Mae Syr Billy Boston, un o ffigurau mwyaf poblogaidd ac eiconig hanes chwaraeon Cymru, wedi marw’n dawel yn 92 oed.
Bu farw dros nos yn yr ysbyty yn Wigan, ei gartref mabwysiedig am y 74 mlynedd diwethaf. Daeth ei farwolaeth bedwar diwrnod yn unig ar ôl angladd ei wraig, y Fonesig Joan, yr oedd wedi bod yn briod â hi am 70 mlynedd.
Yr haf diwethaf, Syr Billy oedd y chwaraewr cyntaf o rygbi’r gynghrair i gael ei urddo’n farchog. Roedd yn 91 oed ar y pryd.
Ar ôl troi’n broffesiynol yn 18 oed am y swm sylweddol o £3,000, ni chafodd cyn-asgellwr Wigan, Cymru a Phrydain Fawr wireddu ei freuddwyd gydol oes o chwarae dros Gymru ar lefel ryngwladol hŷn ym Mharc yr Arfau.
Serch hynny, ef oedd y chwaraewr du cyntaf i chwarae rygbi’r undeb cynrychioliadol dros Gymru – gan gynrychioli Clybiau Bechgyn Cymru a thîm Ieuenctid Cymru yn 1952.
Ganed Syr Billy yn Angelina Street yn yr ardal a elwid gynt yn Tiger Bay, ac enillodd Darian Dewar gydag Ysgolion Caerdydd dan 15 oed yn 1949. Roedd yn rhan o’r tîm a gurodd Fynydd Mawr 8-3 yng Nghastell-nedd, ac ymhlith ei gyd-chwaraewyr roedd darpar gapten Cymru Lloyd Williams a phencampwr bocsio pwysau trwm Prydain a’r Gymanwlad, Joe Erskine.
Chwaraeodd dros Central Boys Club yng Nghaerdydd yn ogystal ag Ieuenctid Caerdydd. Yn 17 oed, ym mis Chwefror 1952, bu’n gapten ar Glybiau Bechgyn Cymru yn erbyn Lloegr yng Nghastell-nedd, gan sgorio hat-tric o geisiau a chyfanswm o 17 pwynt wrth i’r tîm cartref sicrhau buddugoliaeth wych o 32-0 o flaen torf o 5,000.
Roedd prop a hyfforddwr Cymru yn y dyfodol, Ron Waldron, hefyd ymhlith y sgorwyr y diwrnod hwnnw. Roedd Syr Billy eisoes wedi chwarae i dîm hŷn Castell-nedd yn y Gnoll ac wedi sgorio mwy na 120 o bwyntiau i CIACS yr un tymor.
Fis yn ddiweddarach, enillodd gap i dîm Ieuenctid Cymru. Roedd Ieuenctid Cymru wedi chwarae eu gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn Ffrainc yn 1951, cyn chwarae Munster ddwywaith ac Ysgolion Cymru, ac yna wynebu Ffrainc eto ar 29 Mawrth 1952. Syr Billy sgoriodd unig gais Cymru mewn colled o 5-3 yn Aurillac. Drwy hynny, ef oedd y chwaraewr du cyntaf i gynrychioli unrhyw dîm rygbi’r undeb cenedlaethol yng Nghymru.
Yn ogystal â chwarae dros Gastell-nedd, chwaraeodd Syr Billy dros Bontypridd cyn ymuno â’r Fyddin i gyflawni ei Wasanaeth Cenedlaethol. Yn 18 oed, arweiniodd XV Caerdydd a’r Cylch yn erbyn Caerdydd yng ngêm agoriadol tymor 1952-53 ym Mharc yr Arfau.
Enillodd Caerdydd 22-0, gyda Cliff Morgan yn chwarae mas ac yn sgorio dau gais, ond dywedodd gohebydd rygbi’r Western Mail, JBG Thomas: “Roedd gan y Cylch ganolwr rhagorol yn W Boston, a ddylai fod yn XV Athletau Caerdydd.”
