Mae datblygiad diweddar Branwen Metcalfe wedi bod yn syfrdanol – ac mae hi’n cofio’n iawn mai Clwb Rygbi Nant Conwy roddodd hi ar ben ffordd.
Er mai dim ond 19 oed yw hi o hyd – mae hi wedi cynrychioli ei gwlad yng Nghwpan y Byd, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ac yng nghyfres y WXV – a hynny i gyd o fewn cyfnod o flwyddyn.
Mae doniau Metcalfe wedi eu meithrin yn un o glybiau cymunedol mwyaf amlwg rygbi Cymru – Clwb Rygbi Nant Conwy.
Dros y blynyddoedd mae nifer o feithrinfeydd pwysig wedi bodoli yng nghamp y dynion gan gynnwys Coleg Llanymddyfri, Ysgol Gyfun Brynteg, Coleg Crist Aberhonddu, Ysgol Glantaf, Coleg y Cymoedd a Choleg Sir Gâr, heb anghofio rhai clybiau cymunedol fe Trebannws, Gorseinon a’r Beddau.
Ond o safbwynt gêm y merched a’r menywod, mae clwb ‘Nant’ – sydd wedi’i leoli rhwng tref farchnad Llanrwst a phentref Trefriw yn Nyffryn Conwy – yn feithrinfa ddylanwadol ac allweddol iawn.
Wrth i fenywod Cymru baratoi ar gyfer eu gemau nesaf yng nghystadleuaeth y WXV, mae pump aelod o glwb Nant Conwy yn gymeriadau amlwg yng ngharfan Sean Lynn – sef y chwiorydd Branwen a Nel Metcalfe, a Gwenllian ac Alaw Pyrs. Y prop Elan Jones yw’r pumed aelod, ac er nad yw hi wedi ennill cap llawn eto – mater o amser fydd hynny heb os.

Dechreuodd llwyddiant y clwb wrth feithrin chwaraewyr rhyngwladol ymhell cyn i aelodau presennol y garfan ddod i’r amlwg. Enillodd Dyddgu Hywel 31 cap dros ei gwlad, tra bod Erin Jones, Elan Pyrs Jones a Cara Wyn i gyd wedi cynrychioli timau iau Cymru.
Ar un cyfnod dim ond llond llaw o ferched a genethod oedd ar gael i gynrychioli’r clwb – ond mae buddsoddiad strategol Clwb Rygbi Nant Conwy mewn rygbi merched a menywod ar lawr gwlad wedi dwyn ffrwyth yn lleol ac yn rhyngwladol. Mae cyllid y Loteri Genedlaethol hefyd wedi helpu’r clwb i ddatblygu’r timau rhwng 8 a 18 oed, gan greu’r seilwaith a’r llwybrau datblygu sydd wedi galluogi’r llwyddiant rhyfeddol yma.
Mae Nant Conwy bellach yn un o gadarnleoedd rygbi merched yng Nghymru, ac mae disgwyl i gynrychiolwyr presennol y clwb yn y garfan ryngwladol ennill tipyn mwy o gapiau dros eu gwlad cyn i’w gyrfaoedd ar y prif lwyfan ddod i ben.
De Affrica fydd canolbwynt sylw carfan Cymru yn y WXV heno cyn croesawu’r Unol Daleithiau i Barc yr Arfau y Sadwrn nesaf. Wedi hynny dwy gêm brawf yn Japan sydd ar y gweill i Sean Lynn a’i garfan.
Ydi wir mae’n gyfnod cyffrous – yn enwedig i Branwen Metcalfe, sy’n gobeithio creu argraff pellach, naill ai yn yr ail reng neu’n y rheng ôl.
Mae hi wedi bod yn dipyn o flwyddyn i’r ferch fferm gan iddi arwain tîm Dan 20 ei gwlad y llynedd cyn cael ei galw i garfan Cwpan y Byd:
“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at yr hyn sydd i ddod, ac os gai’r cyfle i chwarae – dyma fydd fy nhrydedd gystadleuaeth fawr o fewn blwyddyn. Da ni wedi bod yn gweithio’n arbennig o galed fel carfan ac yn naturiol felly ‘da ni’n gobeithio sicrhau ambell fuddugoliaeth dda yn ein gemau yn y WXV.
“Mae’n hyfforddwyr cryfder a chyflyru wedi bod yn ein gwthio ni i’r eithaf dros yr wythnosau diwetha’ ond mae pawb yn derbyn bod yn rhaid i hynny ddigwydd er mwyn i ni wella’n perfformiadau. Mae Sean Lynn, y Prif Hyfforddwr, wastad yn dweud bod yn rhaid i ni wneud bob dim o fewn ein gallu i gamu i lefel nesaf y gamp – ac mae pawb yn ceisio gwella eu perfformiad ym mhob un sesiwn ymarfer, gan wneud yn siwr ein bod yn cryfhau ac yn dod yn fwy effeithiol.
