News

Diweddariad Carfan - Cyfres WXV Vodafone Cymru

Sian Jones, Savannah Picton-Powell a Nia Fajeyisan
Sian Jones, Savannah Picton-Powell a Nia Fajeyisan

Mae’r mewnwr Sian Jones, y canolwr Savannah Picton-Powell a’r asgellwr Nia Fajeyisan wedi eu galw i’r garfan genedlaethol ar gyfer Cyfres WXV Vodafone Cymru.

Bydd dwy gêm gartref Cymru’n y gystadleuaeth yn cael eu cynnal ar Barc yr Arfau’n ystod y bythefnos nesaf.

O ganlyniad i anafiadau, bu’n rhaid i Donna Rose (pigwrn) a’r canolwyr Kelsie Webster (llaw) a Hannah Tudor (troed) dynnu yn ôl o’r garfan.

Bydd Cymru’n croesawu De Affrica a’r Unol Daleithiau ar gyfer eu dwy gêm gartref yng Nghyfres WXV Vodafone Cymru cyn teithio i chwarae dwy Gêm Brawf yn Japan.

Mae Picton-Powell (Brython Thunder) a Fajeyisan (Gwalia Lightning) wedi cynrychioli eu clybiau Cymreig yn yr Her Geltaidd ond tydyn nhw heb ennill capiau dros eu gwlad hyd yma.

Related Topics