News

Super Rygbi Cymru'n dychwelyd y penwythnos yma

SRC
Bydd Llanymddyfri'n gobeithio am dymor da arall

Ddwy flynedd yn ôl, dechreuodd Llanymddyfri eu hymgyrch gyntaf yn Super Rygbi Cymru fel Pencampwyr Uwch Gynghrair Indigo ym Mharc Pont-y-pŵl, ac fe lwyddon nhw i ennill o 21-18 ar y prynhawn hanesyddol hwnnw.

Bellach mae’r Porthmyn yn Bencampwyr SRC wrth gwrs a thaith i’r Parc enwog yng Ngwent sy’n eu hwynebu unwaith eto’r penwythnos hwn hefyd:

Dywedodd y Prif Hyfforddwr, Euros Evans: “Mae ganddon ni ddechrau anodd iawn i’n hymgyrch wrth i ni fynd i Bont-y-pŵl i ddechrau cyn croesawu Casnewydd aton ni. Erbyn diwedd y tymor dwi’n credu y bydd y ddau dîm hynny ym mhedwar uchaf y tabl – felly mae chwarae yn eu herbyn mor gynnar yn her fawr.

“Y tro diwethaf i ni ennill y Cynghrair, roedden ni’n ofnadwy am chwe wythnos gyntaf y tymor canlynol.

“Ry’n ni wedi siarad llawer am wneud yn siwr nad yw hynny’n digwydd y tro yma a’n bod yn gwneud popeth y gallwn ni i ddechrau’r tymor yn gryf.”

Gorffennodd Pont-y-pŵl ar waelod Super Rygbi Cymru y tymor diwethaf, gan ennill dim ond pedair o’u 18 gêm gynghrair, ond mae Evans yn disgwyl gwelliant mawr ganddyn nhw’r tymor yma:

“Maen nhw’n dîm cytbwys iawn nawr sydd wedi datblygu cryn dipyn yn ddiweddar.

“Fe gollon nhw eu gêm ail gyfle yn erbyn Cwins Caerfyrddin yn yr eiliadau olaf a cholli’n ein herbyn ni yn Rownd Gynderfynol y Cwpan. Maen nhw wedi arwyddo chwaraewyr o wir safon dros yr haf a does gennai ddim amheuaeth y byddan nhw ymhlith y timau fydd ar y brig ar ddiwedd y flwyddyn.

“Rwy’n credu bod Pont-y-pŵl wedi newid eu hagwedd a’u harddull erbyn hyn. Dy’n nhw ddim yn awchu am gaeau trwm – ac mae Tom [Hancock] eisiau iddyn nhw ledu’r bêl ar bob cyfle posib.”

Joe Thomas
Prif Hyfforddwr Abertawe Joe Thomas

THOMAS YN DAL I FWYNHAU EI GYFRIFOLDEBAU YN ABERTAWE

Roedd gan Abertawe bob hawl i alw eu hunain y tîm a wellodd fwyaf yn Super Rygbi Cymru y tymor diwethaf, er iddyn nhw golli gwasanaeth eu Prif Hyfforddwr Jonathan Thomas wedi dim ond ychydig fisoedd o’r tymor.

Y canolwr Joe Thomas safodd yn y bwlch fel chwaraewr-hyfforddwr, ac mae’n parhau i fwynhau’r  ddwy rôl sydd ganddo.

Ar ôl sicrhau lle yn y chwech uchaf ac ennill eu tlws cyntaf ers chwarter canrif, gallai Thomas hawlio tipyn o glod am welliant sylweddol Abertawe’r tymor diwethaf. Fe enillodd ei dîm naw gêm gynghrair – gwelliant sylweddol ar eu hymgyrch y flwyddyn flaenorol.

“Fe gymron ni gam sylweddol ymlaen y llynedd,” meddai Thomas.

