Mae Prif Hyfforddwr Menywod Cymru, Sean Lynn yn gwybod bod angen i’w dîm ddangos cynnydd yn y WXV eleni wrth i’w hymgyrch ddechrau yn erbyn De Affrica ar Barc yr Arfau heno (18 Medi – 7.15pm),
Hon yw’r gyntaf o bedair gêm y bydd Lynn a’i dîm yn eu chwarae yn erbyn gwrthwynebwyr sydd yn uwch na nhw ar restr y detholion ar hyn o bryd yng Nghyfres WXV Vodafone Cymru.
Mae Lynn unwaith eto wedi enwi Kate Williams ac Alex Callender yn gyd-gapteiniaid, a bydd Amy Williams, sgoriodd ddau gais yn y fuddugoliaeth dros y Barbariaid yn y gêm ddi-gap dros yr haf, yn ennill ei chap llawn cyntaf honno – y 10fed cap newydd yn ystod teyrnasiad Sean Lynn.
Fe all y ffigwr hwnn godi i 12 erbyn diwedd y noson gan fod y bachwr Shanelle Williams a’r prop Elan Jones yn dechrau ar y fainc.
Er nad yw’r Springboks wedi curo Cymru ar y llwyfan rhyngwladol hyd yma – maen nhw wedi ennill chwech o’u hwyth gêm hyd yma eleni.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru:“Bod yn gystadleuol a dangos gwelliant pellach yw’r prif nod yn erbyn De Affrica ac ry’n ni wedi paratoi’n galed a thrylwyr iawn ar gyfer y Gyfres yma.
“Rwy’n hyderus bod tipyn mwy o ddyfnder yn ein carfan erbyn hyn ac mae chwaraewyr sydd wedi dal ein sylw, fel Amy, yn cael eu cyfle – sydd wedyn yn rhoi gobaith i rai eraill o’r chwaraewyr iau.
“Mae hi’n edrych yn fygythiad cyson wrth ymarfer a gobeithio y gall hi ddangos ei doniau ar Barc yr Arfau, fel y gwnaeth hi yn Twickenham yn erbyn y Barbariaid.”
Mae Lynn hefyd wedi gwneud y penderfyniad beiddgar o chwarae’r mewnwr profiadol Keira Bevan yn safle’r maswr. Mae hynny wedi caniatáu iddo ddechrau Seren Lockwood yn safle arferol Bevan.
Nid yw Kayleigh Powell, Carys Cox na Nel Metcalfe yn holliach, ac o ganlyniad bydd Freya Bell, sydd ond wedi ennill dau gap hyd yma, yn ymuno â Courtney Keight yng nghanol cae:
“Fel tîm hyfforddi, ry’n ni wedi bod yn canolbwyntio’n ddiflino ar godi safon ein chwarae. Mae’r chwaraewyr a’r staff wedi bod yn gweithio mor galed dros yr wythnosau diwethaf ac mae’n gyffrous iawn dechrau’r ymgyrch hon yn erbyn tîm corfforol iawn,” ychwanegodd Lynn.
“Ry’n ni eisiau ennill gemau wrth gwrs, ond y flaenoriaeth gyntaf yw gwneud yn siwr ein bod ni’n wirioneddol gystadleuol am yr 80 munud. Mae’r garfan erbyn hyn yn fwy ffit a bydd angen i ni fod ar ein gorau yn erbyn De Affrica.
“Mae eu sgrym nhw yn hynod o gryf, fel y dangoson nhw yn erbyn Seland Newydd yn ddiweddar. Oherwydd hynny bydd yn rhaid i ni gadw’n disgyblaeth ym mhob agwedd o’n chwarae.
“Bydd angen i ni hefyd ddangos mwy o barch at ein meddiant ein hunain. Doedden ni ddim yn ddigon da am wneud hynny yn y Chwe Gwlad.
“Ry’n ni’n gobeithio dechrau’n gryf yn y gêm gan bod momentwm mor allweddol ar y maes chwarae.
“Rydw i a gweddill y garfan yn edrych ymlaen yn fawr at y gêm ar Barc yr Arfau a’r tair gêm arall yn y Gyfres hefyd.”
