Mae chwaraewyr rhyngwladol Cymru, Alex Mann a Josh Adams, wedi ymuno ag Ymgynghorydd Etifeddiaeth Undeb Rygbi Cymru, Peter Owens mewn digwyddiad arbennig yn Stadiwm Principality (ddydd Mercher 30 Medi) i gofnodi Diwrnod Etifeddiaeth Cenedlaethol Chwaraeon.
Dangoswyd nifer fawr o eitemau o bwys ac arwyddocâd hanesyddol o archifau rygbi Cymru i’r ddau chwaraewr rhyngwladol presennol – gan gynnwys creiriau perthnasol o’r gemau’n y gorffennol rhwng Cymru a’u gwrthwynebwyr yr Hydref hwn.
Bydd carfan Steve Tandy’n croesawu Japan, Seland Newydd ac Awstralia i Stadiwm Principality ar dri Sadwrn yn olynol ym mis Tachwedd ac mae tocynnau i’w cael yma: wru.wales/tickets
Fe eglurodd Peter Owens hanes unigryw pob eitem, gan gynnwys nifer o grysau rhyngwladol o wahanol gyfnodau, capiau, rhaglenni swyddogol gemau, tlysau a hyd yn oed didgeridoo.
Dywedodd Josh Adams: “Mae wedi bod yn ddiddorol iawn gwrando ar yr holl straeon.
“Dy’n ni ddim yn cael gweld llawer o’r eitemau hanesyddol yma sydd yn y Stadiwm. Felly mae’n braf iawn dysgu am eu hanes – sy’n rhan mor bwysig o’n hetifeddiaeth rygbi yma yng Nghymru.

“Os ewch chi i unrhyw glwb yng Nghymru – fe welwch chi lawer o grysau ar y waliau yn dathlu hanes y chwaraewyr hynny sydd wedi cynrychioli eu clwb. Mae hynny’n arbennig o bwysig, ac i fi fel crwt o’r Hendy, dwi bob tro yn ceisio cynrychioli fy nghlwb yn y ffordd iawn.”
“Fe ges i ddiwrnod a phrofiad arbennig iawn,” ychwanegodd Mann. “Roedd yn braf bod Jadsy [Josh Adams] a fi wedi cael y cyfle i gael cipolwg ar hanes Cymru a’r timau ry’n ni am eu hwynebu yn yr Hydref.
“Mae’n wych dysgu am y gwahanol straeon sy’n perthyn i’r crysau hefyd, a gweld sut mae eu steil nhw wedi newid dros y blynyddoedd. Dwi wedi dysgu llawer heddiw ac wedi mwynhau fy hun yn fawr.”

Ymhlith yr eitemau oedd yn cael eu harddangos, roedd crys Dai ‘Tarw’ Jones o’r gêm gyntaf erioed rhwng Cymru a Seland Newydd ym 1905. Roedd yr eitem penodol hwnnw o ddiddordeb arbennig i Mann gan fod Jones wedi chwarae dros Aberdâr, sef ei dref enedigol.
“Doeddwn i ddim yn sylweddoli hynny [bod y crys yn perthyn i gyn-chwaraewr Aberdâr],” meddai Mann, “felly pan ddywedodd Peter wrtha i, roedd hi’n wych cael gweld y crys a chlywed y stori.
“Dwi wedi dysgu iddo guro’r Crysau Duon gyda Chymru wrth chwarae rygbi’r Undeb ac hefyd gyda Chymru a Phrydain yn y gêm tri ar ddeg. Tipyn o gamp i fachan o Aberdâr. Mae’n wych cael gweld y crys mor agos.”
Mae archif Undeb Rygbi Cymru yn cynnwys mwy na 5,000 o eitemau cofiadwy, sy’n adrodd hanesion lu o dreftadaeth rygbi yng Nghymru.
Cofiwch achub ar eich cyfle i gefnogi Cymru ym mis Tachwedd.
Mae tocynnau ar gyfer holl gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd – yn erbyn Japan, Seland Newydd ac Awstralia – ar werth o £13.50 yn unig i rai D18 a dim ond £26 i oedolion: WRU.WALES/TICKETS
