Mae Clwb Rygbi Caerloyw wedi cadarnhau mai Dewi Lake fydd capten y clwb ar gyfer tymor 2026/27.
Fe ymunodd Lake, sy’n 27 oed, â chlwb Kingsholm dros yr haf. Mae wedi bod yn gapten ar Gymru ar 22 achlysur hyd yma, gan gynnwys gemau mwyaf diweddar ei wlad ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd ym mis Gorffennaf.
Bydd ganddo ddau is-gapten i’w gefnogi yng Nghaerloyw, sef ei gyd-chwaraewr rhyngwladol gyda Chymru, Jac Morgan, a chanolwr Lloegr, Seb Atkinson.
Lake yw’r diweddaraf i arwain clwb enwog Kingsholm ac mae’n hynod o falch o dderbyn y cyfle hwnnw: “Mae’n anrhydedd enfawr cael fy enwi’n gapten ar Gaerloyw. Nid yn unig oherwydd hanes cyfoethog y clwb, ond hefyd am y ffaith fy mod yn cael y cyfle i arwain y grŵp arbennig o dalentog, brwdfrydig a chyffrous yma o chwaraewyr.
“Dwi’n ddiolchgar i’r tîm hyfforddi am ddangos ffydd ynof a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at arwain y grŵp, gyda chyngor ac arweiniad y cymeriadau cryf sydd eisoes yma yn y clwb.”
Ychwanegodd Prif Hyfforddwr Caerloyw, George Skivington: “Mae profiad Dewi fel arweinydd yn amlwg i bawb, ac ry’n ni wrth ein bodd ei fod wedi derbyn y cyfle yma i’n harwain y tymor hwn.
“Roedd yn bwysig i ni aros nes bod y garfan gyfan wedi cael ychydig wythnosau i ymarfer yn llawn gyda’i gilydd cyn i ni wneud ein penderfyniad.
“Roedd y broses o ddewis yr arweinyddiaeth yn cynnwys gwrando ar farn y garfan gyfan – ac hefyd y tîm hyfforddi wrth gwrs. Gwnaed y penderfyniad wrth i ni ystyried pwy oedd yn y sefyllfa orau i arwain y tîm yma ymlaen drwy’r tymor yma a thu hwnt i hynny hefyd.”
