News

Rees-Weldon yn ôl ar benwythnos llawn cyffro yn Super Rygbi Cymru

Harry Rees-Weldon yn cynrychioli'r Dreigiau

Ar ôl dioddef cyfnod hynod o anodd gydag anafiadau, yn ei gêm gyntaf yn ôl ar y maes i Lyn Ebwy fe sgoriodd cyn-asgellwr dan 20 Cymru, Harry Rees-Weldon gais pwysig wrth i Wŷr y Dur gipio’r chwe phwynt llawn yn eu buddugoliaeth o 52-26 yn Aberafan.

Sgoriodd y gwibiwr un o wyth cais Glyn Ebwy wrth iddyn nhw sicrhau pwyntiau llawn am yr ail gêm yn olynol yng nghynghrair Super Rygbi Cymru.

Mae Rees-Weldon wedi treulio llawer o’r deunaw mis diwethaf ar y cyrion oherwydd cyfres o anafiadau anffodus. Dechreuodd ei drafferthion y llynedd pan orfododd anaf i’w goes iddo fethu Pencampwriaeth Dan 20 y Byd.

Yna cafodd anaf i’w droed wrth ymarfer gyda Glyn Ebwy ar drothwy’r tymor diwethaf. O ganlyniad, collodd y tymor cyfan i bob pwrpas:

“Rwy’n falch iawn o fod yn ôl. Mae wedi bod yn un anaf ar ôl y llall ac mae’n braf iawn anghofio’r anafiadau a bod nôl ar y cae,” dywedodd Harry Rees-Weldon:

“Mae chwarae fy 80 munud cyntaf ers sbel yn teimlo’n dda iawn ac mae’n braf bod yn ôl allan yna gyda’r bois, yn enwedig gan mai dyna’r tro cyntaf i fy mrawd Joe a finnau chwarae mewn gêm gystadleuol gyda’n gilydd ers dyddiau ein ieuenctid.”

Sgoriodd yr asgellwr Dafydd Thomas a’r cefnwr Morgan Rees ddau gais yr un, gyda’r bachwr Ieuan Morris, y capten Ethan Phillips a’r eilydd o fachwr James Talamai hefyd yn croesi dros Lyn Ebwy. Ciciodd y maswr Kai Kinsey chwe throsiad hefyd.

Doedd hi ddim yn brynhawn gwaglaw i Aberafan chwaith gan i ddau gais yr asgellwr Frankie Jones, a cheisiau pellach gan Gavin Parry a’r capten Rhys Thomas sicrhau pwynt bonws i’r clwb cartref.

Mae Caerdydd wedi dechrau eu tymor o ddathlu eu 150 mlwyddiant gyda dwy fuddugoliaeth. Ar ôl dechrau’r tymor gyda llwyddiant a phwynt bonws yn erbyn Cwins Caerfyrddin, cipion nhw bum pwynt arall wrth drechu Abertawe o 49-35 ar Barc yr Arfau.

Sgoriodd y chwaraewr rheng ôl Tirion Brown, y bachwr Tom Howe, y propiau Tom Cottle a Ioan Emanuel, yr eilydd Issac March – ar ei ymddangosiad cyntaf – y canolwr Jason Harries a’r asgellwr Dewi Cross geisiau i glwb y Brifddinas. Trosodd y maswr Coomer bob un o’r saith cais hynny.

Er i’r asgellwr Brandon Wood sgorio tri chais ar ei 50fed ymddangosiad dros Abertawe fe brofodd y fuddugoiliaeth i fod y tu hwnt i’w cyrraedd er i’r Gwynion fod ar y blaen hyd nes chwarter ola’r ornest.

Sgoriodd y canolwr Callum Carson a’r maswr Josh Phillips hefyd i Abertawe – ac fe olygodd gais Phillips nad oedd pwynt bonws ychwanegol ar gael i Gaerdydd. Ychwanegodd Phillips 10 pwynt arall gyda’i droed.

Llwyddodd Rygbi Gogledd Cymru i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o’r tymor ar ôl iddyn nhw drechu Cwins Caerfyrddin o 36-29 ym Mharc Eirias. Sgoriodd y clo Huw Davies, y cefnwr Dion Jones, y canolwr Danny Cross, yr asgellwr Sam Davies a’r bachwr Osian Burt geisiau i’r Gogs. Ciciodd Billy McBryde bedwar trosiad a chic gosb hefyd.