“Roedd y flwyddyn flaenorol yn eithaf anodd o ran canlyniadau, ond fe ddangosodd y bechgyn ffydd yn ei gilydd a dod drwyddi. Fe adeiladon ni ar hynny’r tymor diwethaf a gwella popeth oedd o fewn ein gallu.

“Rwy’n credu bod ennill y Plât hefyd yn gadarnhad ein bod ni wedi newid pethau er gwell. Er i ni lithro erbyn diwedd y tymor, mae hynny’n dangos bod yn rhaid perfformio ar yr adegau cywir er mwyn llwyddo’n gyson.

“Fel hyfforddwr, rwy’n dysgu llawer iawn o wersi wrth i mi fynd ymlaen. Er ein bod yn siomedig o golli yn rownd yr wyth olaf yn y Cynghrair yng Nghasnewydd – ar y cyfan ro’n i’n hynod falch o’n gwelliant y tymor diwethaf.”

Yr Erw Lydan yn y Dyfnant oedd cartref Abertawe yn ystod eu hymgyrch ddiwethaf, ond Sain Helen fydd yn cynnal gemau’r Gwynion y tymor hwn. Glyn Ebwy fydd yr ymwelwyr cyntaf â’r maes hanesyddol ers iddo gael ei ail-ddatblygu, a hynny ddydd Sadwrn 10 Hydref ac mae Joe Thomas yn edrych ymlaen yn fawr at hynny:

“Mae hwn yn bendant yn gyfnod newydd i ni fel carfan. Mae’n bwysig ein bod yn anrhydeddu a chofleidio hanes ein clwb wrth i ni ddychwelyd i Sain Helen a’r ffordd orau o wneud hynny yw perfformio’n dda ar y maes.”

Osian Darwin-Lewis o glwb Caerdydd

TRI CHYNNIG I GAERDYDD YN EU CANFED TYMOR A HANNER?

Mae Caerdydd wedi gorffen ar frig tabl tymor  arferol Super Rygbi Cymru am ddwy flynedd yn olynol – cyn colli yn eu rownd gynderfynol ym Mharc yr Arfau ddwywaith a cholli’r cyfle i hawliod Tlws Super Rygbi Cymru ar eu tomen eu hunain.

Yn 2024/25, fe gollon nhw o 35-20 yn erbyn eu hen elynion Casnewydd ac yna, y tymor diwethaf, fe gawson nhw eu curo o 30-22 gan Lanymddyfri yn y pedwar olaf. Aeth y ddau dîm ymlaen i drechu Glyn Ebwy yn eu rowndiau terfynol ar Barc Eugene Cross.

Felly, ‘dyw hi’n ddim syndod bod capten Caerdydd, Craig Hudd, yn benderfynol o ennill Tlws Super Rygbi Cymru i goroni tymor pen-blwydd y clwb yn 150 oed:

“Ry’n ni wedi methu gwneud cyfiawnder â’n hunain yn y rowndiau cynderfynol am y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae’n dal i frifo. Y llynedd, fe ddechreuon ni braidd yn araf ac ildio 14 pwynt yn gynnar yn erbyn tîm da o Lanymddyfri, ac mae hi bob amser yn eithaf anodd dod yn ôl o sefyllfa felly,” cyfaddefodd Hudd.

“Llwyddon ni i ddod yn gyfartal erbyn hanner amser, ond dydw i ddim yn credu ein bod ni wedi chwarae ein rygbi gorau yn yr ail hanner. Trodd y tywydd, ac fe fethon ni barhau gyda’r momentwn oedd ganddon ni cyn yr egwyl.

“Dwi ddim yn siwr os mai diffyg profiad, neu efallai ychydig o nerfau oedd yn gyfrifol am hynny – ond Llanymddyfri aeth â hi erbyn y chwiban olaf.

“Gan ei bod hi’n ben-blwydd arbennig iawn ar y clwb y tymor yma – gobeithio wir y gallwn ni fynd gam ymhellach ac ennill y gystadleuaeth y to yma.”

Related Topics