News

Long yn gweld gwir werth ac addewid Super Rygbi Cymru

Rhys Long

Dim ond ers ychydig fisoedd y mae Rhys Long wedi bod yn ôl yng Nghymru yn ei rôl newydd fel Cyfarwyddwr Technegol Undeb Rygbi Cymru, ond mae eisoes wedi nodi bod Super Rygbi Cymru yn allweddol i lwyddiant y gêm gyfan yn y dyfodol.

Fr dreuliodd Long fwy nag wyth mlynedd fel Prif Ddadansoddwr Perfformiad Cymru tra roedd Warren Gatland wrth y llyw ac fe deithiodd yn sgîl ei waith ar ddwy daith gyda’r Llewod hefyd.

Ar ôl gadael Cymru, treuliodd Rhys Long ddegawd yn gweithio gyda Chymdeithas Pêl-droed Lloegr ac ers dychwelyd adref mae am ddefnyddio’r holl wybodaeth a phrofiad hwnnw i sicrhau bod Super Rygbi Cymru, sy’n dechrau ei drydydd tymor yfory (12 Medi), yn creu’r bont berffaith rhwng y timau rhyngwladol iau, yr academïau rhanbarthol a’r timau rhanbarthol eu hunain.

Un o’i flaenoriaethau pendant yw sicrhau bod Super Rygbi Cymru yn parhau i dyfu o ran dwyster, pwysigrwydd a statws:

“Mae Super Rygbi Cymru yn hollbwysig wrth helpu ein chwaraewyr ifanc i ddatblygu. Ers ei sefydlu, ry’n ni wedi gweld safon y gystadleuaeth yn gwella’n sylweddol.

“Mae’n cynnig cyfle enfawr i ni ddatblygu ein chwaraewyr. Mae’r safon yn arbennig, ac mae cydbwysedd da i’w gael o safbwynt chwaraewyr profiadol a rhai o’n talentau ifanc mwyaf addawol. Ry’n ni’n gweld rhai o’n doniau mwyaf disglair o dan 20 yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth ac mae nifer fawr o chwaraewyr sy’n iau na 23 oed yn chwarae’n gyson yn yr SRC – ac mae hynny’n beth da i ddyfodol rygbi Cymru.

“Mae pob chwaraewr yn datblygu ar gyflymder gwahanol wrth gwrs ac ar lefelau gwahanol o’r gamp hefyd. Oherwydd hynny mae’n rhaid i ni sicrhau bod y gystadleuaeth hon yn cynnig y lefel addas o her i’r rhai sy’n cymeyd rhan ynddi, gan ar yr un pryd gynnig digon o gyfleoedd i’n chwaraewyr addawol.

“Mae’r cynghrair yn allweddol i’n llwybrau datblygu, gan ei fod yn ein galluogi i feithrin talent ifanc a’n helpu i arwain ein chwaraewyr i gamu i’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig. Y nod yn y pendraw wrth gwrs yw y bydd y chwaraewyr wedyn yn cael y cyfle i gynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol yn Stadiwm Principality.

“Ry’n ni wedi gweld hynny’n digwydd yn barod. Mae hyfforddwyr a chwaraewyr yn defnyddio cystadleuaeth Super Rygbi Cymru fel cam cadarnhaol sy’n eu paratoi ar gyfer rygbi rhanbarthol.”

Bu digon o dystiolaeth o hynny yn ystod y tymhorau diwethaf – Tom Bowen a Steff Emanuel yng Nghaerdydd, Carwyn Leggatt-Jones a Macs Page gyda’r Scarlets, Evan Minto gyda’r Dreigiau a Dan Edwards gyda’r Gweilch.

Mae safon y chwaraewyr sydd wedi cynrychioli Cymru ar lefel dan 20 dros y tri neu bedwar tymor diwethaf wedi bod yn uchel iawn, ac mae hynny i raddau helaeth oherwydd y profiad ychwanegol maen nhw wedi’i gael drwy chwarae yn Uwch Gynghrair Indigo ac, erbyn hyn yn Super Rygbi Cymru, sy’n mynd o nerth i nerth:

“Mae gennyf dipyn o brofiad yn y maes adnabod talent ac rydw i’n hyderus bod ganddon ni chwaraewyr yn y cynghrair yma sy’n mynd i gynrychioli’n gwlad ar lefel ryngwladol,” ychwanegodd Long.

