News

Y mewnwr Megan Davey wedi ymuno â charfan ymarfer Cymru ar gyfer y WXV

Sean Lynn
Sean Lynn and Megan Davey

Mae’r mewnwr Meg Davey wedi ei galw i garfan ymarfer estynedig Cymru ar gyfer Gemau Prawf y WXV yn erbyn yr Unol Daleithiau, De Affrica a Japan.

Ers ei hymddangosiad cyntaf dros ei chlwb yn 17 oed, mae Davey wedi cynrychioli Loughborough 124 o weithiau – mwy nac unrhyw chwaraewr arall yn eu hanes.

Mae hi bellach yn 26 oed ac mae ei doniau wrth basio, cicio a rheoli’r gêm yn gryfderau amlwg ganddi. Mae Meg Davey wedi chwarae dros ei chlwb yn safle’r maswr yn ogystal ag fel mewnwr.

Mae hi’n gymwys i gynrychioli Cymru gan bod ei thadcu James Davey’n Gymro.

Cafodd Meg Davey ei galw i ymarfer gyda charfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026 ac mae hi eisoes wedi dechrau ymarfer gyda’r garfan bresennol.

Related Topics