News

Cyfnod ymarfer gwerthfawr i ddoniau disglair y dyfodol

Siwan Lillicrap
Siwan Lillicrap

Cafodd chwarewyr mwyaf addawol Cymru ar lefel dan 18 oed eu trochi mewn rhaglenni ymarfer dwys yn Yr Alban a’r Iseldiroedd yr wythnos ddiwethaf; profiadau ddylai fod o fudd mawr iddyn nhw ar gyfer y tymor sydd i ddod, yn ôl eu prif hyfforddwyr cenedlaethol.

Cafodd carfan ddatblygu dynion dan 18 Cymru Richie Pugh, gêm gyfartal a buddugoliaeth yn erbyn yr Albanwyr a’r Eidalwyr ym Mhrifysgol Stirling, tra sicrhaodd tîm merched Siwan Lillicrap fuddugoliaeth yn erbyn yr Iseldiroedd a cholled yn erbyn Yr Alban a’r Alban yn Amsterdam.

Rhoddodd Pugh gyfle i 31 o chwaraewyr geisio dal ei lygad rhwng ddydd Sul a dydd Sadwrn wrth iddo ddechrau ei baratoadau ar gyfer Gŵyl y Chwe Gwlad ym mis Ebrill.

Dywedodd Richie Pugh: “Drwy gydol yr wythnos fe gawson ni’r cyfle i ymarfer gyda chwaraewyr Yr Alban a’r Eidal cyn gorffen gyda gemau 40 munud yn eu herbyn.

“Mae bob amser yn werthfawr paratoi yn y ffordd yma ac mae’n gyfle da i’r chwaraewyr ddangos eu doniau. Daeth Will Carroll, Isaac Jones, Harri Lewis a George Thomas yn ôl o’r llynedd ac roedd hynny’n help mawr o safbwynt ein patrwm a chysondeb ein chwarae.

“Bydd llawer o fechgyn eraill yn dod i’r amlwg yn nes ymlaen yn ystod y broses, ond roedd hi’n sicr yn wythnos ddatblygu dda i ni,” ychwanegodd Pugh, welodd ei dîm ifanc yn cael gêm gyfartal 12-12 â’r Alban ac yn curo’r Eidal 14-12.

Bydd yr holl chwaraewyr yn dychwelyd at eu rhanbarthau i chwarae ym Mhencampwriaeth Dan 18 yr Academïau, sy’n dechrau ddydd Sul. Ar ôl y pedair rownd gyntaf o gemau, bydd y chwaraewyr wedyn yn dychwelyd i’w hysgolion a’u colegau i chwarae yn y gystadleuaeth honno am weddill y tymor:

“Dwi’n credu bod yr wythnos hon wedi rhoi blas i’r chwaraewyr o beth all fod ar y gorwel iddyn nhw – ac maen nhw’n awyddus am fwy. Mae’n amser iddyn nhw nawr ddangos beth allan nhw ei wneud dros eu hacademïau, eu hysygolion a’u colegau.

“Bydd gennym rai diwrnodau ymarfer eraill ar gyfer y grŵp ehangach cyn i ni ddechrau ar ein rhaglen ryngwladol dros y Pasg.”

Disgrifiodd Siwan Lillicrap wersyll y merched yn yr Iseldiroedd fel un “hynod lwyddiannus” i’r 29 o chwaraewyr a gymrodd ran.

“Roedd yn gyfle gwych i’r grŵp brofi wythnos o ymarfer dwys, lle gwnaethon ni herio’r chwaraewyr ar y cae ac oddi arno a chynnig profiad iddyn nhw o amgylchedd hyfforddi elît,” meddai.

“Roedd hefyd yn gyfle pwysig i’r chwaraewyr gael profiad o deithio dramor a threulio amser gyda’i gilydd fel grŵp – elfennau pwysig o ddatblygu fel tîm.”

Daeth yr wythnos i ben gyda dwy hanner gêm gystadleuol yn Amsterdam ddydd Sadwrn, lle collodd Cymru o drwch blewyn 27-24 yn erbyn Yr Alban cyn sicrhau buddugoliaeth o 17-12 dros yr Iseldiroedd.

“Roedden ni’n falch iawn o ymdrechion y grŵp,” meddai Lillicrap, cyn ychwanegu: “Dysgodd y chwaraewyr a’r staff lawer iawn drwy gydol yr wythnos.

“Mae’r profiad wedi rhoi dealltwriaeth glir i bawb o’r meysydd lle rydyn ni’n perfformio’n dda a’r meysydd lle mae angen i ni barhau i wella a datblygu.

“Mae’n gyfnod cyffrous i’r grŵp egnïol a thalentog yma o chwaraewyr, sydd ag uchelgais gwirioneddol. Mae’r amser yma gyda’n gilydd wedi bod yn gam pwysig arall yn eu datblygiad ac mae’n darparu sylfaen gadarn iddyn nhw ar gyfer yr hyn sydd i ddod.

“Dwi’n gyffrous iawn i weld y grŵp yma’n tyfu ac yn datblygu y tymor hwn.”

Carfan ddatblygu dynion dan 18 Cymru

Blaenwyr
Adam Oaten (Rygbi Caerdydd), Alex Ballinger (Rygbi Caerdydd), Bobby Bennett (Gweilch), Ben Probert (Sale), Elis Evans (Scarlets), Ffredi Easterby (Rygbi Caerdydd), Harri Lewis (), Ifan Gravell-Jones Rygbi Caerdydd (Rygbi Caerdydd), Isaac Jones (Rygbi Caerdydd), Jacob Jones (Gweilch), Jayden Llewellyn (Bryste), Jayden Underhill (Gweilch), Liam Williams (Rygbi Caerdydd), Rory Brown (Saraseniaid), Szymon Dominiak (Scarlets), Troy Raymond (Dreigiau), Will Carroll (Gweilch), Mason James (Ospreys), Ben Loosmore (Caerfaddon)

Olwyr
Cole Inker (Scarlets), Cooper White (Rygbi Caerdydd), Dylan Williams (Scarlets), Ellis Anderson (Dreigiau), Evan Rees (Scarlets), George Thomas (Rygbi Caerdydd), Isaac Manning-Burke (Rygbi Caerdydd), Kaiden Brooke (Gweilch), Mason Garrett (Bryste), Otis Mighten (Dreigiau), Rhys Dyer (Dreigiau), Rhys James (Scarlets), Sam Gibbard-Jones (Saraseniaid), Sam Trotman (Rygbi Gogledd Cymru)

Carfan ddatblygu merched dan 18 Cymru

Blaenwyr
Erin Carson, Oliva Lynn, Mali Nicholls, Lois Llywelyn, Chloe Williams, Sian Rowlands, Erin Gravell, Lili Toghill, Nanw Ffransis, Megan O’Connell, Tallulah Knoyle, Alys Roberts, Amelia Marsh, Sera Lloyd, Eos Hopkins

Olwyr
Soffia Walters, Tia Thomas, Sienna McCormack, Evie Ellis, Cadi Wyn Jones, Lucy Mainwaring, Lana Rudge, Beca Griffiths, Zillah Radrodro, Freya Perry, Jasmine Clements, Alaw Roberts, Beatrice Morgan, Sara Owain

Related Topics