Mae Amy Williams wedi penderfynu canolbwyntio ar y bêl hirgron yn hytrach nag ar y bêl gron.
Fe benderfynodd Williams adael Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd er mwyn ceisio ennill ei chap llawn cyntaf dros dîm Menywod Cymru – a’i gobaith yw gwireddu’r freuddwyd honno’r mis yma yng Nghystadleuaeth y WXV.
Mae Williams, sydd erbyn hyn yn 21 oed, eisoes wedi cael y fraint o wisgo crys coch Cymru yn Twickenham yr haf hwn. Er nad oedd capiau’n cael eu cyflwyno ar gyfer yr ornest yn erbyn y Barbariaid, fe wnaeth yr asgellwr gryn argraff wrth iddi sgorio dau gais ym muddugoliaeth ei gwlad o 34–17.
Roedd hi’n wynebu’r chwedlonol Ruby Tui y diwrnod hwnnw, sydd wedi ennill Cwpan y Byd yn 2021 a medal aur Olympaidd gyda’r tîm saith bob ochr yn 2023.
Dywedodd Amy Williams: “Wrth dyfu lan, ro’n i’n gwylio llawer mwy o bêl-droed na rygbi, felly roedd Ruby Tui yn un o’r ychydig chwaraewyr rygbi ro’n i’n eu hadnabod. Roedd hi’n dipyn o sioc i ddechrau fy ngêm gyntaf dros Gymru a sylweddoli mai hi oedd fy ngwrthwynebydd!
“Fe wnes i ymlacio rhywfaint wedi’r gic gyntaf ac fe wnes i wir fwynhau’r prynhawn a’r achlysur.
“Roedd y merched profiadol yn y garfan yn gefnogol iawn ac fe wnes i fwynhau pob munud.
“Pan sgoriais fy nghais cyntaf – ro’n i mewn sioc, ond roedd e’n deimlad anhygoel.
“Yr unig beth dw i’n ei ddifaru yw’r ffaith na wnes i ofyn i Ruby newid ei chrys gyda fi. Yng nghanol yr holl gyffro fe wnes i anghofio’n llwyr! Wedi dweud hynny dwi’n eithaf balch bod genni fy nghrys rhyngwladol cyntaf dal yn y tŷ.
“Byddai ennill fy nghap llawn cyntaf yn y WXV yn rhywbeth enfawr i fi’n bersonol. Dyna fy mreuddwyd ers i mi ddechrau chwarae rygbi, felly os caf y cyfle hwnnw, bydda i mor ddiolchgar ac mor gyffrous.”

Bydd Cymru’n wynebu De Affrica a’r Unol Daleithiau ar Barc yr Arfau cyn teithio i Japan ar gyfer eu trydedd gêm yn y gystadleaeth fyd eang hon. Mae’r tair gêm yn erbyn timau sydd uwchben Cymru ar restr y detholion ar hyn o bryd.
Yn dilyn buddugoliaeth Fiji o 15–12 dros Japan y penwythnos diwethaf – mae Cymru wedi disgyn i’r trydydd safle ar ddeg. Mae hynny’n tanlinellu pa mor anodd fydd yr heriau sy’n wynebu Sean Lynn a’i garfan yn y WXV ond mae Amy Williams yn benderfynol o helpu ei gwlad i wella eu safle ar restr y detholion:
“Mae mynd ar daith a chael profi diwylliannau gwahanol wrth chwarae rygbi ar lefel uchel yn anhygoel. Dw i wedi bod i ffwrdd gyda thîm Saith Bob Ochr Prydain ac wedi teithio i Seland Newydd o’r blaen, ac mae’r syniad o fynd i Japan yn gyffrous iawn. Dw i’n croesi popeth y caf fy newis yn y garfan,” ychwanegodd.
“Ers i mi ymunod gyda charfan Cymru, mae’r awyrgylch wedi bod yn gadarnhaol ac yn gefnogol iawn. Mae’r merched profiadol yn wych gyda’r chwaraewyr iau – mae pawb yn canolbwyntio ar weithio’n galed, gwella a pherfformio.
