News

Buddugoliaeth gynta'r tymor i Bencampwyr SRC

Rhyddhad i Euros Evans

Tri chynnig medd yr hen air – ac yn eu trydedd gêm o dymor newydd Super Rygbi Cymru, llwyddodd y Pencampwyr presennol, Llanymddyfri, i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o’u hymgyrch.

Er mai 13 o chwaraewyr oedd ganddyn nhw am y munudau olaf – llwyddodd bechgyn Euros Evans i ddal eu gafael ar eu buddugoliaeth o 29-26 yn erbyn Pen-y-bont ar Faes y Bragdy.

Aeth y tîm cartref ar y blaen ddwywaith yn ystod yr hanner cyntaf, drwy geisiau cyn-flaenwyr dan 20 Cymru, Benji Williams a Nathan Evans, a dau drosiad cywir Fraser Jones.

Ond sgoriodd asgellwr y Porthmyn, Kian Abraham, ddau gais, cyn i’r prop pen rhydd Dino Dallavalle hefyd ddod o hyd i’r llinell gais. Gan i Ioan Hughes ychwanegu pedwar pwynt gyda’i droed, roedd gan Lanymddyfri fantais o 19-14 erbyn yr egwyl.

Yn fuan wedi troi – agorwyd y bwlch rhwng y timau i bymtheg pwynt wedi i’r capten Joe Powell hawlio’i gais a phwynt bonws yn y broses hefyd – cyn i anel gywir Hughes barhau.

Fe gafodd carfan Scott Baldwin wir gyfle i gipio’r fuddugoliaeth yn hwyr wedi i gerdiau melyn Isaac Murray-Macgregor ac Abraham olygu bod yr ymwelwyr yn gorfod chwarae’r chwe munud olaf ddau ddyn yn brin.

Er i Edd Howley groesi’n hwyr am gais – methodd Pen-y-bont â sicrhau’r cais hollbwysig arall oedd ei angen arnyn nhw i gipio’r fuddugoliaeth o fflamau’r tân – er mawr ryddhad i Brif Hyfforddwr Llanymddyfri, Euros Evans:

“Dwi’n falch iawn o sicrhau’r fuddugoliaeth gyntaf o’r tymor wrth gwrs. Fe chwaraeon ni rygbi rhagorol am 70 munud ac yna’n anffodus fe aeth pethau o chwith braidd. Wedi dweud hynny, fe ddangosodd yr 13 oedd yn dal ar y cae wir gymeriad yn ystod y munudau olaf – ac ar y cyfan, dwi’n credu ein bod yn llawn haeddu’r fuddugoliaeth.

“Mae Maes y Bragdy bob amser yn lle anodd i ddod iddo, ac felly mae’n rhaid i ni fod yn hapus gyda’r pum pwynt.”

Er i Lyn Ebwy ennill eu trydedd gêm nhw o’r tymor, roedd angen cais hwyr gan yr asgellwr Dafydd Thomas i gipio buddugoliaeth o 33-31 yn erbyn Rygbi Gogledd Cymru. Roedd Gwŷr y Dur ar y blaen yn gyfforddus o 28-3 am gyfnod, ond brwydrodd y gogs yn ôl i fynd ar y blaen o 31-28, cyn gorfod bodloni ar ddau bwynt bonws erbyn y chwiban olaf.

Y capten Ethan Phillips, y prop Luke Garrett (ar achlysur ei 150fed ymddangosiad), yr wythwr Ryan Jenkins a’r cefnwr Morgan Rees oedd sgorwyr eraill Glyn Ebwy. Ciciodd Harri Ford bedwar trosiad.

Dau gais wythwr yr ymwelwyr Sam Williams roddodd wynt yn hwyliau RGC ar ddechrau’r ail hanner, cyn i’r clo Huw Davies a’r mewnwr Tudur Jones groesi wedi hynny hefyd. Ychwanegodd Billy McBryde 11 pwynt gyda’i droed.

Parhau wnaeth dechrau campus Caerdydd i’r tymor wrth iddyn nhw faeddu Pont-y-pŵl yn gyfforddus o 43-5 ar Barc yr Arfau – a hawlio chwephwynt cynghrair. Sgoriwyd holl bwyntiau’r gêm yn yr hanner cyntaf, gan gynnwys saith cais y clwb cartref.

Sgoriodd y prop pen rhydd Ioan Emanuel ddau o’r rheiny, gyda’r asgellwr Joe Goodchild, y bachwr Tom Howe, y prop pen tynn Tom Harper, y blaen-asgellwr Gethyn Cannon a’r maswr Ben Coomer hefyd yn croesi. Ychwanegodd Coomer y trosiadau, tra sgoriodd wythwr yr ymwelwyr, Ben Williams gais cysur i Bont-y-pŵl.

Fe gafodd Alfie Luger dipyn o ail hanner i Cwins Caerfyrddin. Wedi i fewnwr ifanc y Scarlets gamu o’r fainc, fe sgoriodd dri chais wrth i dîm y Parc guro Abertawe o 43-35.

Roedd y ddau dîm yn chwilio am eu buddugoliaethau cyntaf o’r tymor ac roedd Abertawe ar y blaen 20-12 ar yr egwyl diolch i geisiau gan y cefnwr Lewis Edwards, yr asgellwr Iwan Glynn a’r chwaraewr-hyfforddwr Joe Thomas. Ychwanegodd Luke Price bum pwynt gyda’i droed.

Sgoriodd yr wythwr Lewys Millin a’r asgellwr Eilir George geisiau hanner cyntaf i’r Cwins, gydag Ifan Davies yn trosi un ohonyn nhw. Wedi troi fe hawliodd y canolwr Jack Hoskins bwynt bonws i Abertawe gan agor bwlch o 13 o bwyntiau rhwng y ddau dîm.

Ond sioe seren dan 18 Cymru, Luger, oedd hi wedi hynny gan i’r mewnwr deunaw oed groesi deirgwaith.

Llwyddodd y canolwr Gabe McDonald a’r clo Lee Taylor – ar achlysur ei 250fed ymddangosiad – i hawlio ceisiau hefyd .Trosodd McDonald dri o’r ceisiau hynny hefyd.

Er i Thomas ac Edwards sgorio eu hail geisiau o’r gêm dros y Gwynion, mae Abertawe bellach wedi colli eu tair gêm gyntaf o’r tymor.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi Cwins Caerfyrddin, Steff Thomas: “Roedden ni’n araf i ddechrau yn erbyn y gwynt cryf heddiw a doedd dim digon o egni yn ein chwarae. Gan ein bod yn dal o fewn cyrraedd erbyn hanner amser – roedd gobaith o hyd, ac fe ddaeth tro ar fyd wedi hynny.

“Alfie Luger a Joe Denman oedd y ddau oedd yn bennaf gyfrifol am roi’r egni oedd ei angen yn ein chwarae. Mae’n dipyn o beth i chwaraewr 18 oed newid gêm fel y gwnaeth Alfie.

“Fe fyddwn ni’n dysgu llawer o’r gêm yma, ond ry’n ni gyd yn gwybod y gallwn ni fod yn llawer gwell nag oedden ni heddiw.”

Related Topics