Llwyddodd Menywod Cymru i barhau â’u record gampus yn erbyn De Affrica wrth iddyn nhw guro’r Springboks o 50-19 ar Barc yr Arfau yng ngêm gartref gyntaf carfan Sean Lynn yng Nghyfres XVV Vodafone Cymru.
Gosodwyd y sylfaen i’r fuddugoliaeth galonogol hon yn ystod yr hanner cyntaf wrth i’r tîm cartref sgorio 6 o’u 8 cais ar y noson.
Mae’r Crysau Cochion bellach wedi ennill 7 o’u 8 cyfarfyddiad rhwng y ddwy wlad mewn gemau â chapiau.
Roedd y ffaith bod De Affrica dri safle’n uwch na’r Cymry ar ddechrau’r ornest yn bluen ychwanegol yng nghap carfan Cymru.
Yn ystod yr wythnos cafodd Courtney Keight ei dewis yn Chwaraewr y Flwyddyn gan Ysgrifenwyr Rygbi Cymru ac wedi dim ond 5 munud o chwarae roedd y canolwr wedi croesi am ei hail gais rhyngwladol i roi dechrau campus i’w thîm.
Ar achlysur ei dechreuad cyntaf yn y Crys Coch, llwyddodd Freya Bell i droi’r cais yn drosgais.
Bedwar munud wedi hynny, fe drodd y dechrau da yn ddechrau arbennig wrth i bas berffaith Georgia Evans agor y llwybr i Sisilia Tuipulotu redeg yn ddiwrthynebiad o dan y pyst am y cyntaf o’i dau gais hi, wnaeth gwaith Bell o drosi am yr eildro’n hynod hawdd.
Gan bod De Affrica wedi ennill 6 o’u 8 gêm ryngwladol eleni, roedd disgwyl iddyn nhw ddangos eu dannedd a dangos eu grym.
Cafwyd enghraifft amlwg iawn o hynny wedi 16 munud o’r gêm wrth i’w pac wthio Cymru’n ôl o sgrym 5 ac roedd y mewnwr Felicia Jacobs yno i fanteisio i’r eithaf ar y meddiant.
Ond mewnwr Cymru Seren Lockwood gafodd sgôr nesaf yr ornest gyffrous hon wedi i gic bwt ddyheig Neumann a hyrddiad Amy Williams wneud ei gwaith hi o groesi’n gymharol syml.
Gan fod tacl y bachwr Lindelwa Gwala yn anghyfreithlon wrth iddi geisio atal Lockwood rhag tirio – 10 munud yn y cell cosb oedd ei thynged.
Yn ystod y cyfnod hwnnw o gael chwaraewr ychwanegol – llwyddodd y Crysau Cochion i ychwanegu 7 pwynt pellach wrth i’r prop Maisie Davies dirio’i chais cyntaf dros ei gwlad ac wrth i Bell drosi’n gywir am y trydydd tro.
Fe wnaeth y Prif Hyfforddwr, Sean Lynn benderfyniad mawr wrth ddewis y mewnwr arferol Keira Bevan, oedd wedi ennill 83 o gapiau, fel maswr am y tro cyntaf ar gyfer yr ornest hon.
Gyda 10 munud o’r cyfnod cyntaf yn weddill, roedd hi’n ôl yn ei safle arferol wedi i Lockwood orfod gadael y maes.
Eiliadau’n unig wedi i hynny ddigwydd roedd Kelsey Jones, oedd eisoes wedi gweld ei phropiau’n sgorio ceisiau, wedi hyrddio ei hun dros y gwyngalch am 5ed cais y Crysau Cochion – ac fe aeth pethau o ddrwg i waeth i’r ymwelwyr gyda 5 munud o’r cyfnod cyntaf ar ôl.
Wedi i glo De Affrica Danelle Lochner daclo Kate Williams yn beryglus, penderfynodd y tîm dyfarnu’n y pendraw bod y drosedd honno’n haeddu cerdyn coch – ac felly roedd gan Gymru chwaraewr o fantais am 20 munud.
Dim ond munud gymrodd hi i Lisa Neumann ddod o hyd i’r gwagle oedd angen arni i garlamu am 6ed cais y Cymry’n y cyfnod cyntaf ac wedi pedwerydd trosaid Bell, roedd gan garfan Sean Lynn 33 pwynt o fantais wrth droi.

