News

Menywod y Springboks wedi bod yn brysur cyn herio Cymru

Carys Phillips yn dathlu cais yn erbyn De Affrica yn 2021

Mae wedi bod yn haf prysur i Fenywod y Springboks, fydd yn wynebu Cymru yng Nghyfres y WXV ar Barc yr Arfau nos Wener yma (18 Medi, 7.15pm).

Mae De Affrica wedi chwarae dwy gêm Brawf gartref yn erbyn yr Unol Daleithiau, dwy gêm Brawf yn Fiji, ennill eu pumed teitl yng Nghwpan Rygbi Menywod Affrica yn olynol, cyn croesawu Seland Newydd. All Menywod y Springboks ddim cwyno nad yw eu paratoadau ar gyfer y WXV wedi bod yn ddigon trylwyr wrth iddyn nhw chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yng Nghaerdydd.

PRYNWCH DOCYNNAU AR GYFER CYMRU V DE AFFRICA YMA

Llwyddodd De Affrica i sicrhau cyfres gyfartal gyda’r Unol Daleithiau cyn ennill eu dwy gêm yn Fiji. Enillwyd eu tair gornest yng Nghwpan Affrica cyn colli o 52-20 yn erbyn Seland Newydd yn Soweto. Chwaraewyd y gêm honno’n union cyn y drydedd gêm o bedair rhwng timau dynion y Springboks a’r Crysau Duon.

Chwaraeodd menywod y Springboks ddwy gêm dan 20 yn erbyn eu cyfoedion o’r Unol Daleithiau hefyd – gan gynnig rhagor o brofiad rhyngwladol i’w chwaraewyr iau.

CANLYNIADAU MENYWOD Y SPRINGBOKS 2026 – Ch8 E6 C2
23 Mai: De Affrica 64–5 Madagascar
27 Mai: De Affrica 47–20 Uganda
31 Mai: De Affrica 35–20 Kenya
4 Gorffennaf: De Affrica 34–21 UDA
11 Gorffennaf: De Affrica 19–26 UDA
8 Awst: Fiji 12–55 De Affrica
15 Awst: Fiji 22–29 De Affrica
5 Medi: De Affrica 20–52 Seland Newydd

Erbyn hyn, mae gan y garfan gryn brofiad o ofynion rygbi ar y llwyfan rhyngwladol, ac mae’r capten Babalwa Latsha, sydd wedi cynrychioli ei gwlad ar 44 achlysur, yn un o dri chwaraewr sydd â mwy na deugain cap erbyn hyn. Mae wyth chwaraewr pellach wedi ennill rhwng 30 a 40 cap.

Nid yw’r canolwr Zintle Mpupha ar gael i herio Cymru o ganlyniad i anaf i’w phigwrn, ac wedi iddi sgorio dau gais mewn tair gêm yng Nghwpan Affrica, mae Naima Hlatshwayo wedi cymryd ei lle yn y garfan.

Yn dilyn eu sesiwn ymarfer olaf yn Stellenbosch cyn teithio i Gymru, dywedodd y Prif Hyfforddwr Franzel September ei fod yn hapus gyda chadernid a phrofiad cynyddol ei garfan:

“Rydyn ni wedi bod yn adeiladu tuag at y daith hon ers cryn amser bellach. Fe gyflwynon ni chwaraewyr newydd yng Nghwpan Affrica, ac yn ystod y profion yn erbyn yr Unol Daleithiau, Fiji a’r ‘Black Fearns’.

“Roedd hi’n drueni colli gwasanaeth Zintle, ond ar yr un pryd mae hyn yn creu cyfle gwych i Naima.

“Mae gan nifer o’n chwaraewyr fwy nag 20 cap erbyn hyn, sy’n gam pwysig wrth i ni adeiladu at gystadleuaeth Cwpan y Byd yn 2029. Ar ben hynny mae nifer o’n chwaraewyr llai profiadol wedi creu argraff gwirioneddol arnom ac maen nhw’n pwyso ar y rhai mwy profiadol – sy’n gadarnhaol i ni fel tîm hyfforddi.

