News

S4C yn cadarnhau gemau byw Super Rygbi Cymru

Llandovery celebrate victory
Llanymddyfri'n dathlu eu llwyddiant y tymor diwethaf

Bydd Pencampwyr presennol Super Rygbi Cymru, Llanymddyfri, yn cael dechrau heriol i’w hymgyrch i amddiffyn eu coron, gan y byddan nhw’n teithio i Barc Pont-y-pŵl ddydd Sadwrn 12 Medi – a bydd S4C yno i’w darlledu.

Ddwy flynedd yn ôl, aeth y Prif Hyfforddwr Euros Evans â’i dîm, oedd ar y pryd yn Bencampwyr Uwch Gynghrair Indigo, i Bont-y-pŵl ar gyfer eu gêm gyntaf erioed yn Super Rygbi Cymru. Cafodd honno hefyd ei darlledu ar y teledu, a bydd gêm agoriadol y tymor eleni yn un o bedwar ymddangosiad y Porthmyn ar S4C hyd at benwythnos cyntaf Ionawr 2027.

Bydd S4C yn dangos gemau ar wahanol ddiwrnodau o’r wythnos, o nosweithiau Iau hyd at brynhawniau Sul. Mae gemau byw y 15 rownd gyntaf wedi’u dewis, a bydd manylion gemau diwedd y tymor yn cael eu cadarnhau yn gynnar y flwyddyn newydd.

Yn y gêm gyntaf hanesyddol honno ar Barc Pont-y-pŵl yn 2024 – oedd hefyd ar y 12fed o Fedi fel mae’n digwydd – roedd y Porthmyn ar ei hôl hi ddwywaith yn yr ail hanner cyn iddyn nhw ennill o 21-18 yn y pendraw. Er i’r ddau dîm sgorio dau gais yr un, cicio cywir Jack Maynard oedd y gwahaniaeth yn y pendraw.

Dywedodd Euros Evans, Prif Hyfforddwr Llanymddyfri: “Roedd Pont-y-pŵl yn anlwcus y tymor diwethaf gan iddyn nhw golli nifer o gemau agos. Fe wnaethon ni eu curo nhw 26-24 ar Fanc yr Eglwys yn ystod tymor arferol y gynghrair ac yna 40-24 ym Mharc Pont-y-pŵl.

“Fe allen nhw’n hawdd fod wedi’n curo ni pan ddaethon nhw i Lanymddyfri, ac fe aethon nhw’n agos iawn at drechu Cwins Caerfyrddin yn y gemau ail gyfle hefyd.

“Maen nhw wedi denu nifer o chwaraewyr da dros yr haf ac mae’n mynd i fod yn ddechrau anodd iawn i ni o flaen y camerâu teledu.”

Mae’r gêm hefyd yn gweld Euros Evans yn dod wyneb yn wyneb â Tom Hancock, fu’n hyfforddi yn Llanymddyfri cyn symud at y  Dreigiau a Phont-y-pŵl wedi hynny:

“Mae Tom wedi gwneud gwaith gwych yn newid arddull chwarae Pont-y-pŵl ac maen nhw’n fygythiad ym mhob rhan o’r cae erbyn hyn,” ychwanegodd Evans.

“Mae’r ffaith ei fod wedi gallu denu Evan Lloyd o Lyn Ebwy i ymuno â’r clwb yn dangos bod Pont-y-pŵl yn barod i ddatblygu ymhellach fyth. Roedd Evan yn allweddol i lwyddiant Glyn Ebwy dros ddau dymor cyntaf Super Rygbi Cymru mae sicrhau ei lofnod ef yn mynd i fod yn hwb mawr i Bont-y-pŵl.

“Maen nhw hefyd wedi llwyddo i ddenu cyn-ganolwr Dan 20 Cymru, Connor Edwards, o Bencampwriaeth Lloegr, yn ogystal â’r blaenasgellwr Ben Williams o’r Scarlets. Fe fydd y gêm gyntaf o’r tymor yn ornest wych.”

 

Related Topics