, gan gynnig y cyfle i Edd Howley a Gabe Lacey ddechrau fel asgellwyr, tra bod Harvey Nash yn dychwelyd i safle’r mewnwr.

Ymysg y blaenwyr, mae Marc Thomas, McKenzie Scales a Nathan Evans, oedd i gyd ar y fainc yr wythnos diwethaf, yn cael eu cyfle i ddechrau ym mhum blaen y pac. Cody-Ray David a James Richards fydd y ddau glo, tra bydd y capten Zac O’Driscoll yn cadw cwmni i Ioan Davies a Benji Williams yn y rheng ôl.

Pen-y-bont: Fraser Jones; Edd Howley, Ryan Conbeer, Ryan Wilkins, Gabe Lacey; Ben Burnell, Harvey Nash; Marc Thomas, McKenzie Scales, Nathan Evans, Cody-Ray David, James Richards, Ioan Davies, Zac O’Driscoll (capten), Benji Williams.

Eilyddion: Dom Manaseitava, Harry Olding, Callum Donoghue-Proud, Alfie Thomas, Thomas Jevons, Nick Fisk Jones, Cameron Ellis, Morgan Boobyer.

Aberafan: Scott Delnevo; Felix Gilbert, Garyn Smith, James Price, Frankie Jones; Charlie Thomas, Elis Horgan; Jordan Walters, Luke Davies, Conrad Delfosse, Lewis Marsh, Shay Smallman, Rhys Thomas (capten), Ellis Cox, Ashton Evans.

Eilyddion: Malik Owen, Tyler Muyrvai, James Clegg, Brandon Owens, Scott Whitlock, Stef Jac-Jones, Sam Jardine.

OS NA ALLWCH GYRRAEDD MAES Y BRAGDY, GWYLIWCH Y GÊM YN FYW AR S4C CLIC, BBC iPLAYER A YOUTUBE.

Related Topics