“Rydyn ni wedi ennill chwech o’n wyth gêm Brawf eleni, ond bydd gemau’r WXV yn hynod o heriol i ni – her rydyn ni’n ei chroesawu’n fawr.

“Mae pob gêm yn bwysig ond mae’r WXV yn mynd i sicrhau bod cyfres o gemau cystadleuol ar gael i’r timau bob blwyddyn ac mae hynny’n bwysig yng nghyd-destun datblygu gêm y menywod.”

Bydd eu taith yn dechrau gyda Phrawf yn erbyn Cymru ym Mharc yr Arfau, Caerdydd, ar 18 Medi, cyn wynebu’r Eidal yn Pordenone (26 Medi) a Sbaen yn Seville (4 Hydref). Wedi hynny bydd De Affrica yn dychwelyd adref i baratoi ar gyfer dwy gêm yn erbyn Iwerddon yn Cape Town (24 a 31 Hydref).

Carfan y Springboks ar gyfer Cyfres y WXV

Olwyr (13)
Byrhandré Dolf (SA Rugby) – 30 cap, 81 pwynt (8 cais, 19 trosiad, 1 gôl gosb)
Jakkie Cilliers (Toulon Provence Méditerranée) – 26 chap, 157 pwynt (11 cais, 42 trosiad, 6 gôl gosb)
Alichia Arries (Western Province) – 10 cap, 25 pwynt (5 cais)
Maceala Samboya (Boland Dames) – 11 cap, 25 pwynt (5 cais)
Aphiwe Ngwevu (Border Ladies) – 36 chap, 85 pwynt (17 cais)
Shiniqwa Lamprecht (Boland Dames) – 3 chap, 0 pwynt
Naima Hlatshwayo (Bulls Daisies) – 3 chap, 10 pwynt (2 gais)
Patience Mokone (SA Rugby) – 5 cap, 20 pwynt (4 cais)
Maria Tshiremba (SA Rugby) – 1 cap, 15 pwynt (3 chais)
Ayanda Malinga (SA Rugby) – 20 cap, 85 pwynt (17 cais)
Libbie Janse van Rensburg (SA Rugby) – 35 cap, 221 pwynt (14 cais, 56 trosiad, 12 gôl gosb, 1 gôl adlam)
Unam Tose (Bulls Daisies) – 32 cap, 17 pwynt (3 chais, 1 trosiad)
Anacadia Minnaar (EP Queens) – 9 cap, 3 phwynt (1 gôl gosb)

Blaenwyr (17)
Xoliswa Khuzwayo (Golden Lions) – 14 cap, 10 pwynt (2 gais)
Sanelisiwe Charlie (Bulls Daisies) – 33 chap, 10 pwynt (2 gais)
Yonela Ngxingolo (Bulls Daisies) – 47 cap, 20 pwynt (4 cais)
Nombuyekezo Mdliki (Border Ladies) – 16 cap, 10 pwynt (2 gais)
Babalwa Latsha (capten, Western Province) – 44 cap, 40 pwynt (8 cais)
Lindelwa Gwala (Sharks) – 41 cap, 90 pwynt (18 cais)
Anushka Groenewald (Western Province) – 11 cap, 0 pwynt
Micke Gunter (Caerlŷr) – 18 cap, 10 pwynt (2 gais)
Danelle Lochner (Harlequins) – 25 cap, 10 pwynt (2 gais)
Vainah Ubisi (Isuzu Bulls Daisies) – 27 cap, 45 pwynt (9 cais)
Nomsa Mokwai (Western Province) – 20 cap, 0 pwynt
Catha Jacobs (Golden Lions) – 31 cap, 5 pwynt (1 cais)
Sizophila Solontsi (SA Rugby) – 36 chap, 50 pwynt (10 cais)
Sinelitha Noxeke (Bulls Daisies) – 9 cap, 5 pwynt (1 cais)
Lerato Makua (SA Rugby) – 20 cap, 20 pwynt (4 cais)
Logan Welman (Western Province) – 6 chap, 25 pwynt (5 cais)
Aseza Hele (Boland Dames) – 35 cap, 85 pwynt (17 cais)

Related Topics