News

Y Stickmen i ddychwelyd i Stadiwm Principality ar gyfer gêm Cymru’n erbyn Awstralia

Y Stickmen
Y Stickmen i ddychwelyd i Stadiwm Principality

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi y bydd ‘The Stickmen Project’, trwy garedigrwydd Vodafone, yn dychwelyd i Stadiwm Principality i arwain yr adloniant hanner amser, pan fydd Cymru’n herio Awstralia ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd yr Hydref hwn.

Yn dilyn eu perfformiadau hynod boblogaidd yn ystod gornest Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Menywod 2025 yn erbyn Lloegr, gêm Cyfres Cenhedloedd Quilter y dynion yn erbyn Seland Newydd yn 2025 a’u gêm Chwe Gwlad Guinness yn erbyn Yr Alban eleni, mae’r ddeuawd gerddorol o Gymru ar eu ffordd yn ôl i Stadiwm Cenedlaethol Cymru.

Mae eu perfformiadau blaenorol yn y Stadiwm wedi taro tant gyda’r cefnogwyr, ac mae dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol wedi disgrifio’u perfformiadau fel rhai “anhygoel”, “ar dân” ac “epig”. “Dyma’r sioe hanner amser orau o bell ffordd i mi fod ynddi erioed” …“Roedd yn wych cael gweld y cyfan a bod yn rhan ohono,” … a “Hoffwn pe bai eu perfformiad wedi para’n hirach – diolch am wneud ein noson hyd yn oed yn fwy cofiadwy…” oedd rhai sylwadau amlwg eraill hefyd.

Mae Stadiwm Principality yn parhau i gynnig llwyfan amlwg i dalent o Gymru. Mae enw da’r Stickmen yn rhyngwladol wedi eu gweld yn cydweithio â rhai o enwau mwyaf cerddoriaeth ddawns y byd, gan gynnwys Armin van Buuren, Felix Jaehn, Tujamo a Meduza.

Mae eu dychweliad i Stadiwm Principality’n dangos ymrwymiad parhaus Undeb Rygbi Cymru i wella profiad diwrnod gêm y cefnogwyr – a gallant nawr edrych ymlaen at sioe hanner amser arall yn llawn egni, fydd yn sicrhau bod yr awyrgylch yn parhau’n drydanol drwy gydol y prynhawn.

Dywedodd Alex Luff, Pennaeth Digwyddiadau a Gweithrediadau Stadiwm Principality: “Ry’n ni wrth ein bodd ein bod yn gallu croesawu The Stickmen Project yn ôl i Stadiwm Principality ar gyfer Pencampwriaeth y Cenhedloedd. Mae eu perfformiadau yma o’r blaen wedi bod yn ychwanegiad gwych at ein profiad diwrnod gêm, gan greu awyrgylch arbennig i’r cefnogwyr eu mwynhau – yn ogystal â’r rygbi ei hun hefyd wrth gwrs.

“Ry’n ni bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella pob ymweliad â’r Stadiwm, ac mae cael talent o Gymru yn perfformio o flaen ein cefnogwyr ein hunain yn rhywbeth ry’n ni’n hynod falch ohono. Ry’n ni’n gwybod y byddan nhw unwaith eto’n helpu i greu achlysur cofiadwy i bawb fydd yno i weld Cymru’n herio’r Wallabies.”

Wrth siarad am eu dychweliad, dywedodd The Stickmen Project: “Mae perfformio yn Stadiwm Principality wedi dod yn un o uchafbwyntiau ein blwyddyn. Does dim byd tebyg i’r awyrgylch y mae cefnogwyr Cymru’n ei greu yno, ac mae’n fraint cael ein gwahodd yn ôl.

“Mae cael ychwanegu perfformio yn Stadiwm Principality at ein hamserlen unwaith eto eleni yn rhywbeth rydyn ni’n hynod falch ohono. Allwn ni ddim aros i weld y Stadiwm yn dod yn fyw unwaith yn rhagor a bod yn rhan o ddiwrnod enfawr arall i rygbi Cymru.”

Mae tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Awstralia, lle bydd The Stickmen Project yn perfformio, ar gael o £20 i oedolion ac o £13.30 i rai dan 18 oed a myfyrwyr.

Ewch i WRU.WALES/TICKETS i sicrhau eich tocynnau ar gyfer y gêm hon a gemau eraill Pencampwriaeth y Cenhedloedd yn erbyn Japan a Seland Newydd nawr.

Related Topics