“Mae’n rhaid i ni wneud yr SRC mor gystadleuol â phosibl a sicrhau dwyster gwirioneddol ym mhob un o’r gemau. Wrth godi’r safon a’r proffesiynoldeb o amgylch y gystadleuaeth, bydd hynny’n paratoi’r chwaraewyr i gamu lan i’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig, y cystadlaethau Ewropeaidd a’r llwyfan rhyngwladol.

“Wrth gymryd rhan yn Super Rygbi Cymru mae chwaraewyr ifanc yn gorfod chwarae dan gryn bwysau, lle mae’n rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau mewn eiliad – a dysgu o’r camgymeriadau sy’n siwr o ddilyn hynny ar y dechrau. Er mor heriol yw hynny ar y pryd, mae’n eu paratoi i lwyddo ar y lefel nesaf.

“Wrth symud ymlaen, ry’n ni am sicrhau bod hyd yn oed mwy o chwaraewyr ifanc yn cael digon o amser ar y maes yng ngemau Super Rygbi Cymru – gan y bydd hynny’n eu paratoi’n dda i bontio i’r lefel nesaf.”

Macs Page
Mae Macs Page wedi cynrychioli Llanymddyfri’n gyson yn Super Rygbi Cymru

Mae nifer o glybiau mwyaf hanesyddol ac adnabyddus Cymru’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth – sy’n cynnwys 10 tîm unwaith eto’r tymor hwn.

Eleni bydd Aberafan a Chaerdydd yn dathlu eu pen-blwydd yn 150 oed, tra bod Abertawe, Cwins Caerfyrddin a Chasnewydd eisoes wedi cyrraedd y garreg filltir honno:

“Mae’n gystadleuaeth wych sydd â threftadaeth anhygoel. Wrth ymweld â’r clybiau, ry’ch chi’n teimlo’r hanes a phwysigrwydd hynny ar unwaith, yn ogystal â faint mae’r gêm yn ei olygu i’w cymunedau lleol.

“Er bod angen i’r cynghrair fod yn broffesiynol ei naws ac yn gynnyrch cyfoes – mae’n rhaid i ni fanteisio ar y cysylltiad hanesyddol dwfn hwnnw sy’n bodoli rhwng y clybiau a’u cymunedau gan ei fod yn meithrin gwir ymdeimlad o berthyn i rygbi Cymru.

“Bydd cryn dipyn o fy amser y tymor yma’n cael ei dreulio’n asesu’r talent sy’n dod drwy’r rhengoedd yn Super Rygbi Cymru a safon cyffredinol y gystadleuaeth hefyd wrth gwrs.

“Ers i mi ymuno â’r Undeb ychydig fisoedd yn ôl, rydw i wedi bod yn teithio ledled Cymru’n asesu’r lefelau talent gan hefyd nodi pa welliannau sydd eu hangen yn y system. Y nod yw sicrhau bod digon o dalent cyson ar gael i ni – all ffynnu ar y llwyfan rhyngwladol dros y pum i ddeng mlynedd nesaf.

“Ry’n ni eisoes yn gweld tystiolaeth bod ein clybiau proffesiynol yn ymddiried yn yr SRC i ddarparu’r safon angenrheidiol er mwyn datblygiad eu chwaraewyr ifanc. Mae digonedd o dalent gwirioneddol i’w weld yn Super Rygbi Cymru ac yng ngharfan dan 20 Cymru hefyd.

“Ein gwaith ni yw cynnig pob cyfle a chefnogaeth i’n doniau ifanc mwyaf disglair hynny, fel y gallan nhw ddatblygu’n chwaraewyr proffesiynol o’r safon uchaf ac yn chwaraewyr rhyngwladol dros Gymru.”

Related Topics