Daeth tua 60 o chwaraewyr academïau hŷn Rygbi Caerdydd, y Dreigiau, y Gweilch, Rygbi Gogledd Cymru a’r Scarlets at ei gilydd yn y Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol ym Mro Morgannwg nos Lun, ar gyfer yr ail mewn cyfres o sesiynau sgiliau llwybr datblygu’r Undeb y tymor yma.
Dywedodd Prif Hyfforddwr tîm dan 20 Cymru, Richard Whiffin, gyflwynodd y syniad o gynnal y rhaglen waith hon: “Mae sesiynau fel yma’n gyfle da i ddod â’r holl chwaraewyr sy’n gysylltiedig â’r rhanbarthau ar y lefel yma at ei gilydd ac mae’n braf bod ganddon ni fel Undeb, gefnogaeth lawn y rhanbarthau a Rygbi Gogledd Cymru.
“Yn y pen draw, ry’n ni am wella’r chwaraewyr, sicrhau eu bod yn gyfarwydd â’n model a’n harddull o chwarae, ond hefyd eu cael nhw i gystadlu yn erbyn ei gilydd. Y mwyaf o gyfleoedd y bydd y chwaraewyr gorau yn eu cael i gystadlu yn erbyn eu cyfoedion – y mwyaf tebygol y’n ni o weld unigolion yn dod i’r brig yn eu gwahanol safleoedd.”
Cafodd y chwaraewyr, (grŵpiau oedran o dan 19 ac o dan 22), eu profi’n dechnegol a chael y cyfle i arddangos eu doniau hefyd. Dechreuodd y sesiwn yn y gampfa cyn canolbwyntio ar weithdai cicio a thaflu. Wedi hynny edrychwyd ar dechegau ac effeithlonrwydd sgrymio, cario’r bêl, dadlwytho, taclo ac ymosod.
Roedd prif hyfforddwyr llwybr datblygu Undeb Rygbi Cymru, Marc Breeze, Neil Jenkins, Richie Pugh a Josh Turnbull hefyd yn bresennol – ac o safbwynt y clybiau a’r rhanbarthau roedd Leigh Halfpenny, Tom Hancock, James Hook, Scott Sneddon a Gareth Williams yno i gynnig arweiniad hefyd. Roedd Dan Lydiate, sy’n aelod o dîm hyfforddi prif garfan Cymru, hefyd yn rhan o’r tîm hyfforddi oedd yn arwain y gweithgareddau.

Ychwanegodd Richard Whiffin: “Dwi’n credu bod ganddon ni 15 o hyfforddwyr yma i gyd o’r garfan hŷn, y rhanbarthau ac, wrth gwrs, o’n tîm cenedlaethol dan 20, gyda phob un ohonyn nhw’n cadw llygad ar yr hyn sydd gan y chwaraewyr i’w gynnig a’r hyn sydd angen ei ddatblygu ganddyn nhw.
“Roedd rhyw 30 o’r bechgyn yn lwcus iawn i gael sesiwn gicio gyda Neil Jenkins, James Hook, Leigh Halfpenny a Scott Sneddon cyn iddyn nhw wedyn ganolbwyntio ar sgiliau’r gwahanol safleoedd penodol.
“Roedd Marc Breeze yn gweithio gyda’r bachwyr, ac yna daeth pob un o’r 60 o chwaraewr at ei gilydd i edrych ar wahanol agweddau o’r gêm.
“Ry’n ni am iddyn nhw allu mynd â’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu yn ein sesiwn ymarfer heno yn ôl i’w clybiau a’u rhanbarthau, a’r gobaith iddyn nhw wrth gwrs fydd cael eu dewis yn y carfanau rhyngwladol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
“Byddwn yn cadw mewn cysylltiad cyson gyda’r chwaraewyr – bob rhyw bythefnos i ddweud y gwir. Mae’n bwysig nodi bod y bloc yma o sesiynau’r mis yma yn agored i bob chwaraewr academi.

“Wrth i ni gyrraedd mis Hydref, bydd grŵp mwy penodol o chwaraewyr yn cael ei ddewis – gyda’r garfan dan 20 mewn golwg. Wrth symud ymlaen at fisoedd Tachwedd a Rhagfyr byddwn ni’n canolbwyntio mwy ar baratoi i chwarae gemau.
“Mae’r bloc ymarfer yma rhwng mis Medi a mis Rhagfyr yn cynnig y cyfle i ni ddod i adnabod y chwaraewyr a’u gwella gan hefyd gynnig y cyfle iddyn nhw gael eu hystryried ar gyfer y gemau prawf ar ôl y Nadolig.
“Mae ganddon ni’r Chwe Gwlad a Chwpan Ieuenctid y Byd [y flwyddyn nesaf], ac mae’r rheiny’n ddau darged mawr i ni. Y ogystal â hynny, mae ganddon ni bedair gêm brawf dan 19 yn erbyn gwrthwynebwyr o wir safon – Ffrainc, Lloegr, Iwerddon a’r Alban. Felly, mewn ffordd, mae’r chwaraewyr dan 19 yn cael eu Chwe Gwlad eu hunain hefyd.
“Y peth pwysicaf un yw paratoi chwaraewyr i wisgo’r crys coch.”
