News

Dechrau cyffrous i Bencampwriaeth yr Academïau

Olly Morris yn sgorio dros Y Dreigiau

Y Pencampwyr presennol y Gweilch a Chaerdydd, sydd wedi gorffen yn ail am y ddau dymor ddiwethaf ym Mhencampwriaeth Academïau Dan 19 Undeb Rygbi Cymru, ac fe ddechreuon nhw eu tymhorau gyda buddugoliaethau yn eu gemau agoriadol. Ddydd Sul yma (23 Awst) byddan nhw’n wynebu ei gilydd ar Barc yr Arfau.

Enillodd y Gweilch, gyda meibion pedwar o chwaraewyr enillodd y Gamp Lawn yn eu carfan, eu gêm ddarbi yn erbyn y Scarlets ar y Gnoll o 33-19. Yn y dwyrain, aeth Caerdydd i Ystrad Mynach a churo’r Dreigiau.

Sgoriodd asgellwr Caerdydd Devon Morris dri chais, ac er i asgellwr y Dreigiau Dylan Cole wneud yr un peth, bechgyn rhanbarth y Brifddinas aeth â hi o 53-38. Dim ond tri phwynt oedd rhwng y timau, 29-26, ar ddiwedd hanner cyntaf hynod gyffrous cyn i bac Caerdydd reoli’r ail gyfnod.

Gyda nifer o chwaraewyr ar ddyletswydd gyda chlwb Chaerdydd, ac eraill heb eu hystyried wedi iddyn nhw fod ar ddyletswydd gyda Charfan Ddatblygu Dan 18 Cymru yr wythnos flaenorol, mae’n debygol y bydd nifer o newidiadau ar gyfer y gêm yn erbyn y Gweilch – y tîm sydd wedi bod yn Bencampwyr am y ddau dymor diwethaf.

PENCAMPWRIAETH ACADEMÏAU DAN 18 UNDEB RYGBI CYMRU

Rownd 1 – Ddydd Sul 16 Awst
DREIGIAU 38 – 53 CAERDYDD
GWEILCH 33 – 19 SCARLETS
HEB GÊM: Rygbi Gogledd Cymru

Rownd 2 – Ddydd Sul 23 Awst
SCARLETS v RGC – Llanymddyfri 2.30pm
CAERDYDD v GWEILCH – Parc yr Arfau 2.30pm
HEB GÊM: Dreigiau

Rownd 3 – Ddydd Sul 30 Awst
RGC v CAERDYDD – Parc Eirias 2.30pm
GWEILCH v DREIGIAU – Y Gnoll 2.30pm
HEB GÊM: Scarlets

Rownd 4 – Ddydd Sul 6 Medi
DREIGIAU v RGC – Ystrad Mynach 2.30pm
CAERDYDD v SCARLETS – Parc yr Arfau 2.30pm
HEB GÊM: Gweilch

Rownd 5 – Ddydd Sul 13 Medi
RGC v GWEILCH – Parc Eirias 2.30pm
SCARLETS v DREIGIAU – Llanymddyfri 2.30pm
HEB GÊM: Caerdydd

Related Topics