Yn anffodus, ni chwaraeodd erioed i dîm hŷn Caerdydd, ac yn lle hynny arwyddodd dros Wigan yn 19 oed, gan droi’n chwaraewr proffesiynol. Llofnododd gynnig Wigan o £3,000 ar 13 Mawrth 1953, er na chyhoeddwyd y cytundeb tan rai misoedd yn ddiweddarach.
Yn ystod ei Wasanaeth Cenedlaethol roedd wedi’i leoli yn Catterick a daeth yn seren yn XV y Royal Signals. Sgoriodd chwe chais yn erbyn y Welsh Guards yn Rownd Derfynol Cwpan y Fyddin yn 1953, a phedwar o bum cais y Fyddin yn erbyn y Territorial Army yn 1954.
Ar ôl gwylio’r perfformiad hwnnw, ysgrifennodd gohebydd rygbi’r Daily Express, Pat Marshall: “Pe na bai wedi arwyddo ffurflenni proffesiynol, mae’n sicr y byddai wedi bod yn nhîm presennol Undeb Rygbi Cymru. Yn syml iawn, mae’n un o’r cefnwyr rhedeg gorau i mi eu gweld.”
Daeth ei ymddangosiad cyntaf dros Wigan mewn gêm i’r tîm A ar 31 Hydref 1953, pan gyhoeddodd ei ddyfodiad gyda dau gais yn erbyn tîm A Barrow yn 19 oed a 68 diwrnod. Daeth ei ymddangosiad cyntaf i’r tîm cyntaf hefyd yn erbyn Barrow, yn Central Park ar 21 Tachwedd, pan sgoriodd y cyntaf o’i 478 o geisiau mewn 488 o ymddangosiadau dros y clwb.
Ar ôl sgorio cais ar ei ymddangosiad cyntaf, dilynodd hynny gyda dau gais yn ei ail gêm, tri yn ei drydedd a phedwar yn ei bedwaredd. Buan iawn y sylwodd detholwyr Prydain Fawr ar ei ddawn, gan ei ddewis i fynd ar daith i Awstralia yn haf 1954. Yn 19 oed, ef oedd y chwaraewr ieuengaf i fynd ar daith gyda’r garfan.
Ef oedd y chwaraewr du cyntaf i gael ei ddewis ar gyfer taith i Awstralasia. Chwaraeodd ym mhob un o’r pum Prawf a sgoriodd 36 o geisiau mewn 18 gêm ar y daith – gan gynnwys saith hat-tric a chwe chais yn erbyn North Coast.
Hefyd, cyfartalodd y record am y nifer fwyaf o geisiau mewn gêm Brawf, gan sgorio pedwar yn erbyn Seland Newydd yn Auckland yn y gêm ryngwladol gyntaf.
Roedd Syr Billy ymhlith y rhai cyntaf i gael eu sefydlu yn Oriel Anfarwolion Rygbi’r Gynghrair Prydain, Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru, Oriel Anfarwolion Wigan Warriors ac Oriel Anfarwolion Rygbi’r Gynghrair Cymru. Fe’i penodwyd yn MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd 1996 “am wasanaethau i’r gymuned yn Wigan, Greater Manchester”.
Roedd yn un o bum un o fawrion rygbi’r gynghrair a gafodd eu hanrhydeddu mewn cerflun yn Wembley, cyn cael cerflun ei hun yn Wigan. Ddwy flynedd yn ôl, cafodd le blaenllaw ar gerflun rygbi’r gynghrair yn ei ddinas enedigol, ochr yn ochr â Gus Risman a Clive Sullivan, i anrhydeddu’r ‘Cardiff Codebreakers’. Cafodd eisteddle hefyd ei enwi ar ei ôl ar faes cartref Wigan yn 2009.
Mae Undeb Rygbi Cymru yn estyn ei gydymdeimlad diffuant â theulu a chyfeillion Billy Boston.
