News

Lynn yn enwi carfan ymarfer estynedig Cymru ar gyfer pedair gêm Cyfres y WXV

Sean Lynn during a Wales rugby training session ahead of their Womens Rugby World Cup match against Canada
Sean Lynn

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Sean Lynn, wedi enwi carfan ymarfer estynedig o 46 o chwaraewyr ar gyfer Cyfres y WXV sydd ar y gorwel.

Bydd Cymru’n wynebu De Affrica ar Barc yr Arfau ddydd Gwener 18 Medi (19.15) ac yna’r Unol Daleithiau ar y Sadwrn canlynol (Medi 26) yn yr un lleoliad am 3pm. Wedi hynny byddant yn teithio i Japan i chwarae dwy Gêm Brawf ym mis Hydref.

Mae Lynn wedi cynnwys 14 o chwaraewyr sydd heb ennill cap hyd yma, gan gynnwys Lily Hawkins, Amy Williams, Kelsie Webster, Stella Orrin a Lucy Issac, chwaraeodd yn y gêm ryngwladol ddi-gap yn erbyn y Barbariaid yn Twickenham yn ddiweddar.

Bydd y maswr Ffion Williams, y prop Crystal James, y bachwr Shannelle Williams a’r canolwr Savannah Picton Powell, sy’n dychwelyd i’r garfan ar ôl anaf, hefyd yn gobeithio ennill eu capiau cyntaf yn ystod y Gyfres.

TOCYNNAU AR GYFER DE AFFRICA A’R UNOL DALEITHIAU AR GAEL YMA.

Mae’r garfan estynedig yn cynnwys 37 o chwaraewyr sydd wedi cynrychioli Brython Thunder neu Gwalia Lightning yn yr Her Geltaidd.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru,  Sean Lynn: “Mae hon yn garfan sy’n cynnwys nifer o wynebau newydd wrth i ni baratoi ar gyfer her gyffrous y tymor newydd yng nghystadleuaeth y WXV.

“Mae’r chwaraewyr sydd wedi’u dewis wedi creu argraff fawr yn ddiweddar ac fe fyddan nhw’n cael eu profi’n wirioneddol yn ein hymarferion, cyn i ni enwi’r garfan derfynol ar gyfer y gemau Prawf yn erbyn De Affrica, UDA a Japan.

“Cafodd pob chwaraewr gynllun ymarfer unigol dros fisoedd yr haf. Mae’r safonau sydd wedi eu gosod yn uchel ac mae pob un o’r chwaraewyr yn ymwybodol o’r hyn sy’n ddisgwyliedig ganddyn nhw. Mae hynny’n golygu y gallwn ganolbwyntio’n llwyr ar ddatblygu’r elfennau rygbi pan ddown ni at ein gilydd fel carfan lawn.”

Carfan Ymarfer Estynedig Cymru ar gyfer y WXV
Blaenwyr (25)
Gwenllian Pyrs (Sale), Maisie Davies (Caerwysg), Katherine Baverstock (Gwalia Lightning), Crystal James (Gwalia Lightning), Shannelle Williams (Brython Thunder), Molly Reardon (Gwalia Lightning), Molly Wakely (Gwalia Lightning), Kelsey Jones (Sale), Elan Jones (Brython Thunder), Stella Orrin (Brython Thunder), Donna Rose (Saraseniaid), Sisilia Tuipulotu (Harlequins), Gwen Crabb (Brython Thunder), Tilly Vucaj (Gwalia Lightning), Natalia John (Brython Thunder), Branwen Metcalfe (Brython Thunder), Georgia Evans (Saraseniaid), Alex Callender (Harlequins), Bryonie King (Gwalia Lightning), Bethan Lewis (Bryste), Alisha Joyce (Brython Thunder), Kate Williams (Hartpury-Caerloyw), Jorja Aiono (Hartpury-Caerloyw), Lucy Issac (Brython Thunder), Anwen Owen (Gwalia Lightning).

Olwyr (21)
Keira Bevan (Bryste), Seren Lockwood (Brython Thunder), Lily Hawkins (Gwalia Lightning), Kayleigh Powell (Harlequins), Lleucu George (Hartpury-Caerloyw), Ffion Williams (Brython Thunder), Courtney Keight (Sale), Freya Bell (Gwalia Lightning), Carys Cox (Ealing), Jenna De Vera (Brython Thunder), Savannah Picton Powell (Brython Thunder), Hannah Dallavalle (Hartpury-Caerloyw), Nikita Prothero (Gwalia Lightning), Jasmine Joyce (Brython Thunder), Amy Williams (Brython Thunder), Kelsie Webster (Gwalia Lightning), Nel Metcalfe (Hartpury-Caerloyw), Seren Singleton (Brython Thunder), Lisa Neumann (heb glwb), Hanna Marshall (Brython Thunder), Hanna Tudor (heb glwb).

Related Topics