Wedi iddyn nhw orffen yn ail am y ddau dymor diwethaf, mae pawb sy’n ymwneud â Choleg y Cymoedd yn gobeithio mai eu blwyddyn nhw fydd hi eleni yng Nghystadleuaeth dan 18 Ysgolion a Cholegau Undeb Rygbi Cymru.
Fe gawson nhw ddechrau da i’w hymgyrch wrth guro Coleg Llandrillo ym Mae Colwyn o 37-26, gan sgorio chwe chais yn y broses. Ar ail wythnos y cystadlu, fe fydd carfan cyn-chwaraewr rheng ôl Cymru, Geraint Lewis yn croesawu Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd i Heol Sardis (ddydd Mercher, 30 Medi – 2.30pm).
Dywedodd Geraint Lewis:“Ry’n ni’n bendant am fynd un cam yn well y tymor yma – ond er y byddai’n braf ennill y gystadleuaeth ar ôl dod mor agos dros y ddau dymor diwethaf, y peth pwysicaf i ni yw gwella’r chwaraewyr o wythnos i wythnos.
“Er mor siomedig oedd colli i Goleg Llanymddyfri a Glantaf yn y ddwy rownd derfynol, fe gawson ni brofiadau gwych wrth gyrraedd Stadiwm Principality am ddau dymor yn olynol.
“Mae ganddon ni dipyn o fechgyn sydd wedi bod yn chwarae gyda thîm D18 Rygbi Caerdydd ym Mhencampwriaeth Academïau yr Undeb ac mae nifer o’n chwaraewyr ail flwyddyn yn mynd i gynnig dipyn o brofiad i ni.”
Un o’r rheiny yw mab Geraint Lewis ei hun, sef Owen, sydd eisoes wedi ennill cap dros dîm D18 Cymru. Mae hefyd wedi chwarae i Glwb Rygbi Caerdydd mewn gêm gyfeillgar wrth baratoi ar gyfer y tymor newydd. Mae’r tad a’r mab yn edrych ymlaen at gael chwarae ar eu tomen eu hunain yn yr ail rownd o gemau, fel yr eglura’r tad:
“Fe gawson ni daith anodd i ogledd Cymru yr wythnos ddiwethaf ac ry’n ni’n gwybod y bydd yr Eglwys Newydd yn ceisio ein rhwystro rhag chwarae’r math o rygbi ry’n ni eisiau ei wneud. Maen nhw bob amser yn ffit ac yn gorfforol iawn ac ar ôl eu buddugoliaeth fawr yr wythnos ddiwethaf byddan nhw’n teithio i Heol Sardis yn llawn hyder.
“Mae’r safon yn Adran A yn uchel iawn yn y gystadleuaeth hon ac mae’n rhaid i chi fod ar eich gorau ym mhob gêm. Mae’r gemau hyn a’r rhaglenni rygbi sydd ym mhob un o’r ysgolion a’r colegau, yn gwneud cyfraniad enfawr at ddatblygiad y gêm yma yng Nghymru.”
Enillodd Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd 19-0 ar daith i Goleg Gwent y penwythnos diwethaf, gan fethu â chipio’r pwynt bonws am geisiau o drwch blewyn yn unig. Er dechrau cadarn ei dîm i’r tymor, mae’r Cyfarwyddwr Rygbi Steve Williams yn gwybod bod angen i’r Eglwys Newydd wella eu perfformiad wrth wynebu Coleg y Cymoedd:
“Mae ganddon ni bump blaen cadarn iawn. Os y llwyddwn ni i dacluso’r lein yr wythnos yma dwi’n hyderus y gall ein haneri Lucas Driscoll a Finn Britton reoli’r gêm yn dda i ni.”
Fe wnaeth Prif Hyfforddwr Coleg Sir Gâr, Euros Evans, gyfaddef bod ei dîm yn “lwcus iawn” i ddianc o Goleg Pen-y-bont gyda buddugoliaeth o bwynt (27-26), yr wythnos diwethaf. Bydd angen gwelliant sylweddol yn eu chwarae wrth iddyn nhw baratoi i wynebu’r Pencampwyr presennol, Glantaf, yn yr ail rownd o gemau.
Mewn gêm gyffrous wrth iddyn nhw ddechrau amddiffyn eu teitl, llwyddodd bechgyn y Brifddinas i guro Coleg Llanymddyfri, enillwyr y gystadleuaeth am y ddwy flynedd cyn hynny, o 38-35 ar Barc yr Arfau. Bydd Llanymddyfri yn croesawu Coleg Llandrillo yn yr ail rownd.
Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Castell-nedd Port Talbot ac Ysgol Uwchradd Casnewydd sy’n arwain y ffordd yn Adran B ar ôl i’r tri ohonyn nhw sicrhau buddugoliaethau gyda phwynt bonws yn y rownd agoriadol.
Adran A – Gemau’r Ail Rownd
Ddydd Mercher, 30 Hydref
Coleg Pen-y-bont v Coleg Gwent
Coleg Sir Gâr v Glantaf
Coleg y Cymoedd v Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
Coleg Llanymddyfri v Coleg Llandrillo
Canlyniadau’r Rownd Gyntaf
Coleg Gwent 0–19 Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
Coleg Llandrillo 26–37 Coleg y Cymoedd
Coleg Sir Gâr 27–26 Coleg Pen-y-bont
Glantaf 38–35 Coleg Llanymddyfri
Adran B – Gemau’r Ail Rownd
Ddydd Mercher, 30 Hydref
Coleg Caerdydd a’r Fro v Dyffryn Aman
Coleg Castell-nedd Port Talbot v Coleg Gŵyr
Ysgol Ystalyfera v Ysgol Uwchradd Casnewydd
Canlyniadau’r Rownd Gyntaf
Coleg Caerdydd a’r Fro 34–23 Ysgol Ystalyfera
Dyffryn Aman 29–37 Coleg Castell-nedd Port Talbot
Ysgol Uwchradd Casnewydd 34–23 Coleg Gŵyr