“Mae angen mynd i’r llefydd tywyll hynny wrth ymarfer er mwyn cyrraedd y lefelau da ni’n anelu tuag atyn nhw. Fel carfan, da ni bellach wedi dysgu mwynhau herio’n hunain yn y sesiynau hynod gorfforol hynny.”
Yn dilyn buddugoliaeth ddiweddar Fiji dros Japan, mae Cymru bellach wedi llithro i’r 13eg safle ar restr detholion y byd. Mae hynny’n golygu felly bod pob un o’r tri thîm y bydd Cymru’n eu hwynebu yn y WXV yn uwch na nhw nhw ymhlith detholion y byd – gyda De Affrica yn 10fed, Yr Unol Daleithiau’n 8fed a Japan yn 11eg:
“Da ni i gyd yn gwybod beth fydd De Affrica yn ei gynnig, felly da ni wedi bod yn paratoi’n fanwl ar gyfer eu her sylweddol.
“Mae’n rhaid i ni dderbyn bod pob un o’r gemau sydd o’n blaenau’n mynd i fod yn anodd ond mae genna’i ffydd a hyder yn ein genod ni.
“Dwi’n credu’n gryf ein bod yn gwella o dan arweiniad ein staff hyfforddi newydd, a dwi’n hyderus iawn y gallwn ni ennill gemau. Mi rydan ni gyd yn gwybod yn iawn y bydd yn rhaid i ni berfformio am yr 80 munud cyfan yn y gemau sydd o’n blaenau – ac mi rydan ni wedi bod yn gweithio’n arbennig o galed er mwyn gallu cyflawni hynny.
“Yn y Chwe Gwlad, roedden ni’n perfformio’n dda am tua awr ac felly’n naturiol mae pwyslais mawr wedi bod ar wella hynny. Mae’r holl garfan yn awchu i ddangos gwelliant yn yr agwedd honno yn erbyn De Affrica – a dwi’n hyderus y bydd ein holl waith caled diweddar yn ein galluogi ni i wneud hynny.

“Er i ni guro’r Barbariaid dros yr haf, da ni’n gwybod bod yn rhaid i ni berfformio’n fwy cyson ac ennill gemau’n fwy cyson er mwyn cyrraedd ble’r ydan ni eisiau bod fel carfan.
“Da ni’n gwybod bod angen i ni wella o hyd, a’r nod rydan ni wedi gosod i ni’n hunain ydi ennill pob un o’r gemau sydd o’n blaenau – er bod pob un o’r timau hynny uwch ein pennau ar restr y byd ar hyn o bryd. Ein bwriad ni ydi bod yn gorfforol ac yn gyflym, a’r gobaith ydi sgorio llawer o bwyntiau hefyd.
“Mae na gydnabyddiaeth onest o fewn y garfan nad ydan ni wedi perfformio’n ddigon da yn ddiweddar ond mi rydan ni wedi dysgu o’n camgymeriadau ac mae agwedd pob un o’r merched yn bositif iawn ac felly dwi’n hyderus bod canlyniadau cadarnhaol iawn ar y gorwel.
“Mae ganddon ni garfan gref, ifanc a chyffrous sy’n cynnwys llawer o chwaraewyr newydd. Dwi’n gobeithio y gallwn ni ddangos i’r cyhoedd ein bod ni’n ei hystyried hi’n fraint aruthrol cynrychioli Cymru ac nad ydan ni’n bwriadu aros yn y trydydd safle ar ddeg yn hir o gwbl. Ein nod a’n bwriad ydi anelu at y pum safle uchaf.”
Er bod Branwen Metcalfe bellach yn ymarfer yn ddyddiol gyda charfan ryngwaldol ei gwlad, dyw hi heb anghofio’i gwreiddiau yn Nant Conwy na’r cyfleodd ddaeth i’w rhan drwy ei chlwb lleol:
“Wrth dyfu i fyny, mae’n debyg bod Nel a fi yn y clwb bob diwrnod. Mae’r clwb wedi chwarae rhan mor fawr yn fy mywyd i a’r teulu dros y blynyddoedd i ddweud y gwir.” ychwanegodd Branwen.
Mae Nel yn cytuno: “Nid clwb yn unig ydi ‘Nant’, mae’n gymuned gyfan. Mae’r clwb a’r gymuned wastad yn gefnogol a dyna sydd mor arbennig am y clwb a’r ardal. Mae pawb yn adnabod ei gilydd ac mae pawb yn cefnogi ei gilydd.”
