News

Cerdyn coch 20 munud i’w ddefnyddio yn Super Rygbi Cymru

Steffan Emanuel
Mae Super Rygbi Cymru wedi bod yn fuddiol i Steff Emanuel ac eraill

Bydd Super Rygbi Cymru yn cyflwyno’r cerdyn coch 20 munud o ddechrau tymor 2026/27 ymlaen.

Mae’r cerdyn 20 munud yn dangos gwahaniaeth rhwng chwarae peryglus anghyfreithlon a gweithredoedd bwriadol o drais neu ymddygiad treisgar.

O dan y system newydd, gall y dyfarnwr ddangos cerdyn coch 20 munud pan fydd trosedd yn cyrraedd y trothwy ar gyfer cerdyn coch, ond sydd ddim yn cael ei ystyried yn weithred fwriadol o drais neu ymddygiad treisgar.

Ni fydd y chwaraewr sydd wedi troseddu yn cymryd unrhyw ran pellach yn y gêm, tra bydd ei dîm yn chwarae gyda 14 chwaraewr am gyfnod o 20 munud.

Ar ôl i’r 20 munud hwnnw ddod i ben, bydd y tîm yn cael dod ag eilydd ymlaen yn lle’r chwaraewr sydd wedi’i ddanfon o’r maes – gan olygu eu bod yn dychwelyd at 15 o chwaraewr.

Bydd pob achos o gerdyn coch yn parhau i gael eu hystried yng nghyd-destun y broses ddisgyblu arferol.

Mae troseddau all arwain at gerdyn coch 20 munud yn cynnwys cyswllt uchel peryglus, rycio a chlirio sgarmesi’n beryglus, a thaclo sy’n cynnwys lefel uchel o berygl.

Cerdiau coch parhaol yn parhau

Bydd cerdiau coch parhaol yn parhau i gael eu rhoi am weithredoedd bwriadol o drais neu ymddygiad treisgar.

O dan yr amgylchiadau hynny, ni fydd y chwaraewr sydd wedi troseddu yn cymryd unrhyw ran pellach yn y gêm ac ni ellir dod ag eilydd ymlaen yn ei le, sy’n golygu y bydd ei dîm yn chwarae gyda 14 chwaraewr am weddill y gêm.

Gall dyrnu, taro, sathru a chyswllt â’r llygad neu ardal y llygad arwain at gerdyn coch parhaol.

Bydd y system newydd yn digwydd yng ngemau Super Rygbi Cymru 2026/27, a bydd canllawiau clir yn cael eu rhoi i glybiau a dyfarnwyr y gêm cyn dechrau’r gystadleuaeth.

Sut bydd dyfarnwyr yn dangos bod cerdyn coch 20 munud wedi ei roi?

Bydd y dyfarnwr yn arwyddo cerdyn coch 20 munud drwy groesi ei freichiau o flaen ei frest a dal y cerdyn coch uwch ei ben.

Mae cyflwyno’r cerdyn coch 20 munud yn rhan o ddatblygiad parhaus Super Rygbi Cymru a’i uchelgais i arddangos a gweithredu’r safonau a’r datblygiadau arloesol sy’n cael eu gweld yn y gêm broffesiynol.

Cysondeb Penderfyniadau Super Rygbi Cymru

Y dyfarnwr fydd yn penderfynu ar y gosb briodol, gyda chefnogaeth y cyd-swyddogion yn y gêm lle bo angen hynny.

Wrth ofalu am gemau Super Rygbi Cymru, bydd gan y dyfarnwyr dair cosb bosib ar gael iddyn nhw ar gyfer chwarae anghyfreithlon ar y cae:

  • Cerdyn melyn
  • Cerdyn coch 20 munud
  • Cerdyn coch parhaol

Bydd hyn yn darparu fframwaith cyson yn y gystadleuaeth, gan gynnal gwahaniaeth clir rhwng chwarae anghyfreithlon peryglus neu ddi-hid a gweithredoedd bwriadol o drais.

 

Related Topics