News

Tymor y Cynghreiriau Cenedlaethol 2026–27

Hard grounds
Mae Bwrdd y Gêm Gymunedol wedi penderfynu y gall timau ad-drefnu gemau heb unrhyw gosb (Llun: Simon Latham)

Tymor y Cynghreiriau Cenedlaethol 2026–27

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi diolch i’r holl chwaraewyr, hyfforddwyr, gweinyddwyr, gwirfoddolwyr, dyfarnwyr a phawb arall sy’n gweithio’n galed dros eu clybiau am eu hamynedd dros yr wythnosau diwethaf, wrth i drafodaethau barhau am ddechrau tymor 2026–27 o ganlyniad i’r tywydd.

Yn dilyn trafodaethau ac ymgynghori helaeth, mae Bwrdd Gêm Gymunedol yr Undeb wedi cytuno’n unfrydol na fydd unrhyw oedi i ddechrau tymhorau’r Dynion, y Menywod na’r gemau Dan 18 sydd i fod i ddechrau ym mis Medi, a bydd y gemau’n digwydd fel sydd eisoes wedi ei drefnu.

O ystyried y glaw diweddar hefyd ac yn dilyn cyngor gan y Swyddfa Dywydd, teimlwyd nad oedd angen gohirio dechrau’r tymor.

Fodd bynnag, mae Bwrdd y Gêm Gymunedol wedi cynnig cyngor a chanllawiau er mwyn sicrhau bod unrhyw gemau sy’n cael eu chwarae yn cael eu cynnal yn ddiogel – gyda lles chwaraewyr yn brif flaenoriaeth.

  • Yn unol â rheolau’r Cynghreiriau Cenedlaethol, os nad yw’r ddau dîm yn gallu cytuno ar gyflwr y cae, ni fydd y gêm yn digwydd ac ni fydd unrhyw gosb yn erbyn y tîm sydd ddim yn fodlon chwarae. Bydd y gemau hynny sy’n cael eu gohirio wedyn yn cael eu haildrefnu ar y dyddiad addas nesaf sydd ar gael, oni bai bod y ddau dîm yn cytuno ar ddyddiad gwahanol i hynny ymysg ei gilydd.
  • Os yw’r ddau dîm yn fodlon chwarae ond bod dyfarnwr y gêm honno’n penderfynu nad yw’r cae’n addas i chwarae arno, ni fydd y gêm yn digwydd ac ni fydd unrhyw gosb yn erbyn y naill glwb na’r llall. Bydd y gemau hynny wedyn yn cael eu haildrefnu ar gyfer y dyddiad addas nesaf sydd ar gael, oni bai bod y ddau dîm yn cytuno ar ddyddiad gwahanol i hynny ymysg ei gilydd.

COFIWCH BARCHU PENDERFYNIAD TERFYNOL Y DYFARNWR YN UNOL GYDA’R GWERTHOEDD A’R YMDDYGIAD DISGWYLIEDIG

  • Mae’r Undeb felly yn gofyn i glybiau gyfathrebu â’i gilydd cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau nad oes unrhyw deithio diangen yn digwydd. Gall timau hefyd gyfnewid lleoliad y gemau os oes cytundeb rhwng y ddau glwb i wneud hynny, er nad oes unrhyw reidrwydd i wneud hynny yn ôl ein rheolau swyddogol.
  • Mae Bwrdd y Gêm Gymunedol hefyd wedi gwneud penderfyniad ychwanegol yng nghyd-destun llesiant chwarewyr. Os nad yw clwb yn fodlon chwarae oherwydd diffyg paratoi digonol ar gyfer cyswllt corfforol, ni fydd y gêm yn digwydd a bydd yn cael ei haildrefnu ar gyfer y dyddiad addas nesaf sydd ar gael, oni bai bod y ddau dîm yn cytuno ar ddyddiad gwahanol ymysg ei gilydd.

PWYSIG: MAE’R PENDERFYNIAD HWN YN BERTHNASOL AR GYFER GEMAU SYDD WEDI’U TREFNU RHWNG DYDD LLUN 31 AWST A DYDD SUL 13 MEDI YN UNIG.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn argymell yn gryf fod y timau sydd â gemau wedi’u trefnu rhwng y dyddiadau uchod yn parhau i gyfathrebu â’i gilydd er mwyn sicrhau bod pawb yn cytuno ac yn gyfforddus i’r gemau perthnasol hynny fynd yn eu blaen.

Bydd Undeb Rygbi Cymru yn darparu rhagor o wybodaeth am y materion yma yn gynnar yr wythnos nesaf. Bydd hynny’n cynnwys arweiniad a chyngor am gyflwr caeau ar gyfer y gemau hynny fydd yn digwydd yn ystod y cyfnod penodol sydd wedi ei nodi.

Mae’r wybodaeth a’r cyngor yma’n berthnasol i rygbi ar bob lefel yma yng Nghymru o fewn cyfnod y dyddiadau a nodwyd, a bydd yr Undeb yn adolygu’r sefyllfa cyn darparu arweiniad pellach.

Related Topics