News

URC yn datgelu citiau newydd y prif dimau rhyngwladol sydd wedi’u hysbrydoli gan dirwedd a chwedlau Cymru

Wales kit launch
Cynhaliwyd lansiad swyddogol y pecynnau newydd heddiw

Mae Undeb Rygbi Cymru a’i chyflenwr cit swyddogol ers 2020, Macron, heddiw wedi datgelu citiau Cartref ac Amgen newydd y timau cenedlaethol, gyda’r cynlluniau wedi’u hysbrydoli gan ddau o symbolau mwyaf eiconig Cymru – Y Ddraig Goch a thirwedd llechi trawiadol y wlad.

Cynhaliwyd lansiad swyddogol y citiau newydd heddiw, ddydd Iau 6 Awst, ar Faes Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las ac yn Siop Swyddogol yr Undeb ar Heol y Porth yng Naghaerdydd. 
Dau leoliad – ac un dathliad o Gymreictod. 

Mae’r crysau newydd wedi cael eu lansio cyn tymor rhyngwladol 2026/27, yn dathlu hunaniaeth Gymreig drwy gynlluniau unigryw sy’n creu cysylltiad cryf rhwng y timau cenedlaethol â thirwedd, etifeddiaeth a diwylliant ein cenedl.

Mae’r crys Cartref newydd yn gwbl goch, heblaw am arfbais yr Undeb a logos y partneriaid, ac mae’n ddehongliad cyfoes a beiddgar o un o grysau mwyaf eiconig y byd rygbi. 

Mae patrwm amlwg o ddreigiau i’w gweld ar yr ysgwyddau a’r llewys – symbol amlwg a balch o Gymru sy’n cael ei adnabod ledled y byd. Mae’r cynllun hefyd yn parhau ar ochr y siorts. Bydd siorts y dynion yn dychwelyd i fod yn wyn, tra bydd siorts y menywod yn parhau’n goch, gyda sanau coch a gwyn yn goron ar y cwbl.

Mae’r cit Amgen newydd yn wyn yn bennaf gydag addurniadau gwyrdd sydd wedi’u hysbrydoli gan liwiau cenedlaethol Cymru.

Daw’r ysbrydoliaeth greadigol o ddiwydiant llechi Cymru, gyda chynllun o wead y llechi yn ymddangos ar y crys a’r siorts i ddathlu diwydiant sydd wedi siapio tirwedd, cymunedau ac enw da Cymru ledled y byd ers cenedlaethau.

Mae’r cit Amgen yn fentrus a beiddgar tra’n parhau’n driw i hanes a threftadaeth Cymru. 

Mae’r ddau git wedi’u cynllunio gyda’r un syniad mewn golwg – sef gwisgo’r crysau gyda balchder – boed hynny gan y chwaraewyr ar faes Stadiwm Principality neu ar dir tramor, neu gan y cefnogwyr ar ddiwrnod gêm neu o ddydd i ddydd yn ystod eu horiau hamdden.

Dywedodd Tomos Grace, Prif Swyddog Masnachol Undeb Rygbi Cymru: 

”Mae’r citiau newydd yma’n ddathliad o bwy ydyn ni fel cenedl ac o’r hyn y mae rygbi Cymru yn ei gynrychioli. O’r ddraig ar ein crys Cartref i’r cynllun cyffrous sydd wedi’i ysbrydoli gan y diwydiant llechi ar y cit Amgen. Mae pob manylyn wedi’u creu i adlewyrchu’r balchder, yr etifeddiaeth a’r diwylliant sy’n gwneud Cymru’n unigryw.

“Ry’n ni’n gosod hunaniaeth Cymru wrth galon popeth, ac mae’r citiau newydd yma’n fynegiant pwysig o hyn. Mae’r crysau’n ymgorffori gwerthoedd ein brand, yn dathlu ein hanes ac yn cyflwyno golwg fodern fydd yn cynrychioli rygbi Cymru gyda balchder. 

”Ry’n ni’n hynod gyffrous i lansio’r casgliad newydd yma ac ry’n ni’n edrych ymlaen at weld ein chwaraewyr yn eu gwisgo ar y llwyfan rhyngwladol. Bydd hi’n braf hefyd gweld cefnogwyr ledled y byd yn gwisgo’r crysau yma o ddydd i ddydd, gan gryfhau’r ymdeimlad o falchder yn ein gwlad a’r gêm ry’n ni gyd yn ei charu.”

Mae ymgyrch y lansiad hefyd yn nodi cyfeiriad creadigol newydd i Undeb Rygbi Cymru, gan bo dillad ymarfer a chynnyrch sy’n addas i’w wisgo’n ddyddiol wrth hamddena hefyd wedi eu cynllunio a’u cyhoeddi. 

Bydd y citiau Cartref ac Amgen ar gael i’w prynu o 6 Awst mewn fersiynau replica a phroffesiynol o Siop Undeb Rygbi Cymru ar Heol y Porth, ar-lein yn store.wru.co.uk , a thrwy siopau dethol.

Gyda phrisiau’n amrywio o £68 am grys replica iau i £85 am grys replica oedolion, a £118 am grys proffesiynol fel y timau rhyngwaldol eu hunain, mae’r casgliad newydd yn cynnig dewis eang i gefnogwyr, gan ei gwneud yn bosibl i bawb wisgo lliwiau Cymru gyda balchder. 

Daw lansiad y ddau grys newydd wedi i’r casgliad ‘Ymarfer a Theithio’ gael ei ryddhau yr wythnos ddiwethaf, gan gwblhau casgliad citiau 2026/27

Related Topics