News

Hancock eisiau i Bont-y-pŵl ddechrau'n dda ar Barc yr Arfau

Pontypool head coach Tom Hancock
Tom Hancock

Mae Prif Hyfforddwr Pont-y-pŵl, Tom Hancock, wedi disgrifio perfformiad ei dîm yn yr hanner cyntaf yn erbyn Pen-y-bont y penwythnos diwethaf fel un ‘annerbyniol’ – ond mae’n hyderus y daw tro ar fyd wrth i’w dîm deithio i  Barc yr Arfau i wynebu Caerdydd heno (dydd Gwener, 25 Medi).

Roedd colled ei dîm o 50-38 yn erbyn Penybont yn fwy rhwystredig fyth i Hancock gan i’w garfan guro’r Pencampwyr presennol, Llanymddyfri, ar benwythnos agoriadol tymor newydd Super Rygbi Cymru wythnos ynghynt.

Dywedodd Tom Hancock: “Roedd y perfformiad yn yr hanner cyntaf yn erbyn Penybont yn annerbyniol. Doedd ganddon ni ddim digon o egni yn ein chwarae, roedden ni’n araf wrth symud y bêl ac fe wnaethon ni ormod o gamgymeriadau hefyd.

“Mae’n amlwg i bawb wrth edrych ar faint o bwyntiau ry’n ni wedi eu hildio ar y ddau benwythnos cyntaf, fod yn rhaid i ni wella wrth amddiffyn. Ry’n ni hefyd yn gobeithio troi mwy o’n cyfleoedd i mewn i geisiau’r penwythnos yma.

“Doedden ni ddim yn ddigon corfforol na chywir yn ardal y dacl yn erbyn Penybont chwaith ac ry’n ni wedi gweithio ar yr elfennau hynny wrth baratoi i wynebu Caerdydd.”

Roedd ymdrech Pont-y-pŵl i daro’n ôl yn yr ail hanner yn drawiadol ond ychydig yn rhy hwyr yn y pendraw. Fe sgoriodd ‘Pooler’ dri chais mewn cyfnod o saith munud o ganlyniad i ymdrechion yr eilydd Dan Hill, y maswr Evan Lloyd a’r asgellwr Rhys Cole. Fe ddaeth hynny â bechgyn Tom Hancock yn ôl o fewn pum pwynt i Ben-y-bont gydag amser am un ymdrech olaf i gipio’r fuddugoliaeth.

Ond yr ymwelwyr – a’u hasgellwr Mccauley Rowley yn benodol – gafodd y gair olaf wrth iddo groesi am ei drydydd cais o’r prynhawn.

Ychwanegodd Hancock: “Ro’n i’n falch iawn gydag ymateb y bechgyn ar ôl yr egwyl ac roedden ni’n dîm gwahanol yn yr ail hanner.

“Roedd y ffaith ein bod wedi llusgo ein hunain yn ôl i mewn i’r gêm yn dipyn o gamp – ac er na lwyddon ni i ennill, fe ddanoson ni lawer o galon a ffydd yn ein gilydd i frwydro tan y chwiban olaf.

“Fe wnaeth nifer o’n heilyddion greu argraff y Sadwrn diwethaf a bydd ambell un yn siwr o gael cyfle i ddechrau ar Barc yr Arfau.

“Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau’n dda yng Nghaerdydd, a does unman gwell i wneud hynny nag o dan y llifoleuadau ar Barc yr Arfau. Fe lwyddon ni i ennill yno yn y Cwpan y tymor diwethaf, felly does gan y garfan ddim i’w ofni.”

Bydd Casnewydd, sydd heb golli hyd yma, yn croesawu Aberafan heno, tra bydd y tair gêm arall yn cael eu chwarae yfory (Sadwrn, 26 Medi). Bydd Llanymddyfri yn teithio i Ben-y-bont, bydd Glyn Ebwy, sydd ar frig y tabl, yn croesawu Rygbi Gogledd Cymru, a bydd Cwins Caerfyrddin ac Abertawe yn chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf wrth iddyn nhw gyfarfod ym Mharc Caerfyrddin.

Related Topics