Wedi iddo adael Glyn Ebwy dros yr haf, fe roddodd Evan Lloyd flas i gefnogwyr Pont-y-pŵl o’r hyn y gallan nhw ei ddisgwyl ganddo y tymor hwn, wrth iddo gyfrannu 16 phwynt mewn buddugoliaeth o 55-15 dros Drecelyn mewn gêm gyfeillgar.
Sgoriodd y maswr dawnus ddau o naw cais ei dîm, gan ychwanegu tri throsiad hefyd. Roedd cais hefyd i’r newydd-ddyfodiad arall Connor Edwards.
Y cefnwr Ewan Rosser agorodd y sgorio wedi ei ryng-gipiad a’i rediad o un pen y cae i’r llall. Ellis Lewis, Jake Sheppard, Lewis Appleby, Carter Pritchard a Liam Antrobus sgoriodd geisiau eraill y tîm cartref.
Bydd Pont-y-pŵl yn cwblhau eu gemau paratoadol gyda gêm yn erbyn Cinderford ddydd Sadwrn. Yna byddant yn troi eu sylw at eu gêm agoriadol yn Super Rygbi Cymru yn erbyn y Pencampwyr presennol, Llanymddyfri, ar 12 Medi.
Dechreuodd Rygbi Gogledd Cymru eu paratoadau ffurfiol nhw ar gyfer y tymor newydd gyda buddugoliaeth o 29-21 dros Gaer, gan sgorio pum cais yn y broses. Cafodd y Prif Hyfforddwr Jon Callard gyfle i roi profiad i nifer o chwaraewyr ifanc, a’r newydd-ddyfodiad Ieuan Cornelius – agorodd y sgorio wrth iddyn nhw adeiladu mantais o 17-14 erbyn yr egwyl.
Sgoriodd Jac Williams a Gruff Llwyd hefyd cyn yr egwyl, gyda Billy McBryde yn ychwanegu trosiad. Cipiodd Llwyd ei ail gais yn yr ail hanner cyn i Daf Thirsk ychwanegu un arall. Ail drosiad McBryde oedd sgôr ola’r ornest.
Mae gan dîm Callard, sy’n dechrau eu hymgyrch Super Rygbi Cymru oddi cartref yn erbyn Casnewydd ar 12 Medi, un gêm gyfeillgar arall cyn i’r tymor ddechrau o ddifrif. Byddan nhw’n croesawu Coventry i Fae Colwyn ar 29 Awst.
Fe sgoriodd clwb Caerdydd 15 cais yn eu buddugoliaeth ysgubol o 99-7 dros y clwb lleol St. Alban ym Mharc yr Arfau. Dim ond y blaenasgellwr Aled Ward lwyddodd i sgorio ddwywaith, tra llwyddodd Ben Coomer gyda chwe throsiad yn yr hanner cyntaf wrth i’r tîm cartref sefydlu mantais o 52-7 erbyn yr egwyl.
Cafodd Aberafan brynhawn pleserus ar Faes y Talbot Athletic yn erbyn y Cymry yn Llundain gan iddyn nhw ennill o 50-19. Roedd hwn yn achlysur arbennig i’r dyfarnwr Simon Harris, gafodd y cyfle i ddyfarnu ei gêm olaf yn ei dref enedigol wedi 35 mlynedd o wasanaeth rhagorol. Fel y nododd y clwb ar eu tudalen Facebook: “Roedd yn fraint i Glwb Rygbi Aberafan chwarae rhan fechan ym mhennod olaf cyfraniad mor nodedig i rygbi Cymru.”
Fe ddefnyddiodd Cwins Caerfyrddin dri thîm gwahanol i bob pwrpas yn eu buddugoliaeth o 49-12 yn Ninbych-y-pysgod, tra bod Glyn Ebwy wedi ennill 28-14 yn erbyn Cross Keys – mewn gêm ddathlodd fywyd cyn-reolwr tîm Cross Keys, Mark Prangell.
Abertawe enillodd gêm gyffrous oedd yn cynnwys 11 cais yn erbyn Plymouth Albion. Llwyddodd y Cymry i gipioi’r fuddugoliaeth o 36-33 yn y pendraw ar gae synthetig Prifysgol Abertawe. Sgoriodd yr asgellwr Brandon Wood dri chais i’r tîm cartref, gyda Kai Inker, Matt Protheroe a Harvey James hefyd yn croesi am geisiau.
Bydd y Gwynion yn teithio i Richmond ar gyfer eu gêm baratoadol olaf y penwythnos hwn cyn dechrau eu tymor yn swyddogol gyda gemau oddi cartref heriol yn erbyn Glyn Ebwy a Chaerdydd.
Fe enillodd Pen-y-bont o 33-19 yn Bedwas, gan sgorio pum cais i dri yn erbyn Pencampwyr y Dwyrain ac enillwyr Cwpan y Pencampwyr y tymor diwethaf. Fe hawliodd Cameron Ellis ddau gais, gyda Gabe Lacey, Naquan Smith a Sam Watkins yn sgorio’r lleill.
Bydd Pen-y-bont yn teithio i’r Gnoll nos Wener i wynebu Castell-nedd cyn cwblhau eu paratoadau gyda gêm yn erbyn y Beddau ar 29 Awst. Bydd eu gêm gyntaf yn Super Rygbi Cymru oddi cartref yn erbyn Aberafan.
Aeth y Pencampwyr presennol, Llanymddyfri, i Glwb Rygbi Llandybïe yr wythnos ddiwethaf i helpu’r clwb i ddathlu ei ben-blwydd yn 125 oed. Roedd y Porthmyn ar eu gorau wrth iddyn nhw ennill o 87-0. Fe fydd Euros Evans a’i garfan yn teithio i gartref Pencampwyr yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf, Merthyr, nos Iau (20 Awst).
