News

Kate a Kelsey'n credu y dylai Cymru fod wedi curo'r Eryrod

Kate Williams ar rediad yn erbyn yr Unol Daleithiau

Er i Gymru golli o ddeubwynt yn erbyn yr Unol Daleithiau ar Barc yr Arfau yng Nhyfres WXV Vodafone Cymru, roedd cyd-gapten y tîm cartref Kate Williams yn credu y dylai ei thîm fod wedi curo’r Eryrod – ond bydd y profiad poenus o golli yn erbyn chweched detholion y byd yn ysgogi’r garfan i wella ymhellach:

“Mae pawb yn y garfan mor benisel ein bod wedi colli heddiw – ond mae hynny’n arwydd pendant o’n gwelliant yn ddiweddar. Roedden ni yn yr ornest tan yr eiliadau olaf ac mae’n rhaid i ni gadw’n disgyblaeth hyd at y diwedd un i osod ein hunain mewn sefyllfa i ennill y gêm.

“Fe fethon ni â gwneud hynny heddiw – ond y tro nesaf y byddwn ni mewn sefyllfa debyg fe wnawn ni fanteisio i’r eithaf ar hynny.

“Diolch i bawb ddaeth i’n cefnogi. Roedd yr awyrgylch heddiw’n wych ac yn gymaint o hwb i’r merched.

“Mae’n rhaid i ni edrych ymlaen at y daith i Japan nawr – ac fe wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i wella ein perfformiadau ymhellach ar y daith honno.”

26.09.26.  Kelsey Jones yn sgorio’i hail gais o’r Gyfres

Ychwanegodd y bachwr Kelsey Jones, sgoriodd un o bedwar cais hanner cyntaf Cymru: “Ry’n ni gyd mor siomedig gan y dylen ni fod wedi ennill yn erbyn un o chwe thîm gorau’r byd heddiw. Er bod yn rhaid i ni longyfarch yr Unol Daleithiau wrth gwrs, dwi’n credu iddyn nhw fanteisio ar ein camgymeraidau ni – ac mae’n rhaid i ni wella ar hynny.

“Dwi wedi bod yn y garfan ers sbel erbyn hyn – ac mae’r hunan gred a’r ffydd sydd ganddon ni yn ein gilydd yn gadarn. Mae’n rhaid i ni ddiolch i’n tîm hyfforddi i raddau helaeth iawn am hynny – ac felly dwi’n siwr bod llawer iawn mwy i ddod ganddon ni.”

Related Topics