“Ry’n ni wedi rhoi popeth dros yr achos yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac ry’n ni wedi canolbwyntio ar ambell fan gwan o’n gêm yn y gorffennol.
“Ry’n ni’n gwella ym mhob sesiwn, felly byddwn ni’n llawer cryfach wrth fynd i mewn i’r ymgyrch hon.”
Ond y cwestiwn mawr yn achos Amy yw pam y gwnaeth hi newid o bêl-droed i rygbi?
Mae digon o enghreifftiau o fenywod dawnus ym myd chwaraeon yn symud o un gamp i’r llall wrth gwrs.
Llwyddodd Nia Jones i gyfuno gyrfaoedd rhyngwladol mewn pêl-droed a phêl-rwyd, chwaraeodd Lauren Price bêl-droed dros Gymru cyn mynd ymlaen i ennill medal aur Olympaidd a dod yn bencampwr bocsio’r byd, tra dechreuodd Helen Morgan ei gyrfa ryngwladol ar y cae hoci, gan gynrychioli Cymru ac yna Prydain yn y Gemau Olympaidd, cyn mynd ymlaen i fod yn gapten ar dîm pêl-droed merched Cymru:
“Ro’n i gyda chlwb Caerdydd am dymor neu ddau cyn i mi symud draw at rygbi. Yn fy ail flwyddyn yn y coleg, ro’n i’n ymarfer fy rygbi yn ystod y dydd ac yna’n chwarae pêl-droed gyda’r nos, ac fe aeth y cyfan yn ormod,” meddai Williams.
“Yn syml, roedd yn rhaid i mi ddewis rhwng y ddwy gamp.”

Roedd Cyfarwyddwr rygbi Coleg Gwent, sef cyn flaenasgellwr tîm dan 20 Cymru a chapten presennol Pont-y-pŵl, Scott Matthews, yn allweddol wrth helpu Williams i symud o’r bêl gron at y bêl hirgron:
“Dw i’n dod o Bont-y-pŵl ac felly pan es i i’r coleg, gofynnodd fy narlithydd, Scott Matthews, a fyddwn i’n gallu chwarae ar yr asgell mewn cystadleuaeth saith bob ochr,” meddai Williams.
“Yn wreiddiol roedd e wedi awgrymu y dylwn i ddefnyddio’r gampfa er mwyn cryfhau fy hun i chwarae pêl-droed ond fe sylweddolais yn sydyn fod yn well gen i elfen gorfforol rygbi. Ro’n i’n ei fwynhau’n fawr, ac felly fe wnes i ddal ati.
“Roedd taith rygbi i Seland Newydd ar y gorwel ac ro’n i wir eisiau mynd arni, ac ers hynny rygbi sydd wedi mynd â fy mryd.
“Fy mhenderfyniad i oedd e’n llwyr – wnaeth Mr Matthews ddim rhoi unrhyw bwysau arna i o gwbl – ond dwi’n credu’n dawel bach ei fod yn hapus fy mod wedi dewis rygbi yn y pendraw.
“Mae llawer o hyfforddwyr yn dweud bod chwaraewyr sydd â phrofiad o chwarae pêl-droed yn eithaf da o dan y bêl uchel – ac mae cyflymdra wastad yn fantais hefyd. Mae genni lawer i’w ddysgu o hyd wrth gwrs – heb sôn am siap y bêl!”
“Roedd clwb Caerdydd yn parchu fy mhenderfyniad ac mae pethau wedi mynd yn dda i mi’n y byd rygbi hyd yn hyn.”
Chwaraeodd Amy Williams am ddau dymor i Met Caerdydd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe gafodd y cyfle i gynrychioli Brython Thunder yn yr Her Geltaidd. Yn dilyn ei pherfformiadau trawiadol – fe gafodd ei galw i ymarfer gyda’r garfan genedlaethol – cyn gwisgo’r crys coch am y tro cyntaf yn Twickenham.
Ei gobaith hi a Sean Lynn yw y bydd hi’n cael y cyfle i greu argraff ffafriol ar y llwyfan rhyngwladol unwaith eto’n y WXV – gan sgorio mwy o geisiau yng nghrys coch Cymru.