Hanner Amser: Cymru 38 De Affrica 5
Fel y gwnaethon nhw’n y cyfnod cyntaf, fe ddechreuodd y Cymry’r ail hanner ar dân hefyd. Gwta ddau funud wedi’r ail-ddechrau, roedd Sisilia Tuipulotu wedi hawlio’i hail gais o’r ornest wrth i’r prop poblogaidd godi ei chyfanswm pwyntiau personol dros ei gwlad i hanner cant.
Tro De Affrica oedd hi i ddangos eu doniau am gyfnod wedi hynny, ac wrth i’r asgellwr Maria Tshiremba sgorio’n y gornel dde – roedd hi wedi tirio’i phedwerydd cais mewn dim ond dwy gêm dros ei gwlad.
Wedi chwarter awr o chware’n yr ail hanner, llwyddodd y canolwr Maceala Samboya i gau’r bwlch ymhellach a gan bod Byrhandré Dolf wedi llwyddo trosi’r ddau gais hwnnw, roedd cyfanswm pwyntiau’r ymwelwyr wedi codi’n sydyn i 19.
Ond noson Cymru oedd hi fod a gyda 12 munud yn weddill roedd y cyd-gapten a Seren y Gêm, Alex Callender wedi sgorio 8fed cais ei gwlad o’r noson a chodi cyfanswm ei thîm i hanner can pwynt.
Parhau wnaeth y dathlu ym munudau olaf yr ornest wrth i Elan Jones a Shanelle Williams gamu o’r fainc i ennill eu capiau cyntaf dros Gymru.
Noson fythgofiadwy iddyn nhw a noson orau teyrnasiad Sean Lynn heb os hyd yn hyn.
Bydd y Prif Hyfforddwr yn gobeithio am berfformiad tebyg yr wythnos nesaf wrth i’r garfan ddychwelyd i Barc yr Arfau nos Sadwrn (Medi 26) er mwyn croesawu’r Unol Daleithiau, cyn cwblhau eu hymgyrch yn y WXV am eleni wrth chwarae dwy gêm brawf yn Japan.
Canlyniad: Cymru 50 De Affrica 19
Wedi i’r gêm ddod i ben dywedodd y cyd-gapten Alex Callender: “Dwi mor falch o bob un o’r merched heno. Mae’r sgôr yn adlewyrchiad teg o’r holl waith caled ry’n ni wedi ei wneud yn ddiweddar ond mae’n rhaid i ni gofio mai un cam ymlaen yw hwn – ond mae’n gam pendant iawn.
“Mae’r garfan yma wedi cael ein beirniadu tipyn wrth i ni geisio adeiladu – ac felly ry’n ni wedi anwynyddu’r feirniadaeth o’r tu allan.
“Mae gennyf ffydd enfawr yn y merched ac mae’r canlyniad yma’n mynd i roi llawer iawn o hyder i ni wrth i ni edrych tua’r dyfodol.”
Ychwanegodd y cyd-apten arall, Kate Williams: “Ry’n ni’n hynod o unedig fel carfan. Mae’r gwaith diflino y mae pob un o’r merched wedi ei wneud dros yr wythnosau diwethaf yn anhygoel ac mae gweld y gwaith hwnnw’n troi mewn i ganlyniad mor gadarnhaol heno’n rhoi pleser a hyder mawr i ni.”
Dywedodd y Prif Hyfforddwr, Sean Lynn: “Dwi mor falch dros y chwaraewyr a’r staff. Roedd ein bwriad ni’n glir o’r chwiban gyntaf heno. Mae hunaniaeth y garfan yma’n dechrau amlygu ei hun ar y cae a dwi eisiau i fwy o bobl ddod gyda ni ar y siwrnai gyffrous sydd o’n blaenau – gan ddechrau yn erbyn yr Unol Daleithiau nos Sadwrn nesaf.”
Ychwaneodd Georgia Evans: “Bydd her yr Unol Daleithiau’r wythnos nesaf yn wahanol iawn – gan eu bod nhw’n debygol o geisio lledu’r bêl dipyn mwy na De Affrica. Ond byddwn yn dal ati i weithio’n galed yr wythnos nesaf hefyd fel ein bod yn gallu gwneud popeth o fewn ein gallu i berfformio’n dda am ddwy gêm yn olynol.”
