Mae Undeb Rygbi Cymru (WRU) wedi ymuno â rhwydwaith o dros 700 o gyflogwyr yng Nghymru sy’n addo cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog.
Cafodd Cyfamod y Lluoedd Arfog ei lofnodi gan Terry Cobner, Llywydd Undeb Rygbi Cymru ac Abi Tierney, Prif Swyddog Gweithredol Undeb Rygbi Cymru yng nghwmni’r Brigadydd Mark Davis CBE, Cadlywydd Brigâd 160 (Cymru), Pennaeth y Fyddin yng Nghymru.
Cynhaliwyd y sesiwn lofnodi yng Nghastell Caerdydd ddydd Mawrth 8 Medi, lle’r oedd cynrychiolwyr y WRU yn westeion anrhydeddus adeg y salíwt brenhinol 21 gwn i ddathlu Diwrnod yr Esgyniad i’r Orsedd sy’n nodi’r dyddiad yr esgynnodd Ei Fawrhydi Brenin Charles III i’r orsedd.
Cawsant gerddoriaeth gan Fand Catrodol a Chorfflu Drymiau 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol. Roedd yr Is-gorporal Shenkin, Gafr Gatrodol 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol, ynghyd ag Uwchgapten y Geifr, y Sarjant Mark Jackson, hefyd yn bresennol.
Dywedodd Terry Cobner, Llywydd Undeb Rygbi Cymru, “Rydyn ni wrth ein bodd i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog fel hyn. Mae gan rygbi Cymru gysylltiad hir a chadarnhaol â Thrydydd Bataliwn y Cymry Brenhinol yn benodol, gyda Shenkin yr Afr Gatrodol yn fasgot swyddogol pwysig i ni ar ddiwrnodau gemau yn Stadiwm Principality a’r Band Gatrodol hefyd yn nodwedd reolaidd. Mae croeso bob amser i’r rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU a’u teuluoedd yn rygbi Cymru.”
Dywedodd y Brigadydd Mark Davis CBE, Cadlywydd y Fyddin yng Nghymru ac Is-gadeirydd Undeb Rygbi’r Fyddin:
“Rygbi yw gêm y Fyddin. Mae’n gofyn am ddewrder dan bwysau, parch, disgyblaeth ac ymrwymiad diysgog i’r tîm. Mae rygbi Cymru a’n Lluoedd Arfog yn rhannu’r gwerthoedd hyn, gan adlewyrchu perthynas a ffurfiwyd dros genedlaethau. Trwy lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, mae’r Undeb Rygbi yn rhoi’r gwerthoedd hynny ar waith ac yn sefyll gyda’n Lluoedd Arfog cyfan.”
Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cynrychioli addewid gan y genedl bod y rhai sydd naill ai’n gwasanaethu neu wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg. Mae’r rhaglen yng Nghymru yn cael ei chyflwyno gan Reolwyr Perthynas Amddiffyn y Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Ledled y DU mae tua 13,000 o sefydliadau wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog (AFC), gan gynnwys nifer cynyddol yma yng Nghymru.
Cyflwynwyd y saliwt brenhinol 21 gwn gan filwyr wrth gefn o 104 Catrawd y Magnelwyr Brenhinol sydd ymhlith tua 1,400 o filwyr wrth gefn sy’n gwasanaethu yng Nghymru. Ledled Cymru, mae pobl gyffredin o gefndiroedd amrywiol yn rhoi o’u hamser hamdden i hyfforddi a gwasanaethu ochr yn ochr â phersonél rheolaidd y Lluoedd Arfog.
Mae milwyr wrth gefn yn gweithio i gyflogwyr o bob maint, ac mae gofyn iddyn nhw ymrwymo hyd at 30 diwrnod y flwyddyn o wasanaeth. Yn gyfnewid, mae milwyr wrth gefn yn derbyn hyfforddiant o’r radd flaenaf i feithrin sgiliau ac ennill cymwysterau newydd sy’n trosglwyddo’n gadarnhaol i’w swyddi sifil.
Mae tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr RFCA Cymru yn cynnig cymorth a chyngor i sefydliadau, cwmnïau, milwyr wrth gefn a Gwirfoddolwyr gyda’r Cadetiaid ar faterion cyflogaeth Amddiffyn sy’n ymwneud â phobl.
Maen nhw’n gweithio gyda sefydliad Rheoli Perthynas Amddiffyn (DRM) y Weinyddiaeth Amddiffyn i feithrin cydberthnasoedd agored a strategol gyda chyflogwyr, gan deilwra cyfleoedd partneriaeth i anghenion cydfuddiannol a nodau busnes.
Dywedodd Mr Craig Middle, Rheolwr Perthynas Amddiffyn y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer De Cymru, “Rydyn ni wrth ein boddau bod Undeb Rygbi Cymru wedi dangos cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog. Mae nifer y sefydliadau sy’n llofnodi’r Cyfamod yn parhau i dyfu ar gyfradd galonogol yng Nghymru ac mae’n addo rhagolygon cadarnhaol i gymuned y Lluoedd Arfog.”
Oes gennych chi ddiddordeb yn llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog? Cysylltwch â Mr Craig Middle wa-reed@rfca.mod.uk