“Ro’n i’n falch iawn o ymdrech y bechgyn, ac fe wnaethon ni reoli’r ail hanner yn dda iawn. Mae mynd 36-19 ar y blaen yn glod mawr iddyn nhw,” oedd ymateb Prif Hyfforddwr RGC, Jon Callard, wedi’r chwiban olaf.

“Roedd ein sgrym yn gadarn a’n gallu i ad-ennill y meddiant i’w ganmol hefyd. Os allwn ni gael gwared ar y camgymeriadau, byddwn ni’n dîm anodd iawn i chwarae yn ein herbyn am weddill y tymor.”

Sgoriodd y bachwr Lewis Morgan ddwywaith i Gaerfyrddin, gyda’r cefnwr Iori Badham a’r asgellwr Callum Woolley hefyd ymhlith y sgorwyr. Ciciodd Madoc Evans dri throsiad a gôl gosb wrth i’r ymwelwyr gipio dau bwynt bonws.

McCauley Rowley o glwb Pen-y-bont

Mae maswr Pen-y-bont, Ben Burnell, hefyd yn credu bod tymor llwyddiannus o flaen ei dîm ef wedi eu buddugoliaeth o 50-30 ar Barc Pont-y-pŵl.

Fe groesodd yr asgellwr McCauley Rowley deirgwaith yn ystod y prynhawn, ac fe diriodd ei dîm bum cais arall hefyd.

Dyma’r eildro yn olynol i Ben-y-bont sgorio 50 pwynt yn erbyn Pont-y-pŵl, wedi iddyn nhw lwyddo cyrraedd y garreg filltir honno ar Faes y Bragdy ym mis Mawrth.

Roedd Pen-y-bont ar y blaen o 36-14 ar yr egwyl diolch i geisiau gan yr asgellwr Ben Evans, y capten Tom Jevons, dwy gan Rowley – a cheisiau eraill gan y canolwyr Ryan Wilkins a Ryan Conbeer. Ychwanegodd Fraser Jones dri throsiad.

Y clo Liam Antrobus a’r capten Scott Matthews oedd sgorwyr Pont-y-pŵl yn yr hanner cyntaf, gydag Evan Lloyd yn trosi’r ddau gais. Er i Ellis Lewis sgorio’n gynnar dros y clwb cartref wedi troi – fe darodd yr asgellwr Ben Evans yn ôl yn fuan i’r ymwelwyr gyda chwarter y gêm yn weddill, ac yn dilyn trosiad Jones roedd eu mantais yn 43-21.

Er i Bont-y-pŵl gau’r bwlch i bum pwynt yn unig wrth iddyn nhw sgorio tri chais mewn saith munud (Hill,Lloyd a Cole) ac wedi un trosiad gan Lloyd – Rowley gafodd y gair olaf i Ben-y-bont wrth i’w drydydd cais selio buddugoliaeth gofiadwy. Wedi trosiad Jones roedd yr ymwelwyr wedi cyrraedd yr hanner can pwynt.

Yr her i Ben Burrell a’i gyd-chwaraewyr fydd dilyn hynny gyda buddugoliaeth arall a pherfformio’n fwy cyson am weddill y tymor.

Fe gollodd Scott Baldwin a’i garfan eu gornest agoriadol o’u hymgyrch yn erbyn Aberafan ar y penwythnos cyntaf o gystadlu – er iddyn nhw fod ar y blaen o 17 pwynt yn gynnar, cyn iddyn nhw ildio 36 o bwyntiau heb ymateb.

Y Pencampwyr Llanymddyfri fydd eu gwrthwynebwyr nesaf ddydd Sadwrn – a byddan nhw’n llyfu eu clwyfau wedi iddyn nhw golli eu dwy gêm agoriadol o’r tymor.

Dywedodd Burnell: “Pan mae popeth yn dod at ei gilydd, dwi’n credu o ddifrif ein bod ni’n un o’r timau gorau yn y cynghrair.

“Ond yn anffodus, y llynedd, doedd hynny ddim yn digwydd yn ddigon aml ac fe arweiniodd hynny at gyfnod o golledion ac fe effeithiodd hynny ar ein hyder.

“Mae cysondeb yn beth hynod o bwysig i ni’r tymor yma. Os y llwyddwn ni i chwarae fel ry’n ni’n gwybod y gall Pen-y-bont ei wneud – a hynny’n gyson – dwi’n credu y cawn ni dymor llwyddiannus iawn.”

Related Topics